Bragu Cartre

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bragu Cartre

Postiogan Mr Gasyth » Maw 12 Mai 2009 8:22 am

Oes unrhywun erioed weid rhoi cynnig arni?

Gen i ffansi gneud, a wedi bod yn edrych ar kit tebyg i hwn fel man dechrau.

Unig beth sy'n fy mhoeni ydi mai dim ond cegin eitha bach a 'box room' sydd gen i ar gyfer gneud hyn - all rywyn gynghori ar faint o le sydd angen a faint o lanast mae'r job yn beryg o greu? Hefyd, ydi cwpwrdd crasu yn angenrheidiol, neu ddylai'r box room fod ddigon cynnes ond i mi wneud ymdrech i reoli'r ymheredd (mae yna reidiadur yno)?

Dyna ddigon am wan. Baswn i'n falch o unrhyw tips ar y pynciau uchod neu unrhywbeth i wneud a'r grefft!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Bragu Cartre

Postiogan Duw » Maw 12 Mai 2009 6:54 pm

Ro'n i'n arfer gwneud y stwff yn rheolaidd rhyw 20 blynedd yn ol. Anghenion fel dwi'n cofio:

Tun malt (llai o ffys na defnyddio hops a hwnna i gyd) o safon uchel; burum y bragwr; siwgr (glwcos - NID siwgr cyffredin [swcros] - y rheswm am hyn yw bod y burum yn grofod treulio'r swcros i glwcos yn gyntaf - er bydd dal yn gweithio); bwced eplesu; tabledi steryllu; pibell siphon i dynnu'r cwrw unwaith iddo eplesu; hydromedr (i fesur dwysedd cymharol y cwrw - mesur o gynnwys siwgr/alcohol); casgen wasgedd a chwistrell CO2 NEU poteli bragu gyda thopiau cywir.

Unwaith i'r eplesiad orffen yn y bwced, gallet ychwanegu isinglass finings i glirio'r cwrw (gwaddod yn cwympo i'r gwaelod). Yna bydd angen defnyddio siphon i dynnu'r cwrw allan o bwced i'r cynhwysydd newydd (casgen neu poteli). Bydd angen ychwanegu mwy o siwgr i'r cynhwysydd newydd. Ond gofal - gormod a bydd y cwrw'n rhy felys, dim digon a fydd yn weddol fflat.

Y kits o'n i'n arfer defnyddio yn gwneud 40 peint. Roedd siop arbennig yn Whitchurch Road yng Nghaerdydd a oedd yn siop home brew un pwrpas - ffantastig. Roedd y boi - bachan o India yn rhedeg y fferyllfa drws nesaf hefyd. Dwi'n meddwl ei fod wedi cau lawr nawr yn anffodus.

Mae pros a cons o ddefnyddio casgen a photeli. O'r cof:

Poteli - gwaddod mwdlyd yn ffurfio ar waelod y poteli - angen eu harllwys yn ofalus - anodd i swigio o'r botel ei hun.
Casgen - llawer o wasgedd - gall y cwrw ddod allan fel ewyn o'r tap os nac ydy'r gwasgedd yn cael ei rhyddhau.

Rhaid dweud, ro'n i'n hoffi hen home brew - atgoffa i o sut ddyle cwrw flasu - fel yr hen Buckley's cachlyd - iymi.

'Sda fi gynnig i'r rwtsh creamflow sydd wedi cropian lan yn bobman dyddie 'ma. Dyle'r f*wits 'na a ddechreuoedd y rot (Caffrey's dwi'n meddwl) cael eu sbaddu.

**GOLYGU**
Paid a phoeni gormod am rheoli tymheredd - bydd y burum yn gweithio'n iawn ar bob tymheredd (hyd at 40 gradd C). Mae cyfradd adwaith yn cynyddu'n sylweddol o 16 gradd C i fyny - er jest angen bod yn amyneddgar - mae'n barod pan fydd y hydromedr yn dweud ei fod yn barod - NID CYN.

O ran faint o le: angen digon o le yn y gegin i steryllu bwced/casgen/poteli - dyna fe. Gall fod hyd o hosepipe (wedi'i steryllu) yn ddefnyddiol i lenwi'r bwced gyda dwr. Mae'n bosib bydd angen poethi'r tun malt mewn sosban fawr o ddwr berwedig er mwyn meddalu'r cynnwys. Hefyd posib bydd yn rhaid arllwys dwr berwedig ar ben y malt i hydoddi'r holl lot cyn ychwanegu'r dwr oer. Ychwanega'r siwgr a chymysgu - eto gyda rhywbeth sydd wedi'i steryllu (e.e. sbatwla). Os yw'r dwr yn dwym iawn ar ol llenwi'r bwced - PAID ag ychwanegu'r burum tan ei fod o gwmpas tymheredd yr ystafell, neu fyddid yn ei ladd. Unwaith i ti osod y bwced eplesu mewn stafell, angen digon o le i ddefnyddio siphon o'r bwced i'r gasgen/poteli. Er mwyn gwneud hwn yn effeithiol, bydd angen bod y bwced ar lefel yn uwch na'r cynhwysydd/cynwysyddion rwyt am lenwi. Er bod temtasiwn i yfed y cwrw wrth i ti ddefnyddio'r siphon - PAID - gei di fola tost - mae'n rhaid iddo aeddfedu (mae'n blasu'n ofnadwy beth bynnag).

**GOLYGU ETO

Jest i ddweud, er bod burum yn gallu godde canran alcohol o tua 15% (ar y mwya), paid a cheisio cynhyrchu cwrw â chrynodiad uchel iawn o alcohol ar dy dro cynta - bydd cwrw cryf yn tueddu bod yn drwchus, melys ac anodd i'w yfed (e.e. barley wine). Stic i'r canllawie ar y tun neu'r rysait sydd gennyt. Dechreua gyda kit, ac ar ol sawl llwyddiant gallet symud ymlaen i ddefnyddio hops, barlys a chynhwysion o dy ddewis.

Affach dan, dwi'n meddwl af allan fory a phrynu kit arall - diolch Mr G.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Bragu Cartre

Postiogan Mr Gasyth » Maw 12 Mai 2009 8:06 pm

Diolch Duw - mae hwnne'n cyd-fynd efo'r hyn dwi di ddarllen hyd yn hyn.

Ma ne siop ar Cowbridge Road East yng Nghaerdydd ar waelod Clive Rd, felly mi af yno ddydd Sadwrn i brynu offer. Am drio cael bwced ffermentio sydd efo tap ar y gwaelod er mwyn gwneud trosglwyddo a photelu'n haws.

Dwi di gweld rhai gwefannau sy'n awgrymu y gellid jest rhoi'r caead ar y bwced ffermentio yn llac yn hyrach na defnyddio un efo 'valve'. I mi, mae hyn yn swnio fel rysait am gontamination a drewdod. Ydw i wedi camddeall wbeth?

Dechreua gyda kit, ac ar ol sawl llwyddiant gallet symud ymlaen i ddefnyddio hops, barlys a chynhwysion o dy ddewis.


Ella mod i'n bod yn rhy uchelgeisiol ond tydi defnyddio kit ddim yn apelio atai lawer. Snwio'n rhy 'instant' i mi a dwi isho cael cymysgu'r cynhwysion fy hun. Mae gen i stock pot 2 galwyn (7.6 litr) allen i ddefnyddio i ferwi ac yn ol rhai ffynhonellau mae hyn yn ddigon mawr, ond yn ol eraill ddim. Oes gen ti gyngor am hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Bragu Cartre

Postiogan Duw » Maw 12 Mai 2009 8:38 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Ella mod i'n bod yn rhy uchelgeisiol ond tydi defnyddio kit ddim yn apelio atai lawer. Snwio'n rhy 'instant' i mi a dwi isho cael cymysgu'r cynhwysion fy hun.


Digon Teg Mr G - cer amdani - er mae'n dipyn o 'potsh'. Parthed y bwced eplesu - dwi erioed wedi defnyddio un gyda thap - mae gosod clawr yn 'rhydd' yn iawn. Ni fydd contamination yn digwydd heb law dy fod yn dechre ponsan o gwmpas da fe a stico bysedd brwnt i mewn iddo wrth brofi'r dwysedd.

Drewdod = neis! Stim byd fel arogl cwrw'n eplesu.

Mwynha - rho wybod i ni sut rwyt yn dod ymlaen. Cwrw chwerw rwyt yn mynd i'w wneud, dwi'n cymryd, dim o'r lager-drinking wendy nonsens 'na. Cwrw go iawn sy'n blasu fel pants brwnt!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Bragu Cartre

Postiogan Mr Gasyth » Maw 12 Mai 2009 9:09 pm

Drewdod = neis! Stim byd fel arogl cwrw'n eplesu.


Bydd rhaid mi checio hynne efo' ddynes 'cw!

Mwynha - rho wybod i ni sut rwyt yn dod ymlaen. Cwrw chwerw rwyt yn mynd i'w wneud, dwi'n cymryd, dim o'r lager-drinking wendy nonsens 'na. Cwrw go iawn sy'n blasu fel pants brwnt!


Ie, bendant. Adawai ti wybod sut ma hi'n mynd. Ysu i gychwyn arni rwan!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Bragu Cartre

Postiogan Mr Gasyth » Llun 18 Mai 2009 8:49 am

Y cam cynta wedi ei gyflawni a'r wort eisioes wedi dechrau eplesu.

Ddefnyddies i y kit yma yn diwedd er wnes i addasu'r rysait rywfaint i gyd-fynd a be on i wedi darllen yn fy llyfr bragu cartre (ychydig llai o ddwr a siwgwr na be oedd yn cael ei argymell ar y tun).

Oedd y gegin yn drewi fel canol Dulyn ddoe de! Methu aros i botelu rwan.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Bragu Cartre

Postiogan Duw » Llun 18 Mai 2009 9:43 am

Swnio'n reit dda MrG. Bydd crynhoi'r cymysgedd yn sicr o grynhoi'r blas. Gwna'n siwr dy fod yn rhoi'r poteli mewn hambwrdd wrth eu llenwi neu bydd llanastr y diawl 'da ti ar lawr y gegin! Hefyd, os wyt yn gorfod symud y wort cyn potelu, gad hyd at ddiwrnod iddo setlo 'to.

Am y effaith gore, gallet wneud labelau d'hunan hefyd!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Bragu Cartre

Postiogan Mr Gasyth » Llun 18 Mai 2009 10:53 am

Duw a ddywedodd:Swnio'n reit dda MrG. Bydd crynhoi'r cymysgedd yn sicr o grynhoi'r blas. Gwna'n siwr dy fod yn rhoi'r poteli mewn hambwrdd wrth eu llenwi neu bydd llanastr y diawl 'da ti ar lawr y gegin! Hefyd, os wyt yn gorfod symud y wort cyn potelu, gad hyd at ddiwrnod iddo setlo 'to.

Am y effaith gore, gallet wneud labelau d'hunan hefyd!


Wnes i ryfeddu fy hun (a'r ddynes 'cw) efo cyn lleied o lanast wnes i wrth fragu ond ti'n iawn, ma potelu yn mynd i fod yn sialens arall! Gen i syphon efo clip ddyle helpu reoli'r llif.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Bragu Cartre

Postiogan Rhys » Llun 18 Mai 2009 1:07 pm

Alla i ddim cynnig unrhyw gyngor bragu ond dw i'n fwy na bodlon gwifoddoli fy ngwasanaethau blasu pan ddau 'dydd y farn'.

Oes gyda ti enw mewn golwg ar gyfer dy gwrw, neu wyt ti am aros nes ei flasu'n gyntaf?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Bragu Cartre

Postiogan Mr Gasyth » Llun 18 Mai 2009 1:37 pm

Rhys a ddywedodd:Alla i ddim cynnig unrhyw gyngor bragu ond dw i'n fwy na bodlon gwifoddoli fy ngwasanaethau blasu pan ddau 'dydd y farn'.

Oes gyda ti enw mewn golwg ar gyfer dy gwrw, neu wyt ti am aros nes ei flasu'n gyntaf?


Paid poeni Rhys, rwyt ti ar ben fy rhestr beirniaid!

Ddim yn siwr os oes gen i hawl enwi cwrw dwi wedi bragu allan o kit. Braidd fel enwi microwave meal?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron