BE' 'DI'R PWYNT PRYDAIN ERBYN HYN?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw dyfodol Prydain?

Unoliaeth parhaol gan ddileui datganoli?
2
7%
Prydain Ffederal?
11
38%
Anibynniaeth llwyr i'r cenedlaethau prydain?
15
52%
Rhywbeth arall? - esboniwch isod
1
3%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 29

Postiogan Chris Castle » Iau 06 Tach 2003 10:40 am

ON

Pwrpas y Deddfau Uno oedd sicrhau na fydd Cymry yn goddef gormes. Y "Sinister usages and customs" oedd y gormes trethol a chyfreithiol yn erbyn Cymry. A'r pwynt am Iaith oedd sicrhau gallai sywddogion y gwlad yn deall eu gilydd - sdim peiriannau cyfieithu ar y pryd yn y canol oesoedd.
Nid dileu Iaith oedd amcan y deddf uno o gwbl. Y n wir cei di weld o Shakspeare taw creu cenedl sy'n goddefgar o Saeson, Gwyddelod, Albanwyr, a Chymry oedd meddfryd yr amser Tuduraid. -

Gwladwriaeth Prydain wnaeth arbed Cymraeg gan cyfieithu'r Beibl i Gymraeg. 'Tai dileu'r Gymraeg oedd yr amcan 'sen nhw wedi pasio deddf uno arall i uno Iaith yr eglwys!
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Cardi Bach » Iau 06 Tach 2003 10:59 am

Chris Castle a ddywedodd:ON

Pwrpas y Deddfau Uno oedd sicrhau na fydd Cymry yn goddef gormes. Y "Sinister usages and customs" oedd y gormes trethol a chyfreithiol yn erbyn Cymry. A'r pwynt am Iaith oedd sicrhau gallai sywddogion y gwlad yn deall eu gilydd - sdim peiriannau cyfieithu ar y pryd yn y canol oesoedd.
Nid dileu Iaith oedd amcan y deddf uno o gwbl. Y n wir cei di weld o Shakspeare taw creu cenedl sy'n goddefgar o Saeson, Gwyddelod, Albanwyr, a Chymry oedd meddfryd yr amser Tuduraid. -

Gwladwriaeth Prydain wnaeth arbed Cymraeg gan cyfieithu'r Beibl i Gymraeg. 'Tai dileu'r Gymraeg oedd yr amcan 'sen nhw wedi pasio deddf uno arall i uno Iaith yr eglwys!


Cym-on Chris, ma hyn yn hollol gam arweiniol!
Pwrpas y cyfeiriad at yr iaith oedd neud y Cymry yn leiafrifol.
Faint o Gymry 1536 oedd yn gallu siarad Saesneg? Yn wir, faint o uchelwyr Cymru y cyfnod oedd yn gallu siarad Saesneg?
Faint wedyn o'r Cymry yma fyddai'n gallu cael swydd o fewn y llysoedd oedd yn rhedeg y wlad? Nesa peth i ddim.

Ermwyn llwyddo rodd yn rhaid i ti fod yn Sais - dyna oedd beth oedd yn cael ei ddweud, ac mae'r seic yna wedi para hyd y dydd heddiw.

Spin modern yw honni mai jest gosod trefn ar system lywodraethol oedd unffurfio iaith.

A'r sinister usages and customs? Wel yn anffodus mae'r agwedd yma i weld yn yr 'average Brit' o hyd - fforinyrs yn neud pethe od, gwahanol i NI. Rodd arferion y Cymry yn amlwg yn wahanol i rai Normanaidd, ond yn fwy na hynny ro'n nhw'n ran o hunaniaith a beth OEDD Y Cymry - rodd gwaredu arferion a thraddodiadau y Cymry yn gam penodol i unffurfio y Cymry a chael gwared yn y pendraw o'r syniad o beth yw Cymro. Gyda'r Cymry oll yn gorfod siarad Saesneg (neu cael eu gweld fel plebs - rhywbeth oedd yn bodoli tan y 10 mlynedd dwetha) a'r holl gysyniad o beth oedd bod yn Gymro wedi diflannu, byddai dim angen disgwyl rhyfel gwaedlyd arall, byddai'r Cymry uchelgeisiol eu hun yn sicrhau na fyddai 'Glyndwr' arall yn codi o'u plith. Ymhen amser, byddai Cymru yn ran gorllewinol o Loegr.

Mae'n rhyfedd fod ein hunanieth ni wedi goroesi o gwbwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Garnet Bowen » Iau 06 Tach 2003 12:33 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Er mwyn llwyddo rodd yn rhaid i ti fod yn Sais - dyna oedd beth oedd yn cael ei ddweud, ac mae'r seic yna wedi para hyd y dydd heddiw.


Ydi o? Yn lle mae swyddi gorau Cymru i gyd heddiw? Yn y sector gyhoeddus. A phwy sy'n cael y swyddi heini? Cymry Cymraeg, yn amlach na pheidio. Dwi ddim yn feirniadol o hyn - i'r gwrthwyneb, dwi'n uffernol o falch. Ond pam na fedr Cymry Cymraeg gydnabod hyn? Mae medru'r iaith yn fantais economaidd erbyn heddiw, diolch byth. Pam fod rhai cenedlaetholwyr felly yn mynnu smalio ein bod ni'n dal yn byw yn y canol oesoedd?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chris Castle » Iau 06 Tach 2003 12:37 pm

Ermwyn llwyddo rodd yn rhaid i ti fod yn Sais - dyna oedd beth oedd yn cael ei ddweud, ac mae'r seic yna wedi para hyd y dydd heddiw.


Dan y ddedf uno roedd Cymro (a fedrai saesneg) gallai fod yn swyddog y wlad. Cyn Hynny roedd gwahardd llwyr ar Gymry.

sinister usages and customs


Rhaid i Gymry dalu mwy o drethu.
Dim hawl i Gymro bod yn masnachwr mewn dref.
Dim hawl i Gymro bod yn melinwr.
Dim hawl i Gymro eistedd mewn rhithgor tra bo Sais o fewn ei well.
Sdim hawl i Gymro/Gymraes priodi Sais/Saesnes.
ayyb
ayyb
Pob un yn rhan o gyfraith a dim byd i wneud a "ffordd o fyw" diwylliannol.

y fath o bethau oedd y tu ôl i wrthrhyfeloedd Llywelyn a Glyndwr.

Spin modern yw honni mai jest gosod trefn ar system lywodraethol oedd unffurfio iaith.

Mae mytholeg Cenedlaetholwyr yn waeth na mytholeg Unoliaethwyr. Wnaeth Saunders Lewis ddewis detholiad o eiriau mas o'r deddfau ar gyfer ei bropoganda.

Gallai dweud (yn gall) taw rhan o newidiadau wnaeth arwain at tranc yr iaith oedd disodli cyfraith Cymraeg (sdim angen dros cymraeg ffurfiol, cymhleth 'da uchelwyr er enghraiifft).
Mae hynny'n dadl hanesyddol ddiffuant, ond hollol ar wahan yw hyn rhag dweud taw ymgyrch i ddileu Iaith oedd amcan y deddfau.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Cwlcymro » Gwe 07 Tach 2003 3:19 pm

ffeirio bod yn wlad fach mewn cyfundrefn o 4 gwlad, am fod yn wlad fach mewn cyfundrefn o 25 o wledydd?


Ond dim yna YDIO Garnet. Paid a lleisio'r Mail! Ma Prydain yn Ewrop yn barod. Ar y funud da ni'n un o gyfnudren o 4 gwlad oddi fewn cyfundren o 25 gwlad. A dim ots ffor ti'n sbio arni ma bod yn un mewn 25 yn well na 1 mewn 4 mewn 25.

Dydi'r Hogyn ddim isho 'cael yn rheoli o frwsels' ddim mwy na da ni'n cal yn rheoli ona rwan. Am rhyw reswm ma Ifan a Garnet yn swnio tha bo nhw'n meddwl fod uno a Ewrop fel Cymru rydd yn golygu rhoi popeth i Ewrop. Dim fela mai'n gweithio!
Fasa gan ERwrop ddim mwy o reolaeth dros Gymru na sganddy nhw droso ni rwan. Ond mi fysa gan Cymru fwy o lais yn Ewrop. Ac yn y mwyafrif o bethau pwysig i'n bywyd, yng Nghaerdydd fasa'r pwer.

Be odd yr Hogyn yn pwyntio at oedd dosnam angan y ddadl dros 'pa bunt da ni am ddefnyddio? neu 'sut sa ni'n neud border control efo Lloegr?'
Mi fasa ni'n gallu ymuno ar Ewro, a dosnam border controls i fod YN Ewrop. (Prydain ydi'r exeption) Ti'm yn fod i oro dangos dy basport i fynd o Ffrainc i'r Almaen (dwi rioed di neud felly dwnim os ydy nhw'n gofyn).
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 07 Tach 2003 3:40 pm

Cwlcymro a ddywedodd:
Fasa gan Ewrop ddim mwy o reolaeth dros Gymru na sganddy nhw droso ni rwan. Ond mi fysa gan Cymru fwy o lais yn Ewrop. Ac yn y mwyafrif o bethau pwysig i'n bywyd, yng Nghaerdydd fasa'r pwer.



Mae'r ddadl yma'n mynd rownd mewn cylchoedd erbyn hyn, ar ddau edefyn gwahanol. Ond, dwi'n rhy bengaled i gau fy ngheg, sori. :wps:

Felly, dyma'r tro ola dwi'n mynd i neud y pwynt yma, mor syml a phosib.

(1)Y gwledydd mawr sy'n llunio polisi yn Ewrop - nid y gwledydd bychain, nid y gwledydd canolig, ond y gwledydd mawr.

(2) Mae Prydain yn un o'r gwledydd mwyaf, a mwyaf dylanwadol ar ol Ffrainc a'r Almaen yn Ewrop.

(3) Mae Cymru yn rhan o Brydain, ac yn helpu i lunio polisi Prydain yn Ewrop.

Felly

Mae Cymru yn medru dylanwadu mwy ar bolisi Ewrop na fyddai gwlad fach "annibynol".

Fel hyn mae gwleidyddiaeth Ewrop yn gweithio ar y funud. Dwi ddim yn dadlau nad oes angen diwygio'r system, ond fel mae hi'n sefyll, cyfraniad hollol ymylol sydd gan y gwledydd bach i'w wneud.

O.N.
Beth bynnag fo cefndir Peter Hain, mae o'n cynrychioli pobl Castell Nedd - Cymry.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 09 Tach 2003 12:24 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:(3) Mae Cymru yn rhan o Brydain, ac yn helpu i lunio polisi Prydain yn Ewrop.


Pwynt yw hyn sy'n anodd i mi anwybyddu oherwydd ei bod hi mor aruthrol o anghywir. Lloegr sy'n penderfynu polisi Prydain. Gweler senedd San Steffan, 40 o gynrychiolwyr Cymreig mewn senedd o rhyw 550 o gynrychiolwyr Seisnig (a 36 o'r 40 yna'n cynrychioli llais y pleidiau Prydeinig, nid Cymreig!).

Rheolir Cymru gan Loegr. Lloegr yw'r meistri. Nhw sy'n penderfynu polisi Prydain yn Ewrop a nid Cymru.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Chris Castle » Llun 10 Tach 2003 8:16 am

Lloegr sy'n penderfynu polisi Prydain.


Sut all darn o dir penderfynnu Polisiau darn o dir ei bod hi'n rhan ohoni?

Pobl sy'n penderfynnu polisiau. Y pwynt yw gwneud hynny'n democrataidd ac yn deg. Dwi'n fodlon ystiried syniadaeth o greu gwladwriaeth Cymreig (o fath) er mwyn sicrhau democratiaeth, ond mae'r holl sarhad gwrth-seisnig oddi wrth yr ymhanwyr o genedlaetholwyr, fel yn y dyfyniad uchod, yn ddim byd ond culni Hogyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Garnet Bowen » Llun 10 Tach 2003 9:52 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Rheolir Cymru gan Loegr. Lloegr yw'r meistri. Nhw sy'n penderfynu polisi Prydain yn Ewrop a nid Cymru.


Iesu Grist, ti'n siarad fatha bo' ni'n byw yn y canol oesoedd. "Lloegr yw'r meistri" wir. Gwladwriaeth ddemocrataidd ydi Prydain - toes 'na neb yn rheoli neb arall. Tyfa i fyny. :drwg:

Pobol Prydain sy'n llunio polisiau Prydain yn Ewrop - gan gynnwys ni'r Cymry. [/b]
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 10 Tach 2003 11:22 am

Pobol Prydain sy'n llunio polisiau Prydain yn Ewrop - gan gynnwys ni'r Cymry.


Fi heb glywed pwynt mor naif yn fy myw. Fi ddim yn credu y gelli di ffeindio unrhyw un fydd yn credu mae pobol Prydain sy'n llunio polisiau Prydain yn Ewrop, Bydd yn anodd iawn dadlai hefyd mae gwleidyddion Prydain sydd yn. Y gwir amdani yw fod bron holl bolisiau Prydain yn cael eu llunio can griw fach o weision sifil holl bwerus!

(1)Y gwledydd mawr sy'n llunio polisi yn Ewrop - nid y gwledydd bychain, nid y gwledydd canolig, ond y gwledydd mawr.


CYTUNO - Er ei fod yn sefyllfa gwbl warthus!

(2) Mae Prydain yn un o'r gwledydd mwyaf, a mwyaf dylanwadol ar ol Ffrainc a'r Almaen yn Ewrop.


CYTUNO - unwaith eto!

(3) Mae Cymru yn rhan o Brydain, ac yn helpu i lunio polisi Prydain yn Ewrop.


ANGHYTUNO. (Wel fi'n derbyn bod Cymru'n rhan o Brydain) - A dyma lle mae'r gwahaniaeth barn mawr yn bodoli. Ti'n ceisio dadlai gan fod Cymru yn rhan o Brydain fod dylanwad Prydain yn estyn at Gymru. Wyt ti wir yn meddwl y byddai polisiau Lloegr Rydd yn Ewrop yn wahanol i bolisiau Prydain heddiw? Mae'r Alban (a gogledd Lloegr) yn dioddef yn yr un modd, gan ei bod yn rhy bell o ganolbwynt y pwer yn Llundain. Byddwn i'n dadlai y byddai Cymru a'r Alban fel gwledydd annibynol yn Ewrop yn medru dylanwadu yn llawer yn fwy effeithiol, a cheisio atebion at broblemau'r gwledydd yma yn llawer gwell fel aelodau cyflawn o'r Undeb Ewropeaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron