Bws yr anffyddwyr

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Duw » Gwe 24 Hyd 2008 7:46 pm

sian a ddywedodd:Ymateb digon doeth gan yr Eglwys Fethodistaidd o'n i'n meddwl:
Spirituality and discipleship officer Rev Jenny Ellis said: "This campaign will be a good thing if it gets people to engage with the deepest questions of life."
She added: "Christianity is for people who aren't afraid to think about life and meaning."



Cytuno Sian. Ychydig o weledigaeth o'r cornel lleia amlwg. Ma gobaith iddynt 'to.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Chickenfoot » Sad 11 Ebr 2009 12:10 pm

"Christianity is for people who aren't afraid to think about life and meaning." HAHAAHAHAHAHAHAHAHAHAHAHA!

Ateb doeth iawn, Parchedig, os ydych chi'n anwybyddu'r ffaith bod y pobl sydd yn meddwl am y cwestiynau uchod yn ffeindio ateb mewn fairy tales ryw barbariaid o'r Ddwyrain Canol. Beth yn union yw pwynt addoli rywbeth nad ydi neb wedi'i weld a sydd yn disgwyl i chi siarad hefo fo trwy telepathi arbennig lle nad ydi o'n ateb? O leia' mae pobl sydd yn addoli'r haul yn gwybod bod y blydi peth yna.

Cwestiwn bach i'r rhai sydd yn gweddio: pam bod yr baban Iesu (dw i'n hoffi meddwl amdanofo fel babi, neu ninja) ond yn iachau afiechydon mae gwyddoniaeth yn medru'u iachau? Lle mae'r amputees sydd wedi derbyn coes newydd gan Yeshua neu Yehuda neu Yahweh neu Allah ayyb? Pam bod gweddion rhai yn well na rhai eraill? Pam bod gweddi plentyn sy'n cael ei llofruddio yn cael ei anwybyddu, ond mae'ch gweddi chi i gadw mami a dadi yn ddiogel am ddiwrnod arall yn cael ei ateb?

Mae'n rhyfeddol fod pobl yn meddwl bod rywun yn "close-minded" os nad ydynt yn credu'r fath BS. Esiampl o tueddiad yr ymenydd dynol o edrych am bwrpas a phatrwm i bob dim yw "Duw" (os mai dyna yw ei enw go iawn), a ffurf o OCD yw addoli'r peth. Pam bod pobl crefyddol yn gofyn am driniaeth arbennig e.e y rhai sydd eisiau "intelligent" design mewn ysgolion, a'r rhai sydd isio i siopau cau ar Dydd Sul?

Beth sydd yn gwneud ffydd - neu credu mewn rywbeth am ddim reswm o gwbl, hyd yn oed pan mae tystiolaeth yn erbyn y peth - yn dda eniwe?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 11 Ebr 2009 8:32 pm

Duw wir, droed y cyw iar, a thithau'n disgwyl i Dduw yrru ateb i bawb sy'n gweddio, yn ymyrryd a natur ar swn trwmp yn unman ar bryd bynnag? Wir, wyt ti'n disgwyl i Dduw "ddisgyn" o'r nefoedd ac ymddangos ei hun iti cyn y "credi" di? Be fasai i 'w gredu petai'r sicrwydd o'th flaen?

Wrth gwrs dylid ysgolion llunio'n ddeallus (sori, joc bach...). Fel mae'n deud yn y Beibl, yn y dechreuad oedd y Big Bangac, ar ol hynny, daeth tir a mor, pysgod, planhigion, anifeiliaid ac ati. Hyd am wm i, does ond un peth gwahanol rhwng y Beibl a'r hyn dan ni'n deall trwy wyddoniaeth heddiw, ac hynny yw'r amser (miliynau ar filiynau o flynyddoedd yn lle 7 niwrnod). Ac wel, be dy sawl miliwn o flynyddoedd rhwng gyfeillion? O ai, gwn, dydy llawer o'r creationists twp yn bobl neis iawn - mae'n debygol o eithafwyr ymhobman. Am gau sipau ar y Sul, doedd erioed lot o bwynt mewn hynny, gan nad ydy Cristnogaeth yn grefydd sy'n mynnu peidio a gwneud pethau ar ei Diwrnod Arbennig (Iddew oedd yr Iesu - ac yntau casglu'r gwenith ar y Sabath - dyna enghraifft dylai pob Cristion ddilyn). Hefyd, wrth gwrs, mae na lot o bobl ym Mhrydain heddiw nad ydynt yn Gristnogion o gwbl: mae'n annheg i wneud iddyn nhw ddilyn rhyw camddealturiaeth o Gristnogaeth sy'n gofyn i bopeth aros ar gau ar y Sul.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Chickenfoot » Sul 12 Ebr 2009 1:01 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Hyd am wm i, does ond un peth gwahanol rhwng y Beibl a'r hyn dan ni'n deall trwy wyddoniaeth heddiw, ac hynny yw'r amser (miliynau ar filiynau o flynyddoedd yn lle 7 niwrnod).


Plis dweud bod chi'n jocian...

Neidr sy'n siarad
Dynes yn cael ei gwneud o ribcage dyn
Asyn yn ymddangos mewn breuddwyd er mwyn twyllo proffwyd
Dyn yn troi dwr yn win
Dyn yn atgyfodi a ffecin hedfan i'w dad, sy'n byw mewn dimensiwn arall a sydd yn fo go iawn
Angylion


It's the greatest fucking science book ever!
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 12 Ebr 2009 7:32 pm

...a beth oedd y cyd-destun? Cais ddyfynnu tipyn yn fwy. Beth am hyn - yn syth o'r Beibl, Salm 53:-
Salm 53 a ddywedodd:Nid oes Dduw

Dyna, ar un adeg, hoff ddyfyniad yr atheistiaid. Bant a thi a chwilia amdano. Iawn? Rwanta, beth am y cyd-destun? Mae cyd-destun yn bwysig. Be wnest ti uchod? Dyfynnu rhywbeth a dywedais i heb ddyfynnu rhan bwysig o'i gyd-destun. Ro'n i'n cyfeirio at yr hyn mae'n dweud yn y Beibl AM Y CREAD, dim at yr holl lyfr.

Pryd rwyt ti wedi dysgu sut i ddadlau heb ddefnyddio cheap tricks, tyrd yn d'ol di.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Chickenfoot » Llun 13 Ebr 2009 11:04 am

Ymddiheuriadau, mae'n edrych yn debyg fy mod i wedi gwneud esiampl o "quote mining" a cham ddarllen rywfaint, a dw i cymeryd dy bwynt am hynna. Ond eto, ceisio ateb eich pwynt am y cread a mynd ymlaen i son am ddarnau eraill o'r Beibl oeddwn i. I fi, mae gardd Eden ac chread Eve yn dod o ribcage Adam yn rhan o'r cread, gan ei bod yn esboniad y Beibl o ddatblygiad y ddynol ryw a pham bod y byd fel mae o rwan.

Un peth sydd yn fy synnu am y cread - a dw i wir ddim yn bod yn facetious rwan - yw pam fod y peth wedi cymeryd saith diwrnod, a pham bod Duw wedi gorfod cael nap bach wedyn? Pam basa rywbeth oll-bwerus yn gorffwys am ddiwrnod?

Sori am barhau i son am Iesu, Balaam a'r Talking Dream , triciau - sori - gwyrthiau honedig Iesu - mae rheini'n straeon ar gyfer ddadl arall.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Chickenfoot » Llun 13 Ebr 2009 11:37 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Duw wir, droed y cyw iar, a thithau'n disgwyl i Dduw yrru ateb i bawb sy'n gweddio, yn ymyrryd a natur ar swn trwmp yn unman ar bryd bynnag? Wir, wyt ti'n disgwyl i Dduw "ddisgyn" o'r nefoedd ac ymddangos ei hun iti cyn y "credi" di? Be fasai i 'w gredu petai'r sicrwydd o'th flaen?


Holy cop out, Sioni/Batman!

Sioni, pwy sydd yn camddehongli rwan? Lle wnes i ddweud fy mod i'n ddisgwyl i Dduw/Iesu/yr Ysbryd Glan ateb bob un gweddi? Jest gofyn pam bod rhai ddim yn cael eu ateb a rhai eraill yn, oeddwn i. I ddwed y gwir, dw i yn disgwyl iddo fo ddod lawr cyn i mi dderbyn ei fodolaeth - mae unrhywbeth arall yn wirion. Mae'r fallacy bod ddim byw i'w gredu wedyn yn un chywerthinllyd. Mi fasa Duw yn gorfod amddifyn ei hun, a gadael i bobl gwneud y penderfyniad i'w ddilyn neu ddim ar sail ei rinweddau fel person/peth - a dydi lladd pobl ac anifieiliaid, rhoi llwyth o dystiolaeth gwyddonol i amau stori'r cread a hanesion Job ac Abraham (pric oedd yn barod i ladd ei fab) ddim yn mynd i berswadio lot o bobl.

Mi fasa'r gair yna, basa? Mae'r holl stwff "believe without seeing" yn swnio'n uffernol o cultish. Rhowch gorau i'ch critical thinking...dydych space daddy ddim yn hoffo hynna o gwbl. Dyna'r unig ffordd mae pobl dal yn credu'r fath gachu.

Ceisio dweud ydi yw bod Duw yn chwarae gem ddrwg wrth ymyrryd mewn natur pan mae'n siwtio fo, ond yn anwybyddu gweddion eraill e.e gweddion mwslemiaid, Iddewon, pobl sy'n cael eu llofruddio/treisio. Beth yn union yw ei criteria? Mae ei fab/ater ego yr un mor ddrwg. Mae o'n gwella nifer o bobl, ond dim yn y rhai mae o'n ei gyfarfod - a mae'r straeon yn uffernol o debyg i Mithras, Horus, Apolonius, Krishna ac eraill. Wedyn, mae'n dweud os nad yn yn derbyn fi fel eich space daddy tragwyddol, cewch chi'm ddod i'n parti yn y nefoedd. Braidd yn petty, tydi?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 13 Ebr 2009 6:39 pm

Dy farn di - iawn. Yn bersonol, dydw i ddim yn credu fod rhaid bod yn gredinydd er mwyn cael mynediad i'r "parti". Mae lot o bobl fel y ti o gwmpas, sy ddim yn credu mewn unrhyw dduw ond (gobeithio...) sy'n byw gyda digon o barch tuag at eu cyd-ddynion. Cred te beidio, sdim ots rili. Gwn innau fod na dduw, ond gwn hefyd nad oes perswadio neb am hynny.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan Chickenfoot » Maw 14 Ebr 2009 12:03 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dy farn di - iawn. Yn bersonol, dydw i ddim yn credu fod rhaid bod yn gredinydd er mwyn cael mynediad i'r "parti". Mae lot o bobl fel y ti o gwmpas, sy ddim yn credu mewn unrhyw dduw ond (gobeithio...) sy'n byw gyda digon o barch tuag at eu cyd-ddynion. Cred te beidio, sdim ots rili. Gwn innau fod na dduw, ond gwn hefyd nad oes perswadio neb am hynny.


Ond pam a sut wyt ti'n gwybod? Fedra i'm daeall sut gall unrhyw un dweud ei fod yn gwybod fod ei duw yn bodoli. Dw i jest yn gweld hi'n drist pan ma rywun yn byw ei bywydau yn ol gorchmynion rywbeth uwchnaturiol...dim fy nmod i'n dweud dy fod ti'n gwneud hyn, gyda llaw.

Cwl...dydw i ddim yn parchu dy grefydd (nac unrhyw grefydd rili) na'ch duw (pam fasa peth fel Duw yn poeni am fy marn i , dw i'm yn gwybod) ond dw i'n sicr yn parchu dy hawl i gredu ac addoli unrhyw beth ti isio. Mae gen i OCD eitha drwg, felly basa crefydd ond yn fwy o baggage i fi :winc: Sticia i at gerdded rown fy nghadair pum gwaith jest rhag ofn :)

Dw i jest yn mynd yn miffed pan mae'r eglwys yn mynnu ein bod yn newid ein ffordd o fyw yi'w cadw nhw mewn busnes, fel digwyddodd dros y penwythnos.

Eniwe, gobeithio ges di Pasg neis :)
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Bws yr anffyddwyr

Postiogan ceribethlem » Mer 15 Ebr 2009 11:48 pm

Jiawcs. Chickenfoot wedi chwalu'r cyfle am sgwrs adeiladol unwaith eto.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai