Duw a ddywedodd:dwi ddim yn meddwl af yn gyhoeddus 'da hwn, wedi'r cyfan, rhywbeth personol ydyw ac nid wyf am ypsetio'r mab bellach. Llythyr ar ei ffordd i'r bwrdd. DIolch o'r galon am y cefnogaeth ac awgrymiadau pawb. Trueni ein bod ni'n byw mewn oesoedd mor PC - hoffwn chwilio am y boi a chael 2 funud mewn stafell fechan 'da fe.
gobitho bod e'n lythyr digon crac 'da ti... fydden i ddim yn dal nol trwy bryder am ganlyniad dy fab, ma dowt 'da fi fydden nhw'n gadel iddo fe ddylanwadu ar y canlyniad...
fel lot ohonon ni, nes i'r egsams hyn, parctical a theori, a dwi'n rhyw gofio bod yr holl beth yn seisnig ofnadw... oes posib neud egsams o'r fath drwy'r Gymraeg? ma dowt da fi...
pob lwc i'r boi bach ta beth!