gan Duw » Maw 07 Ebr 2009 7:45 pm
Mr. G. - dyna'm pwynt - mae mwy nag un ffordd o gyfeirio esblygiad. Mae P.G ('genetig' - sori am y camsillafu blaenorol, diolch Ceri) yn eang ei faes, dwi'n gwybod ac mae rhai datblygiadau'r maes yn edrych yn ddychrynllyd, ond mae rhai prosesau a gweithgareddau'n hollol agored ac wedi mynd ymlaen ers milenia, sef - bridio detholus. Oherwydd nid ydym fel rheol yn delio gyda newidiadau i enynnau'n uniongyrchol, mae teimlad ei fod yn eithaf 'naturiol' a felly'n ddiogel. Dwi'n teimlo bod hwn, i roi sbin anthropomorffig iddo, yn weddol Natsiaidd. Y ffaith rydym yn newid anifeiliaid i'n siwtio ni - tymer arbennig, siap arbennig, ac ati - wedi fy mhoeni ers dro. Mae ein tincro gyda rhai rhywogaethau wedi mynd mor bell bo rhai ohonynt yn methu bridio â'i gilydd o gwbl. O ran gweledigaeth cadwraethol, a ydym yn gwynebu catastroffi?