Y Fuwch Goch

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Fuwch Goch

Postiogan Y Fuwch Goch » Llun 09 Chw 2009 12:23 pm

Y FUWCH GOCH yn agor ei drysau am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd

Delwedd

Mae’n fraint cyhoeddi y bydd bar newydd o’r enw Y FUWCH GOCH yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar Chwefror 6ed, 2009, gyferbyn a Chlwb Ifor Bach, ar Stryd Womanby, Caerdydd. Sefydlwyd Y Fuwch Goch nol yn y ddeunawfed ganrif, a chyfeiriwyd at Stryd Womanby fel Lôn Y Fuwch Goch hefyd ar un adeg - ac mae paneli gwybodaeth yn y bar yn olrhain hanes y dafarn a’r cyffiniau.

Clwb Cymraeg Caerdydd bydd yn rheoli’r bar newydd, ac fe fydd yn rhywle i Gymry Cymraeg allu ymlacio a mwynhau mewn awyrgylch Cymraeg ynghanol ein prifddinas yn ogystal â Chlwb Ifor Bach. Bydd y bar ar gael i gynnal digwyddiadau Cymraeg yn y ddinas, yn ogystal â dangos gemau chwaraeon pwysig, ac ar gael i logi ar gyfer achlysuron arbennig gan y cyhoedd.

Dywedodd Owen John Thomas, aelod o bwyllgor Clwb Ifor Bach, a chyn aelod cynulliad Plaid Cymru: “Da yw gweld ail-afael yn rhan o etifeddiaeth Caerdydd o’r adeg pan oedd yn dref Gymraeg yn bennaf. Hefyd nodi fod bar newydd yn agor tra bod eraill yn cau, a bod hynny arwydd o gynnydd yr iaith yn yr ardal”. Dywed y DJ ac actor Gareth Potter, sydd wedi bod yn gymeriad ym mywyd adloniant Cymraeg Caerdydd ers i Glwb Ifor Bach agor (ac a fydd yn darparu trac sain Cymraeg y bar newydd): “Fe fydd y Fuwch Goch yn lleoliad canol dref bwysig ar gyfer cymdeithasu Cymraeg yn y ddinas, ac edrychaf ymlaen at y datblygiad yma’n arw”

Am ragor o fanylion / lluniau, cysylltwch â: yfuwchgoch@clwb.net / http://www.yfuwchgoch.com



Hanes ychwanegol Y Fuwch Goch:

Yr Hen Fuwch Goch
Yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y safai tafarn y Fuwch Goch ar Stryd Womanby . Ehangwyd yr hen adeilad yn hwyr yn oes Victoria'r holl ffordd yn ôl i Heol y Porth a rhoddwyd arno’r enw mwy rhwysgfawr “Grand Hotel”. Yna fe ychwanegwyd y safle gwreiddiol at y dafarn drws nesaf, yr “Horse and Groom”, a fu yma tan y ganrif hon. Y Fuwch Goch oedd man cychwyn y cariwr rhwng Caerdydd a’r Bontfaen.

Yr enw Saesneg “Red Cow” a gofnodir ar gyfer yr hen dafarn, ac yr oedd ei harwydd mor amlwg fel i’r stryd ddwyn yr enw Saesneg “Red Cow Lane” am gyfnod. Fodd bynnag mae’n debyg mai’r “Fuwch Goch” oedd y lle ar lafar, gan fod yna gyfeiriad yn 1731 at un o’r ardalwyr dan yr enw “Dic y Fuwch”. Efallai mai ef oedd y perchennog ar y pryd. Y sawl a wnaeth gyfeirio ato oedd Thomas Morgan, cyfreithiwr ac un o fân sgweieriaid y fro, oedd yn ymwelydd cyson a thafarn arall o’r enw Tŷ Coch, llai na chanllath i ffwrdd.
http://www.yfuwchgoch.com / Facebook: Fuwch Goch / yfuwchgochATclwb.net
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fuwch Goch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Llun 09 Chw 2009 12:11 pm

Re: Y Fuwch Goch

Postiogan Ray Diota » Maw 12 Mai 2009 12:53 pm

nawr wy'n gweld hwn! yr hen shorepebbles ife? yw e di newid lot? os chance am lun i rywun sy'n byw'n bell i ffwrdd??
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Y Fuwch Goch

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 12 Mai 2009 5:13 pm

Sdim lot di newid i ddeud y gwir!
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Y Fuwch Goch

Postiogan Ray Diota » Maw 12 Mai 2009 5:15 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Sdim lot di newid i ddeud y gwir!


digon teg! ffwc o beth ddo i Gymdeithas cymraeg caerdydd i brynu, ndi? Bar smart yn ganol dre... gwd job!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron