Duw a ddywedodd:Dwi wedi cal llwyth o 'run-ins' gyda blincin Vista. Bydd yn ofalus gyda'r registry (wrth ddefnyddio regedit). Gwna backup yn gynta/restore point.
Wedi neud restore point yn barod, cyn dilyn y cyfarwyddiadau uchod. Hyd yma mae i'w weld yn gweithio heb ffys.
Duw a ddywedodd:Wyt ti'n rhedeg mwy nag un cyfrifiadur o'r un cysylltiad? Ces i sawl problem wrth rhedeg di-wifren a gwifren trwy un router (IP conflicts). Un peth da am Vista, dyle cynnig creu IP address arall.
Cluniadur (Vista) lawr llawr, wedyn cyfrifiadur mawr (XP) lan llofft. Heb gael problem rhedeg y ddau drwy'r un router hyd yma (er bod fi heb drial neud y ddau yr un pryd lot).
Un problem diddorol sydd wedi dod yn sgil hyn yw bod problem ymweld a maes-e nawr! Fi'n gweld y hafa, ac yn gallu mynd mewn i'r holl adrannau, ac yn agor edefyn, wedyn dim. Methu darllen cyfraniadau neb! Dim problem yn yr ysgol.