Merthyr Tudful

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Merthyr Tudful

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 02 Ebr 2009 1:39 pm

Iawn, digon teg, ond dim ond chwe gwaith ers diwedd y 19eg ganrif y mae'r Brifwyl wedi bod i Gaerdydd, felly dydi hi ddim yn mynd yno'n aml p'un bynnag.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Merthyr Tudful

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Sad 04 Ebr 2009 10:06 am

Y dyfodol: efallai Caerdydd bob e.e. chwarter canrif a Merthyr pob e.e. deunaw mlynedd. Jesd syniad o dop fy mhen...
Wrth gwrs, nid yw neb yn mynd i lunio rhyw fformiwla berffaith...

'Rwy'n synnu nad yw neb wedi crybwyll Owen Money eto...

A mae o yn resyn o beth fod prif glwb pel-droed y Cymoedd yn dewis chwarae yng Nghyngrair Ingyrlynd :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Merthyr Tudful

Postiogan Josgin » Sad 04 Ebr 2009 12:30 pm

Pryd oedd y tro diwethaf i'r eisteddfod fynd i Merthyr ?
Mae'r cymoedd yn hollol ddiarth i fi - oes yna ysgol gyfrwng Gymraeg yn ardal Merthyr ?
Mae'r clwb peldroed mewn trafferth mawr , ac yn mynd i nunlle yn Lloegr.
Mae'n gas gen i Owen Money . Ymgorfforiad o agweddau gwaethaf 'Radio Wales' .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Merthyr Tudful

Postiogan Duw » Sad 04 Ebr 2009 2:17 pm

Mae Ysgol Gyfun (Gymraeg) Rhydywaun jest dros y ffordd yn Aberdar. Fel dwedodd rhywun arall - mae Methyr yn lle iawn, llawn bois da - er rhai'n ychydig yn arw. Ond mae hwnna'n wir am bobman yn dyw e. Pobol cynnes feb unrhyw sians diawl sy'n mynd gyda lot o bobl Caedydd ac Abertawe. Parthed agwedd i'r Gymraeg, dwi wedi ffeindio bois ardal Aberdar/Merthyr yn gyffredinol gefnogol i'r iaith, er nid yw'r rhan fwyaf yn ei siarad. Mater arall yw cymoedd eraill. Mae'r cymoedd lle rwyf yn gweithio wedi hollti'n llwyr - y rheini'n sy'n gefnogol (ymylu ar fod yn eithafol, er eu bod yn ddi-Gymraeg eu hunain) a'r rheini sy'n gweld yr iaith fel bygythiad i'w ffordd o fyw.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Merthyr Tudful

Postiogan Josgin » Sad 04 Ebr 2009 3:57 pm

Maddeuer i mi am 'herwgipio' pwnc i fyd addysg, fel petai, ond i rhywun o'r gogledd, mae yna son parhaus am y twf mewn ewyllys da tuag at y Gymraeg yn yn cymoedd. Ydi'r rhai nad ydynt yn danfon eu plant i ffrydiau ac ysgolion Cymraeg yn mynd yn fwy eithafol i'r cyfeiriad arall, ta ? . h.y. unwaith mae'r penderfyniad yn gorfod cael ei wneud i ddewis cyfrwng, yr ydych yn chwilio am ffordd i'w gyfiawnhau. Bum yn dysgu am rai blynyddoedd mewn tref fawr yn y Gogledd-Orllewin. Yr oedd hyn yn niwedd yr 80'au, gyda trwch y rhieni'n siarad Cymraeg , ond 'roedd agwedd hwythau , a'r athrawon 40+ tuag at y Gymraeg yn perthyn i feddylfryd brad y llyfrau gleision. Clywais fod hyn yn deillio o sefydlu ysgol Cymraeg yn yr ardal rhyw ddegawd cynt.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Merthyr Tudful

Postiogan Duw » Sad 04 Ebr 2009 4:12 pm

Mae'n biti bod Merthyr wedi bod yn darged i jocs dros y degawde diwethaf. Er bo diwydiant wedi cymryd llawer mas o'r dre, mae e wedi rhoi llawer iddi hefyd. Pobol sy'n gwneud cymuned, nid adeilade, ac mae'r bobol yn iawn.

Jos: o'm brofiad i, dyw pethe ddim mor syml â hynny. Mae 'cefnogaeth' i'r iaith, yn amlwg yn mynd i fod yn gryfach yn gyffredinol 'mysg y rheini sy'n anfon eu plant i ysgolion Gymraeg, ond cynifer o bobol y cymoedd dwi wedi cwrdd a fydde wedi achub ar y cyfle i siarad Cymraeg os oedd y cyfle hwnnw wedi bod ar gael iddynt.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Merthyr Tudful

Postiogan Ray Diota » Sad 04 Ebr 2009 7:45 pm

Duw a ddywedodd:mae Methyr yn lle iawn, llawn bois da - er rhai'n ychydig yn arw..


dwi'n cofio bod yn Malia neu Magaluf ne rwle felly ar fin cal cweir gan grwp o saeson pan ddath criw o ferthyr draw ar ol clywed yn acen i a rhoi rial cweir i'r bois! dwi rioed di bod mor falch i fod yn gymro...!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Merthyr Tudful

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 17 Ebr 2009 11:56 am

Ray Diota- beth oedd brawddeg cyntaf y grwp o Ferthyr? "Allright, but"?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Merthyr Tudful

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 17 Ebr 2009 12:36 pm

Mark Steel's in town ym Merthyr wythnos yma. Os dach chi ddim yn gallu copio efo Saeson ignorant, peidiwch â gwrando, ond mae o reit ddifyr.

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b0 ... Episode_5/
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Merthyr Tudful

Postiogan osian » Gwe 17 Ebr 2009 2:53 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Mark Steel's in town ym Merthyr wythnos yma. Os dach chi ddim yn gallu copio efo Saeson ignorant, peidiwch â gwrando, ond mae o reit ddifyr.

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b0 ... Episode_5/

Ma son am y Gymraeg a deud "chchllllchchlll" mor wreiddiol!
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron