Horus Crist?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Horus Crist?

Postiogan Chickenfoot » Llun 20 Ebr 2009 1:47 pm

Mae gymaint o tebyrgwydd rhwng Mithras, Horus, Buddha, Krishna a Iesu - pam bod hyn? A pham bod un wedi llwyddo i oroesi'r ganrifoedd pan nad oes unrhyw sail hanesyddol i'w gwyrthiau? I ddweud y gwir, 'does ddim hanesyddion yn son amdano tu allan i'r Beibl (mae Jospehus yn "cut & paste job" a mae ddau eraill yn son am "Cristos", ond ddim yn mynd i fanylder ar bwy oedd yr "annointed one" hwnnw).

Pam bod reolau'r Book of the Dead mor debyg i reolau'r Hen Destament? Pam fod neges Iesu (sydd ymhell o fod yn un berffaith) mor debyg i syniadau Buddha? Ydi Iesu'n ddilyn ryw fath o template i fesiah, sydd wedi'i perffeithio dros y ganrifoedd? Ydi'r cufuniad o wyrthiau ac adran PR da wedi sicrhau ei statws? Oedd St. Paul wedi bod yn economaidd hefo'r gwir?

Fy mhrif cwestiwn yw, er fod gymaint o ddewisiadau o fesiah ar gael, pam bod adeiladwr o Nazareth wedi llwyddo, hyn yn oed pan mae ei feibl wedi'i profi'n ddogfen murky uffernol o ran moeseg?

**Gyda llaw, dw i ond yn pigo ar Iesu gan mai fo yw'r esiampl orau o'r Mesiahs yma - 'sgen i'm fawr o barch at unrhyw grefydd i ddweud y gwir, a mae dipyn ohonynt yn llawer mwy peryglus na cristnogaeth. Credu mewn bodolaeth deity, iawn, ond crefydd?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Horus Crist?

Postiogan Dai dom da » Llun 20 Ebr 2009 4:31 pm

Wes rhywun wedi bod yn watcho Zeitgeist?!

Cytuno da peth ti'n son am. Dwi'n sicr fod tebygrwydd pob crefydd yn tarddi o'r run ffeithiau, megis yr haul a seryddiaeth etc. I suppose fod e'n rhywbeth i gredu ynddo, ond dwi'n dewis i beidio. Sdym lot o barch da fi at crefydd rhagor i fod yn onest.

Ond dwi yn credu ein bod ni wedi cael ymweliadau wrth 'beings' o bydysawd arall neu rhywbeth. Ma edrych ar hanes Maya, Sumeria a'r Aifft yn neud hwn yn ddigon posib! Mae hen tabledi Maya a Sumeria wedi son am 'star-men', a falle mai dyma beth gath Iesu ei seilio ar. Cofio cal dadl weddol heated gyda ffrind a oedd yn Gristion nol yn ysgol, lle wnes i awgrymu mai Alien oedd Iesu. A wedd y boi yn insanely pissed off! Wel y ffaith yw, achos does neb yn gwbod beth yn gwmws o'dd Iesu neu Duw, ma nhw'n 'Alien' wedi'r cyfan!
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: Horus Crist?

Postiogan Chickenfoot » Llun 20 Ebr 2009 5:41 pm

Dai dom da a ddywedodd:Wes rhywun wedi bod yn watcho Zeitgeist?!


Do, mae'n reit dda, tydi? Welais i ambell i raglen ddogfen ar Sianel 4/BBC a roddodd fi ar y trywydd yma. 'Roedd un yn honni fod Iesu wedi byw yn Kashmir a wedi dysgu o dan mynachod Buddhist - ond doedd dim son amdano'n dysgu kung fu, 'chwaith :(

Dai dom da a ddywedodd:Cytuno da peth ti'n son am. Dwi'n sicr fod tebygrwydd pob crefydd yn tarddi o'r run ffeithiau, megis yr haul a seryddiaeth etc. I suppose fod e'n rhywbeth i gredu ynddo, ond dwi'n dewis i beidio. Sdym lot o barch da fi at crefydd rhagor i fod yn onest.


Mae'n ddoniol meddwl bod cristnogion wedi erlyn paganiaid am ganrifoedd, ond sun-worshippers ydyn nhw yn y bon. :winc: 'Sdim yn bod hefo addoli'r haul, 'chwaith - o leia mae o yna ac yn gwneud rywbeth.

Dai dom da a ddywedodd:Ond dwi yn credu ein bod ni wedi cael ymweliadau wrth 'beings' o bydysawd arall neu rhywbeth. Ma edrych ar hanes Maya, Sumeria a'r Aifft yn neud hwn yn ddigon posib! Mae hen tabledi Maya a Sumeria wedi son am 'star-men', a falle mai dyma beth gath Iesu ei seilio ar. Cofio cal dadl weddol heated gyda ffrind a oedd yn Gristion nol yn ysgol, lle wnes i awgrymu mai Alien oedd Iesu. A wedd y boi yn insanely pissed off! Wel y ffaith yw, achos does neb yn gwbod beth yn gwmws o'dd Iesu neu Duw, ma nhw'n 'Alien' wedi'r cyfan!


Mae gen ti syniadau reit diddorol, ond dw i'n dal dig yn erbyn yr aliens am ddifetha Indiana Jones, so feck 'em :winc:

Mae'n bosib, ond dydi'r aliens yma byth wedi dychwelyd, naddo? Oni bai fod y red-necks mewn support groups yn Alabama i gyd yn dweud y gwir. Jest gobeithio fod David Icke ddim yn iawn, de. Son am Iesu'n alien, mae'r Mormoniaid yn meddwl rywbeth tebyg!

Yr amheuaeth fawr sgen i yw fod y pethau mae i gyd yn ymddangos yn humanoid. Ydi creu esblygiad a bywyd yn gyffeedinol yn gweithio yn yr un ffordd trwy'r bydysawd i gyd? Efalla mai jest creu duwion gwahanol oedd y diwylliannau cyntefig yma?

Wedi dweud hynna, 'sa fo'n eithaf gwirion i feddwl fod bywyd yn bosib mewn dim on un lle penodol yn y bydysawd, gan fod gymaint o galaethiau - a multiverses, os yw'r syniad yna'n wir!
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Horus Crist?

Postiogan Duw » Maw 21 Ebr 2009 7:39 am

Dwi'n meddwl bo'r threori 'alien' ma'n gamarweiniol. Mae pob ffydd pelled dwi'n gweld, wedi ceisio â gwenud synnwyr o'r byd oherwydd diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae'r bydysawd 'yn gweithio'. Pellach bydde'r shamans ac ati yn gweld bo cryn dipyn o bwer 'da nhw, lle roedd modd osgoi gwneud eu rhan o'r gwaith, ac eistedd nol o phroffwydo - bwydo'r plebs gyda syniadau ofergoelus er mwyn cadw grym. Haws na bod yn frenin.

Yn anffodus, er bo rhai crefydde'n dadle eu bod wedi 'tyfu lan' neu aeddfedu, rydym dal yn gweld y patrwm hwn mewn crefydde cyfoes.

I mi, dwi'n gweld paralelau rhwng pob crefydd - y sail yn troi'n chwerthynllyd yn dilyn cyfnod o amser. Sneb yn dilyn crefydd yr hen Eifftiaid neu'r Vikings bellach. Pam? Pobl wedi gweld trwy'r rwtsh/crefydd arall yn cymryd ei le. Dweden i bydd Cristnogaeth yn mynd yr un ffordd - falle neiff Islam ei ddisodli neu, fel dwi'n gobeithio cawn weld oes rhesymegol, heb yr angen am unrhyw grefydd.

Bydd bodau dynol pob amser yn edrych am atebion i fywyd ac angau a phan na fydd gwyddoniaeth yn gallu eu hesbonio, gwawnt droi at esboniadau ofergoelus - neu creu crefydd newydd (spiritualists yfory). Dyna fethiant ein rhywogaeth - sgil effaith ein cydwybod efalle.

Ger llaw, dwi'n meddwl bydde Bwda'n troi yn ei fedd/llwch os oedd e'n meddwl bo pobl yn ei addoli.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Horus Crist?

Postiogan Diobaithyn † » Iau 06 Awst 2009 4:05 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Mae gymaint o tebyrgwydd rhwng Mithras, Horus, Buddha, Krishna a Iesu - pam bod hyn? A pham bod un wedi llwyddo i oroesi'r ganrifoedd pan nad oes unrhyw sail hanesyddol i'w gwyrthiau?


Y Rhufeiniaid yn bennaf yw'r rheswm mae stori Iesu wedi para mor hir, ac y rheswm i pam mae o mor tebyg i'r eraill. Cymerwyd y ffydd gwreiddiol Cristnogol, y cwlt Iddewig yr oedd, ei stripio o'i Iddewiaeth (a'i wneud yn gwrth Semitiaeth yn llefydd) ac yna plethu mewn syniadau o grefyddau eraill poblogaidd y Rhufeiniaid, fel y symbol o'r croes (symbol Mithras), yr eni yn stabl (Horus) a.y.y.b Wnaethant hyn i lawer o grefyddau eraill yn ogystal i Gristnogaeth. Ond fe wnaeth ei Gristnogaeth nhw, y Cristnogaeth i'r rhan fwyaf rydym yn weld heddiw, dod yn digon poblogaidd iddo gael ei sefydliadu mewn i'r fframwaith Rhufeinig. Ac mae'r weddill yn hanes.
Yr Ymgom - Fforwm drafod er ieuenctid Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Diobaithyn †
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Maw 12 Mai 2009 9:44 pm


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron