gan iwmorg » Iau 23 Ebr 2009 7:17 pm
Dwi wedi edrych ar y manylion.....
Tra mae'r cynllun yn yr Almaen yn caniatau'r hyn ti'n grybwyll, dim ond ar gyfer ceir newydd sbon, heb eu cofrestru mae'r cynllun yma ym Mhrydain....... Sydd yn ei wneud yn shitty a dim byd ond gimmick mewn gwirionedd. Dwi'm yn un am ladd ar llywodraeth jyst er mwyn gwneud, ond mae'r cynllun yn dipyn o joc. Y realiti ydi - os ei di i garej gydag arian parod, neu hyd yn oed angen 'finance' i'w brynu, mi elli di negodi gostyngiad da, yn enwedig ar un sydd yn pre-reg (ond dal yn newydd sbon).
Yn ol Parkers, mae gwneuthurwyr ceir ar gyfartaledd wedi codi 'list prices' ceir newydd hyd at 8.5% dros y misoedd dwythaf mewn disgwyliad am y cynllun yma. enghraifft da yw'r ford focus- car cyffredin iawn ar y ffyrdd. Mi gymerwn y model mwyaf cyffredin - y 1.6 Zetec
list price Ionawr 09 - £15,806
list price heddiw - £17,040
sydd yn wahaniaeth o £1234, a fel 'roeddwn yn dweud does dim cyfle i negodi gotsyngiad da 'chwaith.
Fel dwi'n dweud dim cwyno 'ffor ddy sake of it' ydw i, ond pan da chi'n ystyried fod y llywodraeth yn gwario £300m ar y cynllun yma, tra'n codi treth gwerth £600m ar danwydd o fis Medi, mae'n codi'r cwestiwn beth yw'r pwynt??
Fy nhyngor i fyddai gwerthu dy gar 10 oed yn breifat, a mynd a'r arian i'r 'dealer' a chael disgownt da ar gar 'bron yn newydd'!