sgin rywun syniad be fasa term am hyn yn gymraeg - "he's a player", math yna o beth.
"ma'n gwbod sut i edrach ar ol 'i hun" ydi 'r peth gora fedra' i feddwl amdano fo, ond 'di o'm yn cyfleu 'run fath cweit.
Cymedrolwr: Gwen
Ray Diota a ddywedodd:i fi, ma 'player' yn golygu merchetwr... ddim rhywun sy'n gallu ymladd...
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:Ray Diota a ddywedodd:i fi, ma 'player' yn golygu merchetwr... ddim rhywun sy'n gallu ymladd...
ydi o? oni'n meddwl na rywun sy'n gwbod sut i chwara'i, math o beth, oedd o - gallu blingo neu dwyllo rhywun i roi lot o bres iddyn nhw, ella. dyna dwi isho, deud gwir.
Duw a ddywedodd:coc wyllt o'n i'n galw nhw.
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:A finnau'n byw ymhlith pobl sy'n siarad Saesneg (sorto) ac heb glywed y term. Sai'n golygu "team player" i mi, h.y. rhywun sy'n fodlon cydweithredu ac ati.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 46 gwestai