Dwi'm yn bod yn morbid, ond dwi di bod yn meddwl yn ddiweddar am be fyswn i'n licio i bobol ganu yn fy nghynhebrwng i rhyw ddiwrnod (ddim am flynyddoedd maith gobeithio).
Ym mron bob cynhebrwng dwi di bod ynddynt yn ddiweddar, mae pobol di bod yn dewis yr un hen emynau diflas, sef "Mi glywaf dyner lais" a "The Lord is my shepherd". 'Da chi'n meddwl mai'r rheswm am hyn ydi, nad ydi pobol yn mynychu'r capel neu'r eglwys fatha oeddan nhw ers stalwm, ac felly ddim yn medru meddwl am emynau gwell na rhain?
Dwi di penderfynu na fydd fy nghynhebrwng i yn un diflas (a na fydd pobol yn mynd o'na'n cwyno "blincin 'Mi glywaf dyner lais' 'na eto"). Be fyswn i'n licio i bobol ganu? Wel, mae tair emyn yn dod i'm meddwl a dweud y gwir, sef:
"Mi dafla'i maich oddi ar fy ngwar";
"O fy Iesu bendigedig, unig gwmni f'enaid gwan" a
"Dod ar fy mhen dy Sanctaidd law"
Hefyd, fyswn i'n isio i bobol lenwi amlosgfa Bangor hefo blodau er cof amdanaf (wrth gwrs mi fyddai'n ei gwylio nhw o'r nefoedd!).
Ydach chi hefyd di bod yn meddwl am hyn, ta dim ond fi sy'n rhyfedd?