Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Macsen » Gwe 15 Mai 2009 12:21 pm

Mae yna broblemau technegol ar hyn o bryd.

Allai'm esbonio'r broblem ond mae gwagio eich cache (yr opsiwn Clear Private Data yn firefox...) i weld yn datrys y peth dros dro!

Pob lwc!
Golygwyd diwethaf gan Macsen ar Gwe 15 Mai 2009 1:09 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Ray Diota » Gwe 15 Mai 2009 12:29 pm

Macsen a ddywedodd:gwagio eich cache


wastad yn neud i fi d'imlo'n well ta beth...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Ray Diota » Gwe 15 Mai 2009 12:35 pm

falle bod hi braidd yn gynnar, ond be ffwc yw pwrpas 'Y Maes'??

hefyd, dwi'n dipyn o gretin ar y we a wy'n lico mynd nol i'r hafan yn weddol amal... dyw hynna ddim i'w weld yn bosib...?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Macsen » Gwe 15 Mai 2009 12:42 pm

Ray Diota a ddywedodd:dwi'n dipyn o gretin ar y we a wy'n lico mynd nol i'r hafan yn weddol amal... dyw hynna ddim i'w weld yn bosib...?

Dyna un o'r problemau technegol.

Dyle chi fod yn gweld Hafan, Chwaraeon, Newyddion, Celfyddydau, Lle Pawb, Y Maes, a Calendr ar hyd y top.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Golwg360 - Gwarthus

Postiogan Dewin » Gwe 15 Mai 2009 12:45 pm

Mae'n warthus o safle yn dechnegol (dim sylwad ar y cynnwys fan hyn):

Dim RSS, hygyrchedd erchyll, fideo'n cychwyn heb ofyn, ffontiau anghyson, dim botwm cartref, dim teitlau i luniau, hysbysebion yn edrych yn wael, hysbysebion golwg360 yn edrych fel rhai geocities y 90au, cloc "provided by timeadndate.com"!!, dim opsiwn graffeg isel, ffontiau aneswmyth ac anghyson, scriptiau di-ri - heb fersiwn testun os nad yw dyn yn rhedeg scriptiau,

Y chwyddwydr yn y chwilfar a'r teitl "newyddion diweddara'" arno yn dweud y cwbl i ddweud y gwir: dal i chwilio amdani...

Rhaid i fi ddweud 'mod i wedi creu safleoedd gwell (a gwaeth *pesychiad*) - er bod rhaid cyfadde hefyd i fi gael deuddydd a weithiau tridiau cyfan i greu'r rheini.

o.n.
Disgwyl stori am arweinydd newydd nesa'r blaid Lafur yng nghymru fan hyn - ond na...
http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=623&navigationID=0&domainID=0

Ymddiheuriadau am y rant - ond mae'n warthus am £200,000. :ing:
Dewin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Gwe 23 Ion 2004 11:59 am

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 15 Mai 2009 2:19 pm

mmm... Dim dechreuad da o gwbwl. Dyw e ddim yn gweithio o gwbwl nawr. Rhaid i mi weud mod i'n cytuno gyda lot o'r hyn mae Dewin yn dweud uchod, a doeddwn i ddim am rhoi sylwadau negyddol,ond mae'n amhosib peidio mewn gwirionedd. Mae jest yn edrych fel, wel rhywbeth o ddiwedd y 90au! :?

Mae'r ffaith nad oes RSS yn broblem anferth. Roeddwn i am ddangos Ffrwd RSS aradran newyddion yma ar y maes e.e.

Mae'r ffaith eu bod yn defnyddio teclynnau bach rhad ac am ddim fel y cloc yn gamgymeriad mawr.

Hefyd pam cymaint o wahanol ffontiau, a pam ffont y straeon yn llwyd? Mae hyn yn anodd i'w ddarllen. Dylai'r prif ffont wastad fod yn ddu yh fy marn bach i.

Fel arfer, mae pwyso ar logo unrhyw wefan yn mynd a chi nol i'r hafan, ond dyw logo y wefan yma ddim yn pwyntio at unrhywle.

O'r hyn dwi'n deall, Tinopolis gafodd y cytundeb o adeiladu'r wefan. Siwr nad yw staff Golwg yn hapus iawn gyda Tinopolis nawr!! Falle byddai wedi bod yn well defnyddio rhywun fel http://www.imaginet.co.uk/ i wneud y gwaith.

Er hyn, dywedodd Dylan Iorwerth y bydd y wefan yn cael ei ddatblygu dros yr wythnosau/misoedd nesaf, felly nodwch eich sylwadau yma (da a drwg) ac fe wnaf yn siwr eu bod yn cael eu danfon ymlaen at tîm Golwg 360. Dwi'n siwr y bydd y problemau yma oll yn cael ei sortio mas, jest trueni eu bod wedi digwydd o gwbwl o ystyried y swm o grant gan y Llywodraeth, a blwyddyn gyfan o amser i baratoi!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Geraint (un arall) » Gwe 15 Mai 2009 4:57 pm

Allai ddim cofio y tro diwethaf i fi gyfrannu i'r maes ond dyma oedd y lle cyntaf y des i ar ol edrych ar y mess ag ydi Golwg360. Mae'r ddau gyfraniad diwethaf yn llygad eu lle, mae o'n edrych fel safle fasa rhywun wedi adeiladu fel prosiect ysgol/coleg yn niwedd y 90au. Sgwennu coch ar gefndir gwyn sy'n ofnadwy o annodd ei ddarllen ac uffernol o hyll, 'gaps' mawr gwyn tua gwaelod y tudalennau, gwefan sy'n edrych yn hollol wahanol ar Safari a Firefox (heb ei drio ar IE), lluniau low-res. Dwi newydd wrando ar gyfweliad ar Radio Cymru lle does dim o hyn yn cael ei adlewyrchu. Y peth trist ydi allai'r cynnwys fod y peth gorau gafodd ei sgwennu yn yr iaith gymraeg ond mae'r dylunio mor wael fel ei bod hi'n amhosib canolbwyntio/dod o hyd i'r straeon.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint (un arall)
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 95
Ymunwyd: Mer 12 Chw 2003 8:42 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Dewin » Gwe 15 Mai 2009 5:14 pm

Y gwir yw hyn: gan amcangyfrif gwariant ar y safle o £20,000, mae'n erchyll o wasanaeth.

Un ateb fyddai wedi ateb pob gofyn yw dechrau gyda phecyn tebyg i wordpress (http://www.wordpress.org), a gwario £20,000 yn datblygu hwnnw i fod yn addas i ofynion Golwg360. Mae Wordpress ar gael dan drwydded rhad ac am ddim gyda hawl i'w ddatblygu - AC MAE RSS YN AWTOMATIG YN RHAN O'R PECYN! Ymhellach, medrid fod wedi rhyddhau hyn yn ôl i'r gymuned arlein Gymraeg a medru dangos gwerth am arian amlwg i'r llywodraeth!

Byddai cwmnïau Cymreig megis ennillwyr gwobr dylunio dwyieithog Bwrdd yr Iaith http://www.greenlanddesign.org wedi medru llawer gwell. Mae Imaginet hefyd yn darparu nifer fawr o safleoedd Cymraeg - a Sequence hefyd wedi arfer a phrosiectau mawr Cymreig. Gwn i am ambell arbennigwr côd agored Cymraeg fyddai wedi medru adeiladu'r safle'n well am becyn o gnau ac ambell fwnci dawnsio.

O weld beth yw safonau cyhoeddi gwe heddiw - dyw darpariaeth Golwg360 yn ddim ond embaras. A gyda'r arian o San Steffan yn lleihau, chewn ni ddim arian fel hyn eto i sefydlu safle gwe dda. Y sgandal mwya' yw'r llun a'r datganiad sy'n disgrifio'r lansiad: 4 hen ddyn sy'n gwybod dim am dechnoleg yn llongyfarch eu gilydd am osod Golwg360 ar sylfaen broffesiynnol.

Pa ran o "Safle Gwe Newyddion" oedd mor anodd ei ddeall, dwedwch?

o.n. ydw - wedi cofrestru ers 2004, ac ond neges #4 yw hwn. Allwch chi fadde i fi?

golygiad: Wedi gweld Golwg a Golwg360, ma' rhaid bod y gwariant mawr wedi bod ar Golwg2-Golwg359.
Dewin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Gwe 23 Ion 2004 11:59 am

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Dewin » Gwe 15 Mai 2009 5:30 pm

Ymddiheuriadau o flaen llaw os oes rhaid i gymedrolwr ymateb - ond fi'n eitha candryll ar hyn o bryd.

Delwedd
Dewin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Gwe 23 Ion 2004 11:59 am

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 15 Mai 2009 5:46 pm

Mwy o broblemau:

Mae'r gwagle gwyn ar waelod tudalennau yn arwydd o ddylunio gwael.

Nid yw'r teclyn anfon stori at gyfeiriad ebost yn gweithio.

Mae'r tudalennau Telerau ac Amodau + Polisi Preifatrwydd yn hollol wag.

Dewin a ddywedodd:Y sgandal mwya' yw'r llun a'r datganiad sy'n disgrifio'r lansiad: 4 hen ddyn sy'n gwybod dim am dechnoleg yn llongyfarch eu gilydd am osod Golwg360 ar sylfaen broffesiynnol.


Ti'n llygaid dy le yma. Dyna'n union wnes i feddwl o weld y llun yna ar y dudalen flaen hefyd. :?

Delwedd

Beth sydd hefyd yn drueni, yn enwedig o ddeall bod y wefan wedi cael ei adeiladu o ddim, yw bod cyfeiriadau y tudalennau yn cynnwys termau Saesneg e.e.

Cod: Dewis popeth
http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=2297&navigationID=19101&domainID=


Gol. Ie fi'n gwbod bod hyn yn wir am maes-e hefyd, ond rhaglen phpbb3 sy'n rhedeg maes-e, a cafodd Nic ddim £200,000 y flwyddyn i'w sefydlu! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron