Jiawl ma'n sgilie cyfathrebu i'n wael heddi!
Fi'n cytuno gyda Sian, Tracsiwt Gwyrdd a Mr Gasyth, fi ddim yn credu mae rhywbeth i wneud gyda byw mewn coed yw hi.
Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:...sori duw, ond ti'n rong! (am frawddeg dda!)
Dwi ddim yn hollol convinced bod y sail geneteg i'r ffenomenon 'ma'n ddilys.
Duw a ddywedodd:Falle dy fod yn meddwl ei fod yn ddibwys Hedd, ond mae'r ffaith bo anifeiliaid amrimataidd yn breuddwydio'n tanlinellu mwy o dystiolaeth dargyfeiredd o gyndad cyffredin ar bwynt yn y gorffennol. Yn ol rhesymeg, bydde esblygiad epa (cyndad) i fod dynol wedi digwydd sbel ar ôl y dargyfeiriad i gwn/epau (os oedd shwd bwynt), a bydde hynny'n awgrymu bod ein cyndadau epog yn breuddwydio hefyd. Os felly, gallwn weld pwrpas i'r atgyrch (cwympo o'r coed?). Er, a oes rhaid bod pwrpas iddo? Wedi'r cyfan beth yw pwrpas breuddwydio am hela cathod i gwn? Efalle bod un, ond yn aml ma tuedd i fod yn anthropomorffig iawn wrth ystyried 'pwrpas'.
Rhaid dweud, er bo llawer o falu cachu 'ma (yn enwedig gen i), dyma'r edefyn gore dwi wedi dilyn ers sbel.
Duw a ddywedodd:Ywtstanding Ceri. Rhaid dangos hwnna i'r disgyblion!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai