Ifan Saer a ddywedodd:Hogyn o Rachub a ddywedodd:
I'm just going to pick into town
Aye, dwi'n euog o hynna ar adegau. Un arall (falla fod o wedi cael ei drafod eisoes, dim amser i ddarllen yr holl edefyn mae arnai ofn) sydd wedi dianc o'n ngwefus o bryd i'w gilydd yw:
he's making fun on your head
sydd yn gallu cael ymateb reit od a deud y lleia'.
Hefyd, wrth siarad efo ffrind oedd wedi ypsetio am rywbeth hollol ddibwys:
don't swallow a donkey now, lift your heart
aeth hynna ddim i lawr yn dda iawn chwaith. O leia' mod i wedi dewis donkey yn hytrach nag ass, ynde.
Mewn bwyty neu siop chips weithie,
"Can i have some red sauce plis?"