Pnawn da gyfeillion ac eraill
Dwi a ffrind yn meddwl mynd i Milan mewn pythefnos ar dair noson - oes rhywun wedi bod o'r blaen? Ddim yn gyfarwydd â'r ddinas o gwbl, er dwisho gweld y gadeirlan enfawr a'r San Siro yn benodol!
Be ydi'r pethau i wneud yno - unrhyw dips? Ydi o'n ddrud iawn (dwi'n cymryd ei fod - a dweud y gwir dwisho gwybod tua faint y dylwn ei gymryd efo fi am dair noson)?
Swni'n gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth!