Dyna'r enw newydd fydd ar wefan newyddion (h.y. y £200,000) newydd golwg. Mae'n swnio'n ddiddorol iawn. Am y tro 1af bydd gyda ni newyddion o Gymru A'R BYD yn Gymraeg ar y we! Gobeithio bydd yn cael ei ddiweddaru'n gyson, a bod y wefan nid yn unig yn ail adrodd straeon ffynonellau eraill ond yn gwneud bach o waith newyddiadurol ymchwiliol. Mae wir angen hyn arno ni yng Nghymru.
Mae'r elfen o rhyngweithioldeb hefyd yn un diddorol, gyda'r opsiwn i fudiadau, grwpiau, cylchoedd, bandiau ayb greu is-wefannau yn rhada c am ddim.
Disgwyl 'mlaen i'r lansiad ar y 15fed o Fai.
Hwn fydd y cyfeiriad mwy na thebyg - http://www.golwg360.com/
Mae cloc ar wefan Golwg yn cyfri lawr tan y dyddiad - http://www.golwg.com/