Be dwi ddim yn deall yw'r ffaith bo cwmnie'n rhoi lan eiu harian i noddi'r gynghrair ac yna timoedd ddim yn trio. Os o'n i'n un o'r noddwyr, bydden yn gofyn am f'arian yn ol. Os oes gormod o geme, angen edrych ar hyn - er mae carfane'r timoedd yn digon mawr i ddelio'n sicr? Os nac oedd timoedd yn mynnu ar doreth o chwaraewyr rhyngwladol, bydde mwy ohonynt ar gael am fwy o geme?
Dwi wedi hen roi lan ar wylio rygbi domestig - y Magners yn arbennig. Gwastraff amser llwyr. Stim affach o ddiddordeb gen i weld ein bois yn colli i'r Albanwyr, na chwaith yn rhoi sgor criced arnynt. Un peth bydde'n dal y dychymyg yw ding-dong wythnosol yn erbyn timoedd fel Saracens, Caerloyw, Wasps, Caerfaddon a'r criw. Dwi'm gweld dim yn bod ar hyn (gwrth-Gymreig?? Pwy ddwedodd hwnna?)