player

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

player

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 03 Ebr 2009 3:42 pm

sgin rywun syniad be fasa term am hyn yn gymraeg - "he's a player", math yna o beth.
"ma'n gwbod sut i edrach ar ol 'i hun" ydi 'r peth gora fedra' i feddwl amdano fo, ond 'di o'm yn cyfleu 'run fath cweit.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: player

Postiogan Ray Diota » Gwe 03 Ebr 2009 4:08 pm

i fi, ma 'player' yn golygu merchetwr... ddim rhywun sy'n gallu ymladd...

"ma fe'n dipyn o foi", falle?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: player

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 03 Ebr 2009 4:14 pm

Ray Diota a ddywedodd:i fi, ma 'player' yn golygu merchetwr... ddim rhywun sy'n gallu ymladd...


ydi o? oni'n meddwl na rywun sy'n gwbod sut i chwara'i, math o beth, oedd o - gallu blingo neu dwyllo rhywun i roi lot o bres iddyn nhw, ella. dyna dwi isho, deud gwir.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: player

Postiogan Ray Diota » Gwe 03 Ebr 2009 4:43 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:i fi, ma 'player' yn golygu merchetwr... ddim rhywun sy'n gallu ymladd...


ydi o? oni'n meddwl na rywun sy'n gwbod sut i chwara'i, math o beth, oedd o - gallu blingo neu dwyllo rhywun i roi lot o bres iddyn nhw, ella. dyna dwi isho, deud gwir.


ma'r lincs isod yn awgrymu mai merchetwr yw player

http://www.google.fr/search?hl=fr&q=he% ... =&aq=f&oq=

ond wy'n deall be s'da ti nawr. hustler, rili, ie?

ma'r boi'n slei/gyfrwys/dwyllodrus...? (aaaaargh - crap, sori!)
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: player

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 05 Ebr 2009 10:15 am

A finnau'n byw ymhlith pobl sy'n siarad Saesneg (sorto) ac heb glywed y term. Sai'n golygu "team player" i mi, h.y. rhywun sy'n fodlon cydweithredu ac ati.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: player

Postiogan Josgin » Sul 05 Ebr 2009 11:09 am

Ffliar ydi un gair dwi'n cofio - gair o Sir Gaernarfon . Jarff ydi un arall (hunan-hyderus) O Pen Llyn mae hwnnw, 'dwi'n meddwl.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: player

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Sul 05 Ebr 2009 12:05 pm

ma' raid chi watsiad dy hun - neith hwnna. diolch am yr help x
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: player

Postiogan Duw » Sul 05 Ebr 2009 2:38 pm

coc wyllt o'n i'n galw nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: player

Postiogan Ray Diota » Sul 05 Ebr 2009 3:22 pm

Duw a ddywedodd:coc wyllt o'n i'n galw nhw.


merched sy'n gocwyllt 'chan...

'cocslei' dwi'n lico am player...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: player

Postiogan Ray Diota » Sul 05 Ebr 2009 3:26 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:A finnau'n byw ymhlith pobl sy'n siarad Saesneg (sorto) ac heb glywed y term. Sai'n golygu "team player" i mi, h.y. rhywun sy'n fodlon cydweithredu ac ati.


cydweitredu, ie... 'da ffani!

siwr bo fi di clywed chi gogs yn gweud: dydi o'm yn dryst... hy. allwch chi ddim trystio'r person

beth am: fydde hwnna'n gwerthu'i nain... ne rwbeth tebyg?

*ma ishe i ni fathu gair os nad os un i gal, bois bach...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron