[quote="Aled]
Achos nad ydw i'n gwbod dim byd am yr achos yma, a dwi'm yn un sy'n tueddu i fynd ymlaen ac ymlaen am bethau dwi'n gwbod dim amdanynt. Yr un ffordd a dwi, na neb arall yn famma yn gwbod be ddigwyddodd ar Bloody Sunday achos doedden ni ddim yno. Y cwbl fedrwn ni neud ydi rhoi barn.
Pam son am y peth o gwbl felly? Ti'n derbyn tystiolaeth y llofruddiwr McGuiness yn ddi-gwestiwn ac yn amau tystiolaeth esgob er nad o't ti yn bresennol. Mae digon o dystiolaeth ar y we os wyt ti'n edrych amdano. Os yw dau aelod yr IRA wedi dweud wrth y llys eu bod wedi saethu at filwyr byddwn i'n derbyn eu tystiolaeth. Pam fydden nhw'n dweud celwyddau yn erbyn eu hunain?
A'r farn sylfaenol dwi'n trio roi drosodd ydi, dio'm rili bwys pwy saethodd gynta, achos mi nath y Paras dal ladd y bobl rong a hynny, os nad yn fwriadol wel o leiaf 'accidentally on purpose'. Tase nhw di lladd 14 aelod o'r IRA faswn i ddim yn eu barnu nhw o gwbl achos dyna sy'n digwydd mewn rhyfel, ond naethon nhw ddim naddo. Naethon nhw ladd merched a phlant.
Drycha di ar restr Cardi o'r rhai a gafodd eu lladd. Sai'n gweld enw merch yn eu plith. Dwim yn meddwl bod plentyn wedi'i ladd chwaith.
A ddylai'r Paras fod wedi gofyn i aelodau IRA sefyll lan er mwyn gwybod at bwy ddylent fod wedi saethu?
Wan anghofia am Jean McCoville Pogon, does ganddi'm byd i neud efo Bloody Sunday. Agor edefyn arall amdani os tisho a gei di siarad efo ti dy hun mor hir a tisho.
Wrth gwrs anghofia am Jean McConville. Dim yn 'sexy' oedd ei marwolaeth hi. Na'r dwy fil a gafodd ei lladd gan yr IRA, pedair gwaith
yn fwy na chafodd eu lladd gan yr ochr Prydeinig.
Mae'n berthnasol am dy fod yn cyfeirio at griw o lofruddwyr a seicopaths fel byddin. Tase'r IRA yn fyddin go iawn bydden nhw'n dilyn rheolau yn hytrach na herwgipio, arteithio a llofruddio menyw cwbl ddiniwed. Ac yn wahanol i Sul gwaedlyd llofruddiaeth
mewn gwaed oer oedd e.