Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan Duw » Mer 01 Ebr 2009 10:22 pm

Digwyddodd rhywbeth heddi sy wedi fy ngwylltio'n llwyr. Roedd fy mab (10 blwydd oed) yn cymryd ei arholiad trwmped (gradd 4) yng Nghaerdydd. Aeth ei athrawes gydag e er mwyn canu'r piano. Wrth iddi fyned i mewn i'r ystafell dywedodd i'r bachgen, "tiwnia d'offeryn i ec." Ymatebodd, 'ych chi am i mi ei diwnio i ec?' Ar hynny aeth yn arholwr yn wyllt, "Are you speaking Welsh? That's nice. I don't speak Welsh so I think we'll stick to English here, if that's quite alright with you!" Ni chafodd ei ddweud mewn ffordd ysgafn 'chwaith. Yn ôl y sôn roedd y dyn yn ddiawl uffernol o gâs yn dilyn hwnna. Ypsetiodd hwn y mab yn ofnadwy, ac yn rhaid i'r athrawes cnoi'i thafod rhag achosi 'problem' (dwi ddim yn ei beio). Rhyw ddiawl o Loegr a ddaeth lawr i arholi plant Cymru ym Mhrifddinas ein hunain. Allen i wasgu ei lyged mas y cythrel syrchus. Ydw i'n gwneud cwyn swyddogol nawr neu aros tan i'r canlyniade ddod nol? Dwi'n becso bydde cwyn yn sbwylo ei siawns o lwyddo, ond hefyd dwi'n becso os odd e'n methu, bydde cwyno wedyn yn swnio fel sour grapes.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan adamjones416 » Iau 02 Ebr 2009 6:42 am

Cwyno nawr, Ni wneith hyn amharu ar radd eich plentyn. Mae beth ddigwyddodd yn ôl beth rydych wedi sôn yn warthus a baswn i ddim yn rhoi lan â dwli fel'na. Roedd agwedd yr arholwr yn sarhaus yn hiliol ac yn gwbwl amhroffesiynol felly baswn i ddim yn meddwl ddwywaith. Mae eisiau dangos bod y siwt fath o tanseilio a beirniadaeth ar y Gymraeg yn dal i fodoli yng Nghymru a dyw e ddim yn deg bod arholwr o'r fath agwedd yn Dysgu yng Nghymru. Oes modd i dy blentyn gael arholwr Cymraeg ei iaith? Os oes Mynna un. Ond na nid yw'n "Sour grapes" mae hynny'n gwbwl ddiwahardd a dylet gwyno amdano'n syth. Cythraul bach.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan Mali » Iau 02 Ebr 2009 5:06 pm

Cytuno efo Adam . Mi fydd 'na wythnos oleiaf dwi'n siwr nes i ti gael y canlyniadau , ac yn y cyfamser , rwyt yn mynd i ferwi am y peth tan hynny. A hyd yn oed os y basa'r arholwr wedi dweud be ddaru o mewn 'ffordd ysgafn' , mi fasa fo dal wedi bod yn anghywir yn dweud be ddaru o , o dan yr amgylchiadau yma. Dwi'n siwr fod dy fab yn ddigon nerfus fel yr oedd hi , heb i'r arholwr anymunol wneud pethau'n waeth trwy ei agwedd cas a speitlyd .
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan Josgin » Iau 02 Ebr 2009 6:44 pm

Cwyna am y diawl yn y termau casaf posibl. Mi fydda i'n sarhaus iawn gyda Saeson fel hyn bob tro. Tydw i ddim yn credu y gellir newid eu meddyliau anwybodus, felly ymladd tan gyda tan yw'r ateb. Gyda'r llaw , bum yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer y peldroed. Yr unig Gymraeg a glywais oedd Cymraeg cyfeillion eraill o'r Gogledd . Mae digon o Gymraeg gweladwy,ond lle mae'r ' adfywiad ' honedig yma ? . Digon o Bwyleg a Ffinneg , cofiwch.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan bed123 » Iau 02 Ebr 2009 6:47 pm

Ia, plis rho cwyn i fewn. Y fwy rydyn ni yn cwyno am yr agwedd annerbyniol a bigotaidd yma nawr, y llai fydd ein plant, a eu plant nhw yn gorfod gwynebu.
Pob lwc.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan Duw » Iau 02 Ebr 2009 6:53 pm

Diolch yn fawr am eich sylwadau. Dwi wrthi'n creu llythyr, ond dwi'n gwylltio pob tro dwi'n gosod brawddeg arall - well i mi ei adael ar gwpwl o ddiwrnode. Na'i hala ar ddiwedd yr wythnos. Hoffwn dderbyn unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill yn y cyfamser. Diolch pawb.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan bed123 » Iau 02 Ebr 2009 7:10 pm

Wyt ti wedi meddwl am ffonio rhaglen Dylan Jones ar Radio Cymru 'Taro Post'? Dwi'n siwr fysa nhw yn helpu chdi.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan Josgin » Iau 02 Ebr 2009 7:12 pm

Beth yw'r corff dyfarnu ar gyfer yr arholiad ? - mae'n rhaid fod yna un sy'n dilysu . Ysgrifenna atynt hwythau, oherwydd hwy fydd yn talu'r twmffat .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan Duw » Sad 04 Ebr 2009 10:25 am

DIolch am y sylwadau:

bed123: syniad da, er dwi ddim am unrhyw cyhoeddusrwydd parthed fy mhlentyn. Rhywbeth i ystyried efallai pan gaf ymateb o'r bwrdd arholi.

jos: Trinity Guildhall oes y bwrdd - a byddaf yn bendant yn hala cwyn go gryf.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

Postiogan Blewyn » Sad 04 Ebr 2009 6:53 pm

Mi fyswn i'n meddwl fod gelyniaeth yr arholwr tuag atoch yn ddigon o reswm i godi cwyn difrifol a ddylia weld y lembo yn derbyn rhybudd swyddogol o leiaf - heb son am hawliau iaith ayyb. Mae'n ddyletswydd arno i wneud yn siwr fod yn rhai sydd yn cael eu arholi yn cael cyfle teg mewn amgylchedd priodol, ag o leiaf i fod yn amhersonol am y peth os na fedr o ffendio'r gallu yn ei hun fod yn gefnogol. Mae bod yn ymosodol efo mam a plentyn sydd ar fin dechrau arholiad yn gyweilyddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron