Nos Iau, 14eg o Fai 2009:
Lansiad rhifyn 'Na' o'r cylchgrawn Tu Chwith
PALAS PRINT, Stryd y Plas, Caernarfon
gyda
GWILYM MORUS
HUW AG MEI
DJ DAZ TANDY
6.30pm
Gwydred o win am ddim!
Digwyddiad ar facebook:
http://www.facebook.com/event.php?eid=8 ... 342&ref=ts
-----
Bydd Daz Tandy yn cyflwyno perfformiadau gan Gwilym Morus, Huw Lloyd a Meilyr Tomos a darlleniadau gan gyfranwyr eraill y gyfrol.
Daeth Daz i amlygrwydd gyda ei sioe radio gerddoriaeth amgen ar Radio Ysbyty Glangwili yn y 90au (ble y daliodd MRSA). Mae'r DJ poblogaidd yma bellach wedi ymgartrefu yn Rhostrehwfa ac yn gweithio i'r label danddaearol 'Dasal'. Mae Daz hefyd yn hoffi llyfrau.
Dau frawd amryddawn o Brestatyn ydi Huw ag Mei, sy'n dipyn o sêr ar y sîn canu gwlad gyda'u caneuon poblogaidd 'Haliwr' a 'Cachwn yn y Bwlch'.
Yn gyn-aelod o'r grŵp Bwyell, mae Gwilym Morus yn adnabyddus iawn am ei gerddoriaeth roc metal ac yn ddiweddar, mae wedi cael cryn lwyddiant gyda ei albwm newydd 'Kill your Motherfuckin Pets (Then Eat Them)'.