gan Kez » Maw 26 Mai 2009 1:09 am
Rwy'n falch iawn bod Gwerddon yn dal yn fyw. Ymysg pethau eraill, y maent yn trafod ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymdeithasol a dyna fu un o'm prif bynciau yn y coleg a'r un a aeth a'm pryd yn fwy na dim byd arall heblaw am feddwi'n racs pob nos Wener, Sadwrn, Llun, Mercher, Iau ac ambell i brynhawn Sul er fy ngwaethaf. Rhaid eu llongyfarch nhw am roi pob parch i'r pwnc - sylwedd a dwyster.
Rwyf yn siwr bod yr un peth yn wir am bynciau eraill yn Gwerddon nag oes gen i gymaint o ddiddordeb ynddynt a finnau'n bell iawn o allu rhoi barn arnynt.
Hir y parhaed y gwaith da.