Pasg hapus i chi i gyd! Gobeithio cewch chi ddigon o hot cros byns a wyau pasg, de!
Dwi'n ista'n fyma'n chwarae knuffel a darllen be sgin y gweddill ohonoch chi i ddeud p'nawn ma (dim llawer) ac yn meddwl am Iesu'n diodda ar y groes ar ddydd Gwener y Groglith, yn ddistaw bach hefo fi'n hun.
Mae dyn drws nesa'n llnau y patio hefo'i blydi power washer newydd ac yn mynd ar fy nerfau i! Fedrai'm diodda llawer o hyn, mae o di bod wrthi ers hydoedd. Digon a rhoi cur pen i chi wir! Peth nesa fydd na rhywun yn dechra torri gwair. Pam na fedrith pobol ddim jest ista'n ty yn ddistaw, neu mynd allan i rhywle o'r ffordd, dwch? Wwwww, fydda'in ei roid o o dan y blydi patio na yn y munud!