Ych a fi ...mae rhai o'r sylwadau 'na ar facebook yn uffernol o hyll , yn enwedig y rhai am y plant .
Newydd ddarllen geiriau Michael Parkinson , ac mae'n amlwg ei fod o , yn ogystal a nifer fawr o bobl yn y DU o wedi cael digon o'r holl 'sioe'.
Michaels comments are right and not a personal attack on Jade, but society.
Ac mae'r gymdeithas wedi dangos yr ochr waethaf posibl .
Mae 'na fwy i hyn na bywyd a marwolaeth Jade Goody ...mae'r papurau newydd , teledu a'r we yn ei drin fel math o sioe.
Doedd 'na fawr o sylw i fywyd na marwolaeth Jade Goody yma ...welish i un clip a barodd tua munud ar y teledu yn dweud am ei marwolaeth, a dyna i gyd ! Boicot sydd angen ...jyst peidwch a phrynu'r papurau newydd sydd yn mynd ymlaen ac ymlaen am y peth !
Mae 'na ferch ifanc wedi marw , ac mae'r sioe drosodd....