Caerdydd v Abertawe ran 3

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan crynwyr » Iau 16 Ebr 2009 9:22 pm

Beth yw hwn bod sel yr haf wedi dechrau lawr ym mhrifddinas y sipswn. Mae Gomez Ac Angle Wrangle (swno fel rhyw fath o gwis mathemateg) off i Celtic a'r Scotland off i Middlesboro. O diar,mae'n edrych fel yr olwynion yn cwympo off y carafan
Rhithffurf defnyddiwr
crynwyr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Mer 12 Gor 2006 4:04 pm

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Cynyr » Gwe 17 Ebr 2009 8:40 am

crynwyr a ddywedodd:Beth yw hwn bod sel yr haf wedi dechrau lawr ym mhrifddinas y sipswn. Mae Gomez Ac Angle Wrangle (swno fel rhyw fath o gwis mathemateg) off i Celtic a'r Scotland off i Middlesboro. O diar,mae'n edrych fel yr olwynion yn cwympo off y carafan


Jiw jiw nag yw. Iawn, o bosib fe aiff ambell i chwaraewr i glybiau eraill ond mae yna Scotlands, a Rangels eraill i gael a ma Martinez yn foi da i ddod o hyd iddynt . Fyddai'r cyntaf i ddymuno pob lwc iddyn nhw a diolch iddynt am gael y Swans i'r sefyllfa ma nhw nawr! (er, dwi'n siwr mai siarad mawr y cyfryngau yw hyn!)
Rhai blynyddoedd yn ol pan ro ni ar fin cwympo mas or gynghrair rodd yr olwynion YN cwympo i ffwrdd ond blydi el edrych lle ydyn ni nawr! 8)

Reit well i fi fynd, dwi di addo darllen ffortiwn rhywun :rolio:
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Rhods » Gwe 17 Ebr 2009 9:10 am

)
crynwyr a ddywedodd:Beth yw hwn bod sel yr haf wedi dechrau lawr ym mhrifddinas y sipswn. Mae Gomez Ac Angle Wrangle (swno fel rhyw fath o gwis mathemateg) off i Celtic a'r Scotland off i Middlesboro. O diar,mae'n edrych fel yr olwynion yn cwympo off y carafan



Be sydd yn bod mewn byw mewn carafan????? Snob.

A - be sydd da ti di yn erbyn sipswrn??????????? Bydd yn ofalus be ti yn dweud boi........

Cytuno da Cynyr, no worries - byddwn ni yn iawn, players come and go... Dros y blynyddoedd ath Ricketts, Trundle, Robinson ac Anderson - y media yn dweud dyna diwedd hi et etc ac ers iddynt fynd...da ni wedi cael dyrchafiad a nawr ond 4 pwynt tu ol y 6ed safle gyda 3 gem i fynd..

Braf odd gweld Roberto yn dweud yn y Western Mail heddi bod e ishe mynd ir premiership yn y ffordd cywir sef chware pel droed y ffordd cywir dim trwy hoof the ball tactics mae rhai timau yn neud ( gelwir hyn yn ol nhw yn 'long pass' :lol: :lol: )..

Dwi yn cofio dan dyddiau Kenny Jackett a oedd yn llwyddiannus iawn am 2 oi 3 blynedd da ni , roedd ffans Abertawe yn beirniadu yn hallt ei dacteg long ball (hyd yn oed pam oeddwn yn llwyddo!!!)...Da ni wedi cael ein cyhuddo o fod yn gul fel ffans, ond dyna fel ma ffans Abertawe demandio - pel droed, pert, stylish dim jyst cicio fe fyny a gobitho am y gorau. Ma ffans lot o glybiau jyst eisiau llwyddo pa bynnag ffordd - ond dim ni yn Abertawe.

Cofier be sydd yn cael ei ddweud yn gyson ar Sky, mai Abertawe yw'r tim pel droed gorau yn yr adran(trwy hynny dwi yn golygu 'the bets footballing team in the Championship') . Dim fi sydd yn dweud hyn ond Sky...Dwi yn meddwl mai ein nick name ni ar Sky yw y 'Style Kings'! :lol: :lol:

Tymor ffantastig tho - lot yn slagio ni off dechre y tymor ac yn bychanu ein siawnses...blydi hel, ma wy ar ein gwynebau nhw erbyn hyn.........

Premiership i fi??? Ie, ond fel dywedodd Roberto ,
'we dont wont to get promoted for the sake of it'
y perfformiadau sydd yn bwysig a neud er ffordd cywir...Os dyw e ddim yn llwyddo, no probs, mi wnawn ni drio to y flwyddyn nesa ...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Ger27 » Gwe 17 Ebr 2009 10:54 am

Tymor diwethaf, Caerdydd oedd yn cael y teitl o "the best footballing team in the Championship". Yn siomedig, gorffenon ni tu allan i'r gemau ail-gyfle.

Tydi'r pel-droed tymor yma ddim mor ddeniadol a tymor diwethaf, ond da ni dal yn chwarae pel-droed gwell na'r rhan fwyaf o dimau yn y gynghrair. Mae Wolves a Birmingham yn chwarae'n 'direct' iawn, a mae nhw'n 1af ac yn 2il. Mae WBA, sy'n chwarae pel-droed lot gwell na Hull a Stoke, yn 20fed yn y Premiership. Mae'n amlwg ei bod hi'n bosib "gor-chwarae" ar brydiau.

Lle mae'r gynghrair yn y cwestiwn, fyddai bron pob cefnogwr Caerdydd yn dweud mai hwn yw'r tymor gorau ers DEGAWDAU. Mae'r ffaith ein bod ni hefo average attendance o 18,000 (a wedi gwerthu 14,000 o docynnau tymor at blwyddyn nesaf yn barod) yn adlewyrchu hyn.

Tymor nesaf, da ni eisoes yn gwybod y bydd Cardiff City yn glwb gyda stadiwm a cyfleusterau ymarfer new sbon ac yn chwarae o flaen torfeydd cartref o dros 20,000 yn wythnosol. Os gurwn ni Preston dydd sadwrn, mae na siawns da y byddwn yn chwarae yn y Premiership hefyd! Dipyn o newid, "long passing" neu beidio!
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Rhods » Gwe 17 Ebr 2009 12:24 pm

Dwi yn gobitho wnewch chi guro Preston fory er mwyn neud ffafr a ni, fel gwnaethoch yn erbyn Burnley :winc: ..Da chi yn addo ni un (neu 2) ar ol y 'penalti' na yn injury time yn erbyn ni :winc:

Bydde ran fwyaf yn cytuno da ti pam ti yn son am 'or-chware' ..ond na i hynny gyda Roberto. Ma fe yn fundamentalist - ffwtbol yw hi and thats the end of it ..dim mixo na dim byd fel na....a gellir neb dadle da fe achos ma fe di llwyddo ..llynnedd , chware ffwtbol a topo lig 1 gyda 92 pwynt..wedodd y doubters gellir neb 'chware' ei hunain allan o lig 1 - ond fei profwyd yn rong.....a leni yn y Championship....gwario ciniogau ar chwaraewyr talu nhw cyflogau rhesymol, chware 'pel droed' a drychwch ble da ni... Diffyg profiad yw gwendid Abertawe leni ond fydd y chwaraewyr di cal blwyddyn o profiad yn y bencampwriaeth leni a bydd hyn yn cryfhau tymor nesa (os da ni yn y Bencampwriaeth wrth gwrs :winc: )...yr 20 draws ni di cal leni - dylswn ni di ennill olieaf 10 o rheina ond diffyg profiad heb os yw un or rhesymau ma'r draws na heb droi yn wins...

Y gwahaniaeth arall rhwng ni a clybiau eraill yw does dim 'rhaid' i ni o angenrheidrwydd fynd ir premierhsip leni ( a blwyddyn nesa o ran hynny)...Yn ariannol, ma'r clwb y cryfa ma fe erioed wedi bod a ma masif gwd feel factor gyda ni...Ma rai clybiau yn despret i fod yn y premiership oherwydd ma nhw wedi mynd am yr 'all out or nothing approach', gwario ffortiwn ar chwraewyr a talu nhw cyflgoau ridicylys a ffans demanding wrth gwrs...os llwyddir, fydd na 60m + yn y banc ond os methu, ma'r repurcussions yn mynd i fod yn enfawr...sdim da ni'r fath o pwysau fel na yn Abertawe.

Cytuno da Ger - Ie da iawn Dave Jones, gwd manager , gwd guy, ma fe di neud yn dda iawn da Caerdydd....
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron