Melyn?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Melyn?

Postiogan Ffrinj » Sul 24 Mai 2009 10:02 pm

Dywedodd fy athro Cymraeg i rhywdro bod 'melyn' yn cael ei ddefnyddio i ddynodi tristwch.
Ymddiheuriade am y cwestiwn dwl, ond ym mha fath o gyd-destun fedrwch chi ddefnyddio hyn, felly?
Dwi 'rioed di dod ar draws unrhyw esiampl o hyn, dyna 'gyd.
Twitter
Adfywio Iaith Cumbria (Angen Cymry Cymraeg!)
Ffrinj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Mer 18 Gor 2007 12:45 pm
Lleoliad: Drenewydd/Bangor

Re: Melyn?

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 24 Mai 2009 11:57 pm

Mae 'y felan' yn cael ei ddefnyddio yn yr un ffordd â 'the blues'.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Melyn?

Postiogan Ffrinj » Llun 25 Mai 2009 12:19 am

Oes gan 'felan' unrhywbeth i neud efo 'melyn' ta?
Neu ydyn nhw ond yn swnio'n debyg?
Ew dwi'n teimlo'n reit thick wan.
Twitter
Adfywio Iaith Cumbria (Angen Cymry Cymraeg!)
Ffrinj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Mer 18 Gor 2007 12:45 pm
Lleoliad: Drenewydd/Bangor

Re: Melyn?

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 25 Mai 2009 12:24 am

Oes - ma'n golygu 'the yellow one' mewn ffor. Ma'n troi o fod yn ansoddair i fod yn enw os ti'n rhoid y fannod ('Y felan') i mewn, ac am fod gofid y blues wastad yn fenywaidd mae'n troi i fod yn 'felen/an'. Fel merlyn -> merlen/an.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Melyn?

Postiogan Ffrinj » Llun 25 Mai 2009 12:33 am

Aaaa reit, dwi'n dallt wan!
O'n i'n meddwl mai amrywiad ar y gair 'melancholy' oedd hi.
Diddorol :) diolch yn fawr!
Twitter
Adfywio Iaith Cumbria (Angen Cymry Cymraeg!)
Ffrinj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Mer 18 Gor 2007 12:45 pm
Lleoliad: Drenewydd/Bangor

Re: Melyn?

Postiogan sian » Llun 25 Mai 2009 7:53 am

Yn ôl GPC, mae "melyn" yn gallu golygu "o liw melyn gwrthun (yn enwedig am angau wedi'i bersonoli), marwol, anghymodlon, annymunol"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron