Y gwir yw hyn: gan amcangyfrif gwariant ar y safle o £20,000, mae'n erchyll o wasanaeth.
Un ateb fyddai wedi ateb pob gofyn yw dechrau gyda phecyn tebyg i wordpress (
http://www.wordpress.org), a gwario £20,000 yn datblygu hwnnw i fod yn addas i ofynion Golwg360. Mae Wordpress ar gael dan drwydded rhad ac am ddim gyda hawl i'w ddatblygu - AC MAE RSS YN AWTOMATIG YN RHAN O'R PECYN! Ymhellach, medrid fod wedi rhyddhau hyn yn ôl i'r gymuned arlein Gymraeg a medru dangos gwerth am arian amlwg i'r llywodraeth!
Byddai cwmnïau Cymreig megis ennillwyr gwobr dylunio dwyieithog Bwrdd yr Iaith
http://www.greenlanddesign.org wedi medru llawer gwell. Mae Imaginet hefyd yn darparu nifer fawr o safleoedd Cymraeg - a Sequence hefyd wedi arfer a phrosiectau mawr Cymreig. Gwn i am ambell arbennigwr côd agored Cymraeg fyddai wedi medru adeiladu'r safle'n well am becyn o gnau ac ambell fwnci dawnsio.
O weld beth yw safonau cyhoeddi gwe heddiw - dyw darpariaeth Golwg360 yn ddim ond embaras. A gyda'r arian o San Steffan yn lleihau, chewn ni ddim arian fel hyn eto i sefydlu safle gwe dda. Y sgandal mwya' yw'r llun a'r datganiad sy'n disgrifio'r lansiad: 4 hen ddyn sy'n gwybod dim am dechnoleg yn llongyfarch eu gilydd am osod Golwg360 ar sylfaen broffesiynnol.
Pa ran o "Safle Gwe Newyddion" oedd mor anodd ei ddeall, dwedwch?
o.n. ydw - wedi cofrestru ers 2004, ac ond neges #4 yw hwn. Allwch chi fadde i fi?
golygiad: Wedi gweld Golwg a Golwg360, ma' rhaid bod y gwariant mawr wedi bod ar Golwg2-Golwg359.