Grangetown

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Grangetown

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 27 Ebr 2009 9:58 pm

Dwi wedi clywed dau fersiwn Gymraeg ar gyfer Grangetown sef Trefynach a Trelluest. Yn ol y Wikipedia Cymraeg, Trelluest yw'r enw - http://cy.wikipedia.org/wiki/Trelluest - ond mae fy chwaer yn byw yno ac yn dweud mai Trefynach yw'r enw am y lle :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Grangetown

Postiogan Kez » Llun 27 Ebr 2009 11:50 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi wedi clywed dau fersiwn Gymraeg ar gyfer Grangetown sef Trefynach a Trelluest. Yn ol y Wikipedia Cymraeg, Trelluest yw'r enw - http://cy.wikipedia.org/wiki/Trelluest - ond mae fy chwaer yn byw yno ac yn dweud mai Trefynach yw'r enw am y lle :?


'Co ti enghraifft o fewnfudwyr yn symud miwn a mynnid newid pethach :rolio: .

Cefais fy ngeni mewn pentra o'r enw Derwen Gam rhwnt Aberaeron a Cheinewydd ond dath y Saeson miwn a'i newid i Oakford a ti'n cal y ddou enw ar arwyddion ffyrdd erbyn hyn. Blydi mewnfudwyr - ma nhw wastod moyn newid popeth! Odd mam mor grac fel bu raid inni symud o' na a mynd nol at myn-gu. (odd e ddim yn help bo'r heddlu wedi ffindo mas lle on ni'n byw chwaith - ond stori arall yw honno)
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Grangetown

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 28 Ebr 2009 7:49 am

Mae'r Athro John Davies, sy'n byw yn yr ardal, yn defnyddio 'Grangetown' achos dydi'r enw Cymraeg heb ei dderbyn yn ôl y sôn, medda fo - nid ei fod o'n awdurdod ar bopeth dan haul! Mae 'na enghreifftiau o'r ddau enw i'w cael ar-lein hefyd. Gan ddweud hynny, mae 'na rhywbeth yng nghefn fy meddwl i yn dweud mai 'Grangetown' ydi'r enw gwreiddiol ar yr ardal beth bynnag.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Grangetown

Postiogan Mr Gasyth » Maw 28 Ebr 2009 9:12 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'r Athro John Davies, sy'n byw yn yr ardal, yn defnyddio 'Grangetown' achos dydi'r enw Cymraeg heb ei dderbyn yn ôl y sôn, medda fo - nid ei fod o'n awdurdod ar bopeth dan haul! Mae 'na enghreifftiau o'r ddau enw i'w cael ar-lein hefyd. Gan ddweud hynny, mae 'na rhywbeth yng nghefn fy meddwl i yn dweud mai 'Grangetown' ydi'r enw gwreiddiol ar yr ardal beth bynnag.


Meddwl ei fod wedi ei enw ar ol fferm y Grange, os dwi'n cofio'n iawn. Dwinne'm yn cin ar y busnes o roi enwau Cymraeg ffals ar lefydd chwaith. 'Y Rhath' ydi'r enghraifft waetha.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Grangetown

Postiogan Llefenni » Maw 28 Ebr 2009 9:13 am

Mae Grangetown yn dod o enw "Grange Farm" - adeilad sy' dal yno ar Clive Street (lawr o Penarth Road am y Bae). Mae'r ty ffarm dal yna ynghanol y tai teras ar Clive Street ac yn werth ei weld (linc i Google Street View). Mae na fap fyny yn nhafarn y Robin Hood ym Mhontcanna o'r ardal yn 1869 - a dim ond y ffarm sydd i'w weld, a chaeau o'i chwmpas. Daeth Clive Street yn 1889 dwi'n credu (mae yna ddyddiad ar y tai) ac yna gweddill Grangetown wrth i'r docwyr fod angen mwy o gartrefi.

Swni'n amau'n gryf nad oedd enw Cymreig ar y lle, gan nad oedd 'tref' yna tan i'r mewnlifiad iaith susneg i'r dociau gyrraedd.

(wps - gasyth wedi adteb cynna'i!)
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Grangetown

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 28 Ebr 2009 9:17 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'r Athro John Davies, sy'n byw yn yr ardal, yn defnyddio 'Grangetown' achos dydi'r enw Cymraeg heb ei dderbyn yn ôl y sôn, medda fo - nid ei fod o'n awdurdod ar bopeth dan haul! Mae 'na enghreifftiau o'r ddau enw i'w cael ar-lein hefyd. Gan ddweud hynny, mae 'na rhywbeth yng nghefn fy meddwl i yn dweud mai 'Grangetown' ydi'r enw gwreiddiol ar yr ardal beth bynnag.


Meddwl ei fod wedi ei enw ar ol fferm y Grange, os dwi'n cofio'n iawn. Dwinne'm yn cin ar y busnes o roi enwau Cymraeg ffals ar lefydd chwaith. 'Y Rhath' ydi'r enghraifft waetha.


Cytuno i raddau, ond mae rhaid i enw gychwyn yn rhywle! :winc: Ond o ran enwau ardaloedd Caerdydd, gyda nifer mae'n bosib bod enwau Cymraeg wedi bodoli ar y pentrefi cyfagos sydd bellach yn rhan o'r ddinas, ond ddim yn gwybod os yw hyn yn berthnasol am ardal Grangetown.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Grangetown

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 28 Ebr 2009 9:25 am

Oes, ond yn yr achos hwn mae'n debyg bod yr enw wedi dechrau yn Saesneg.

Gyda llaw, 'does 'na ddim cyfeiriad at naill ai Trelluest na Trefynach yn y Llyfr Enwau - i fod yn onest dwi'n meddwl ei bod hi'n ddigon amlwg, er bod Trelluest a Threfynach yn enwau digon delfrydol, nad oes mewn difri enw Cymraeg ar Grangetown.

(gyda llaw dwi ddim yn meddwl bod 'Y Rhath' yn un o'r enwau Cymraeg hyn sy'n cael eu bathu jyst er mwyn - dwi am fynd i Borders amser cinio wan i wneud ymchwil)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Grangetown

Postiogan Ray Diota » Maw 28 Ebr 2009 10:39 am

Ma fy nghyn fos, Owen john thomas, yn dweud Y Grange Mawr am Grangetown os wy'n cofio'n iawn, a chewch chi neb sy'n gwbod mwy am Gaerdydd na fe!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Grangetown

Postiogan ceribethlem » Maw 28 Ebr 2009 3:14 pm

Ray Diota a ddywedodd:Ma fy nghyn fos, Owen john thomas, yn dweud Y Grange Mawr am Grangetown os wy'n cofio'n iawn, a chewch chi neb sy'n gwbod mwy am Gaerdydd na fe!

Beth am Frank Henessy?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Grangetown

Postiogan Ray Diota » Maw 28 Ebr 2009 3:18 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:Ma fy nghyn fos, Owen john thomas, yn dweud Y Grange Mawr am Grangetown os wy'n cofio'n iawn, a chewch chi neb sy'n gwbod mwy am Gaerdydd na fe!

Beth am Frank Henessy?


a chewch chi neb sy'n gwbod mwy am y Gymraeg yng Nghaerdydd te...!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron