Dwi'n gwybod bod hwn bellach yn hen bwnc, ond f'un i ydio, felly dwi'n meddwl bod gennyf hawl i'w atgyfodi (!!!).
Dwi di meddwl am emyn arall fyswn i'n licio i bobol ganu yn f'angladd - "Pererin wyf mewn anial dir...." - dwi wrth fy modd hefo'r geiriau a'r don.
Wrth bod f'angladd am fod yn un hiiiiiiirrrrr iawn (pedair emyn o leia cyn belled!), dwi hefyd wedi penderfynu y cawn nhw chwarae o leia pedair can
Eagles hefyd, sef:-
Desperado
Already Gone
Take it to the Limit
a
After the Thrill is GoneYndw, dwi dal i feddwl fy mod yn byw'n y 70'au, yn dal i wrando ar yr
Eagles,
Rainbow a
David Cassidy!!!! Trist, de?!!! (na, dim rili!!! - tydyn nhw'm yn sgwennu caneuon mor dda dyddia yma ag oeddan nhw ers stalwm!).