gan aled g job » Sad 23 Mai 2009 1:48 pm
Wedi pythefnos o stori treuliau'r aelodau seneddol, beth ydi barn maeswyr am y sgandal erbyn hyn?
Yn bersonol, fedrai'm gweld sut y gellid gwrthsefyll y galwadau cynyddol am etholiad cyffredinol llawer iawn mwy . Pe bae'r pleidiau'n gobeithio y byddai wythnos o wyliau yn lleddfu digofaint y cyhoedd rhywfaint, doedd ond angen edrych ar yr ymateb ffyrnig a gafodd Andrew Mackay yn Bracknell neithiwr i weld mai gwag obeithio llwyr oedd hyn. Be oedd yn anhygoel oedd y modd y bu i'r AS hwn drio sbinio i'r cyfryngau bod tri-chwarter y gynulleidfa o'i blaid, dim ond i aelod o'r cyhoedd ei herio y fyw ar yr awyr gan ddweud bod dweud hynny yn camliwio'r cyfarfod yn llwyr. Roedd wyneb Mckay yn bictiwr wrth weld aelod o'r cyhoedd yn ei herio yn y ffasiw nfodd- roedd o'n enghraifft pwerus iawn o "people power"ar waith. Mwy o hyn sy'n wynebu Aelodau Seneddol o bob plaid dros y dyddiau a wythnosau nesaf. Gyda'r Senedd a'i chynrychiolwyr wedi colli ffydd pobl i'r ffasiwn raddau, pa hawl moesol sydd ganddyn nhw i ddal ati i drafod a pasio deddfau sy'n effeithio ar bawb ohonom a pham ddylai'r cyhoedd gymryd unrhyw sylw o'r deddfau hyn bellach? Mae hyn yn rysait am wrthdaro sifil mewn gwirionedd- a phe bai hyn oll wedi digwydd yn Ffrainc, siawns y byddai'r baricades i fyny bellach!
Mae'r rhai hynny sy'n dadlau bod rhaid sortio'r busnes treuliau gyntaf cyn cael etholiad yn chwarae i ddwylo Bunker Brown sy'n gobeithio sefydlu proses fiwrocrataidd araf i edrych i mewn i'r peth gan ladd y diddordeb cyhoeddus. Ond beth mewn difri sy'n rhwystro'r pleidiau, neu'r aelodau senedddol eu hunain o ran hynny, rhag cyhoeddi'r holl dreuliau ar lein rwan hyn, fel bo modd i bawb allu gweld beth ydi'r darlun yn llawn?
Dwi'n meddwl y gallai'r Daily Telegraph helpu yn hyn o beth, yn enwedig o gofio bod ganddyn nhw golofn olygyddol heddiw sy'n galw am etholiad. Hynny ydi , pam na allen nhw greu gwefan arbennig gyda manylion pob aelod seneddol, fesul etholaeth, arno, fel bo modd i'r cyhoedd weld y ffeithiau'n uniongyrchol am eu cynrychiolwyr lleol? Dwi'n edmygu'r Telegraph yn fawr am yr hyn y maent wedi'i wneud hyd yma, ond os ydyn nhw'n bwriadu dal ati hefo'r cyrchddull drip-drip hyn am wythnosau eto, mae gen i ofn y bydda nhw'n colli'r tir moesol uchel y maent yn sefyll arno a hyn o bryd. Mae'n rhaid cael yr holl wybodaeth allan i'r parth cyhoeddus mor fuan a phosib ac fe allen nhw wneud hynny gan gadw gafael ar y stori yr un pryd.
Roedd Llafur Newydd yn wynebu chwalfa etholiadol yn barod wrth gwrs a dim ond cyflymu'r broses honno y mae'r sgandal hon. Ond, mae'n sefyllfa anodd iawn i'r Ceidwadwyr hefyd gan eu bod hwythau yn ei chanol hi hefyd. Er fod Cameron wedi ei chwarae hi'n reit ddeheuig hyd yma, y perig iddo fo ydi po fwyaf o amser aiff heibio rwan cyn etholiad, po fwyaf o gyfle fydd yna i'r Independents drefnu eu hunain yn rym etholiadol o bwys. Bydd y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn dangos faint o ruddin arweinyddol sy'n perthyn i Cameron go iawn. Fydd ganddo'r gyts i gael gwared ar rai o'i aelodau mwyaf trachwantus rwan hyn rhagor na gadael iddyn nhw ddweud na fydda nhw'n sefyll yn yr etholiad nesaf; fydd ganddo'r gyts i drefnu bod ei holl aelodau'n sefyll i lawr gyda'i gilydd er mwyn adleisio'r galwad cyhoeddus am etholiad cyffredinol?
Aled G Job