Plis, Plis, Plis helpwch fi!!!!

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Plis, Plis, Plis helpwch fi!!!!

Postiogan Dona_501 » Maw 02 Meh 2009 8:13 pm

Shwt mae pawb?

Dwi'n newydd i'r fforwm - so helo pawb!

Dwi wedi cael i codi lan i siarad Cymraeg- ond (a fi'n gwybod bod hyn yn swnio'n wael) ma gas gyda fi i ysgrifennu yn Gymraeg :wps: ! A mae gas gweld treigladau a syllafi fi .. i chi bown a fod wedi gweld sawl camgymeriad yn barod! Ond hey ho.. efallai un dydd..... hmmm...

Anyway, o'n in meddwl os fyddai un dryw un yn fodlon helpu fi mas wrth edrych drosto'r bwydlen isod. Dwi'n priodi yn mis Awst, a fi'n ganol geirio bwydlen plant sy'n mynd i fynd mewn gyda'r gwahoddiadau (dwi wedi neud yr un Oedolion yn barod). Dyma beth i fi wedi rhoi lawr:

Bwydlen a’r gyfer plant

Prif Gyrsiau
Pryd bychan o’r prif gyrsiau
Nuggets Cyw Iâr / Fish Fingers / Selsig gyda dewis o sglodion neu thatws stwnsh a baked beans neu pys.

Pwdinau
Pryd bychan o’r prif bwdinau
Hufen Ia Fanila gyda Jeli Mefus

Odi'r treigladau yn iawn? Oes yna cyfieithiad am 'Fish Fingers' a 'Nuggets' yn Cymraeg? Ac odi 'Pryd bychan o’r prif gyrsiau' yn swnio'n iawn? Neu allwch chi awgrymu sut ddylen i geirio'r bwydlen?

Fydden i'n ofnadwy o ddiolchgar am un dryw cymorth :D !

Diolch yn fawr iawn, iawn, iawn.

D xx
Dona_501
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 02 Meh 2009 7:16 pm

Re: Plis, Plis, Plis helpwch fi!!!!

Postiogan ceribethlem » Maw 02 Meh 2009 8:36 pm

Fi wedi clywed bysedd pysgod am fish fingers. Dim syniad gyda fi os yw'n gywir.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Plis, Plis, Plis helpwch fi!!!!

Postiogan Ray Diota » Maw 02 Meh 2009 8:39 pm

ceribethlem a ddywedodd:Fi wedi clywed bysedd pysgod am fish fingers. Dim syniad gyda fi os yw'n gywir.


a cofia mai ffa pob yw baked beans! whare teg i ti, bwydlenni yw un o'r pethe anodda i gyfieithu... sbigoglys, anyone?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Plis, Plis, Plis helpwch fi!!!!

Postiogan sian » Maw 02 Meh 2009 9:03 pm

Ray Diota a ddywedodd:whare teg i ti, bwydlenni yw un o'r pethe anodda i gyfieithu... sbigoglys, anyone?


Ti'n iawn fan'na - yn enwedig rhai swanc. Mae'r holl eiriau Ffrangeg yn edrych yn iawn yn Saesneg ond yn bach mas o le yn Gymraeg.

Beth bynnag - beth am rywbeth fel hyn? :

Dona_501 a ddywedodd:Bwydlen ar gyfer plant
Prif Gyrsiau
Platiaid bychan o’r prif gyrsiau

Galli di ddewis gyda'r prif gyrsiau -
Nuggets Cyw Iâr / Fish Fingers / Sosej gyda dewis o sglodion neu datws stwnsh a baked beans neu bys.
neu
Nygets Cyw Iâr / Bysedd Pysgod / Selsig gyda dewis o sglodion neu datws stwnsh a ffa pob neu bys.

Pwdinau
Dysglaid fach o’r prif bwdinau
Hufen Fanila gyda Jeli Mefus
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Plis, Plis, Plis helpwch fi!!!!

Postiogan Dona_501 » Maw 02 Meh 2009 9:06 pm

Ray Diota a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Fi wedi clywed bysedd pysgod am fish fingers. Dim syniad gyda fi os yw'n gywir.


a cofia mai ffa pob yw baked beans! whare teg i ti, bwydlenni yw un o'r pethe anodda i gyfieithu... sbigoglys, anyone?


Ti'n dweud wrtha i! Absolute nightmare... :rolio:

Diolch am dy help xx
Dona_501
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 02 Meh 2009 7:16 pm

Re: Plis, Plis, Plis helpwch fi!!!!

Postiogan Dona_501 » Maw 02 Meh 2009 9:25 pm

sian a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:whare teg i ti, bwydlenni yw un o'r pethe anodda i gyfieithu... sbigoglys, anyone?


Ti'n iawn fan'na - yn enwedig rhai swanc. Mae'r holl eiriau Ffrangeg yn edrych yn iawn yn Saesneg ond yn bach mas o le yn Gymraeg.

Beth bynnag - beth am rywbeth fel hyn? :

Dona_501 a ddywedodd:Bwydlen ar gyfer plant
Prif Gyrsiau
Platiaid bychan o’r prif gyrsiau

Galli di ddewis gyda'r prif gyrsiau -
Nuggets Cyw Iâr / Fish Fingers / Sosej gyda dewis o sglodion neu datws stwnsh a baked beans neu bys.
neu
Nygets Cyw Iâr / Bysedd Pysgod / Selsig gyda dewis o sglodion neu datws stwnsh a ffa pob neu bys.

Pwdinau
Dysglaid fach o’r prif bwdinau
Hufen Fanila gyda Jeli Mefus


Oh god Sian, ti'n absolute life savour! Diolch yn fawr iawn, IAWN i ti am dy help xx :)

Trueni nes i ddim dod ar draws y fforwm hyn cyn nawr! Bydd rhaid i fi ddod arno hwn yn fwy aml i gwella fy'n Gymraeg i... ond ma rhaid i fi cyfaddaf, o'n in disgwyl gweld rhewyn yn dweud bod gas gweld e!!! So fi'n eithaf chuffed gyda fy'n hunan! haha!

Diolch yn fawr i chi gyd xx
Dona_501
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 02 Meh 2009 7:16 pm

Re: Plis, Plis, Plis helpwch fi!!!!

Postiogan sian » Maw 02 Meh 2009 10:09 pm

Hwyl i ti gyda'r trefniadau 'te. Lot o bethe i neud?

Wrth edrych ar dy negeseuon di, mae'n edrych fel bo ti'n dod o'r de - falle se ti'n gallu gweud "Nygets ffowlyn" yn lle "Nygets cyw iâr"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron