Be da chi'n ei ddarllan.....

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 02 Hyd 2008 3:14 pm

Oracle Night gan Paul Auster.

Igam Ogam sydd nesa!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 02 Hyd 2008 3:17 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Igam Ogam sydd nesa!



Fyddi di'n darllen Igam Ogam o fewn deuddydd os nad llai - mae'n anodd iawn i roi i lawr!

Dwi'n darllen 'O Ran' Mererid Hopwood ar y funud - dwi'n eithaf mwynhau ei ddarllen ond am ryw reswm bob tro dwi'n stopio dwi'n ei chael yn anodd iawn ail-ddechrau
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Hazel » Iau 02 Hyd 2008 5:11 pm

"This Valley Was Ours" gan Eileen M Webb. Os oeddech chi, neu unrhywun a ydych yn adnabod, yn byw yn neu yn agos i Nant Gwertheyrn yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, efallai fyddwch chi'n mwynhau'r llyfr yma achos fod yr awdur yn enwi pobol wir. Mae'r awdur yn disgrifio bywyd yn Nant Gwertheyrn yn ystod y 1930's eithaf yn fyw - eu bwydydd, eu moddion, eu gwaith yn y chwareli, a.y.y.b. Serch hynny, i fi, yr enwau ydy'r ran orau. Efallai fyddech chi'n adnabod rhyw ohonyn. Mae llawer o lluniau gan gynnwys y myfyrwyr o 1933 a 1938 gyda â'w enwau. Mae'r rhain yn y pobl olaf a oedd yn byw yn Nant Gwertheyrn. Mae'n hanes prydferth a thrist ar yr un pryd.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Prysor » Mer 03 Rhag 2008 12:50 pm

Creyr y Nos a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:'Borstal Boy' - Brendan Behan



Nes i fwynhau hwn yn fawr iawn. Be ti'n feddwl ohono?


hollol wirioneddol wefreiddiol wych

darluniau byw, cofiadwy, teimladwy, digri, dwys, hanesyddol difyr difyr i gyd wedi ei sgwennu mewn 'Dyblinish' ar ffurf trail of thought ac yn llawn llawn llawn hiwmor arbennig Behan a'r ddinas a greodd ei gymeriad unigryw. Mae cymeriad Behan yn dod drwyddo mor gry ynddo yndydi? Sgwennu arbennig iawn. A'r grefft o ddeud stori ddifyr ond difrifol mewn ffordd sy'n dy wneud i chwerthin allan yn uchel o bryd i bryd. Gwych iawn. Bechod fod y boi di marw cyn ei amser, dim ond newydd gael y gydnabyddiaeth oedd o'n haeddu. Yr hen warriar. Parch.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Creyr y Nos » Sad 27 Rhag 2008 2:08 pm

Yndi mae o'n lyfr gwych, agos-atoch iawn. Does dim rhyw lawer yn digwydd o ran plot, ond do'n i dal methu peidio darllen. Y darluniadau a'r cymeriadu yn glyfar iawn.

"I say, greb him the bestud!"
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Creyr y Nos » Llun 29 Rhag 2008 2:09 pm

Wedi treulio'r Nadolig yn darllen Crawia, biwt o nofel, llongyfarchiade Prysor! Y diwedd yn wych!

Nawr hanner ffordd trwy Petrograd gan Wil Garn, ac yn mwynhau hwn yn fawr hefyd.

Joio mas draw o ran nofele dyddie ma.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Duw » Mer 31 Rhag 2008 10:55 am

Endymion Omnibus gan Dan Simmons. Wedi darllen y llyfrau Hyperion. Iawn dros nadolig.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan ElinorSian82 » Mer 31 Rhag 2008 11:08 am

[quote="Creyr y Nos"]Wedi treulio'r Nadolig yn darllen Crawia, biwt o nofel, llongyfarchiade Prysor! Y diwedd yn wych!

ie man brill. angen llyfr arall nawr! methu aros! x
ElinorSian82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Maw 04 Hyd 2005 9:45 am

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Prysor » Mer 31 Rhag 2008 12:23 pm

Diolch Creyr ac Elinor. Falch fo chi di mwynhau Crawia. :D

Dw i wedi darllen "Freedom Fighters: Wales' Forgotten War 1963 - 1993" yn ddiweddar. Llyfr digon difyr, ond wedi ei sgwennu gan newyddiadurwr, mewn dull newyddiadurwr, wedi ei seilio ar nodiadau newyddiadurol ac adroddiadau papur newydd yn ystod gyrfa'r awdur. Mae 'na wendidau yn hynny, sef fod bron ddim ymchwil newydd wedi ei wneud, ei fod yn dibynnu ar wybodaeth ail-law, ac yn llawn camgymeriadau bychain dioglyd arferol newyddiadurwyr a phapurau newydd (e.e. er i'r awdur dyrchu - yn ofer ar adegau - trwy gofnodion gwladwriaethol o dan y Ddeddf Rhyddhau Gwybodaeth ac ati, mae 90% o'r gwybodaeth a'r cyfeirnodau yn y llyfr yn dod o dudalennau'r Western Mail, y papur oedd yr awdur yn gweithio iddo).

Gallaf ddweud, fel un o'r bobol y sonnir amdano yn un pennod o'r llyfr, fod sawl gwall yn y gohebiaeth yn deillio o adroddiadau'r cyfnod - pethau bach fel oed a galwedigaeth ac ati, a phethau mwy arwyddocaol, hefyd, fel methu nodi'r ffaith ei bod hi'n 7 wythnos ar ôl arestio Sion Aubrey Roberts a David Gareth Davies arna fi'n cael fy arestio). Ac mae anwybodaeth yr awdur o hanes canoloesol a hanes modern cynnar, a hwyrach, Cymru yr un mor dila ag oedd ei ddealltwriaeth o'r Gymry Gymraeg pan oeddwn yn aelod o'r un blaid ag o ar droad y ganrif hon. Nid Owain Tudur o Fôn oedd tad Harri'r VIII (mewn difri calon)!

Hefyd, oherwydd fod y llyfr wedi ei sgwennu o nodiadau ac adroddiadau'r awdur a'r papur newydd ar y pryd, mae 'na chydig flynyddoedd ar goll, lle mae'r awdur yn gweithio ym Mrwsel. Nid yn unig mae hyn yn gadael bwlch enfawr yn y stori, ond mae'r awdur yn mynd i ffwrdd ar danjent am bennod cyfan, yn disgrifio ei amser yn newyddiadura ym Mrwsel, yna'n dychwelyd i flynyddoedd diweddara ymgyrch Meibion Glyndwr, flynyddoedd yn ddiweddarach!

Nid oes yma ddamcaniaethu manwl am y gwahanol 'phases' o ymgyrch MG. Nid oes unrhyw grybwyll, heb son am drafod, damcaniaeth yr heddlu a'r gwasanaethau cudd fod tri gwahanol 'cenhedlaeth' wedi cymeryd yr awennau. Cyn belled â bod yr ymgyrch losgi yn y cwestiwn, mae llyfr Alwyn Gruffydd "Mae Rhywun yn Gwybod" - er yn methu datgelu unrhyw beth - yn hanes llawer mwy cynhwysfawr na'r hyn a geir yma.

Serch hyn, ceir ymdrech - er digon denau ac heb fawr ymchwil newydd - i drafod anghyfiawnder cyrch Operation Tân, Sul y Blodau 1980.

Un o'r pethau sy'n achub y llyfr, fodd bynnag, a hwnnw ydi'r unig elfen o'r llyfr sydd yn seiliedig ar 'ymchwil' newydd - er mai cwpwl o sgyrsiau anffurfiol efo John Jenkins, Llywydd Gweithredoedd MAC, dros y blynyddoedd ydi'r 'ymchwil' hynny. Datgela JJ enwau unigolion eraill o du'r mudiad gweriniaethol ar gyrion Plaid Cymru, a chwaraeodd ran gweithredol yn ymgyrch fomio MAC. Datgelir yr enwau (trwy ganiatad y teuluoedd, dwi'n cymeryd), am eu bod bellach wedi marw. Bydd rhai o'r enwau hyn yn rhai amlwg i nifer o haneswyr gwleidyddiaeth ail hanner yr 20ed ganrif yng Nghymru, eraill ddim, ac eraill yn ddynion llawr gwlad oedd y werin yn gwybod amdanynt eisoes. Mae yma hefyd enwau un neu ddau o 'weithredwyr' llawr gwlad a drodd yn infformars ar ôl cael eu harestio efo ffrwydron yn eu meddiant.

Er mai ychydig iawn sydd, difyr yw'r ychydig hynny o oleuni a deflir gan y Direstor of Operations John Jenks ei hun ar ddigwyddiadau adnabyddus - a'r trychinebus, yn achos Merthyron Abergele - yn ystod yr ymgyrch. Ond fel y gellir disgwyl oherwydd natur y pwnc, gadewir y darllenydd yn awchu am fwy, ac nid bai yr awdur yw hynny.

Be ydi bwriad, neu gasgliad yr awdur? Wel, heblaw am geisio cofnodi'r ymgyrchoedd bomio mewn dull mwy gwrthrychol na "To Dream of Freedom" Roy Clews, mae'r awdur yn ceisio dangos fod cysylltiad cyson - continuity - rhwng MAC ac MG: mai'r un bobol oedd yn aildanio'r frwydr ar ddechrau ymgyrchoedd newydd. Does gan yr awdur ddim tystiolaeth o gwbl am hyn, fodd bynnag, heblaw ei fod yn damcaniaethu trwy ddarllen 'rhwng llinellau' ei sgyrsiau anghynnwysfawr efo John Jenkins.

Be sy'n dod allan yn gliriach gan yr awdur, ydi ei gasgliad fod yr ymgyrchoedd treisgar wedi hybu - nid tanseilio - achos y mudiad cenedlaethol ehangach yng Nghymru, ac wedi hybu - nid tanseilio - achos cyfansoddiadol a diwylliannol ein cenedl. Yn hynny o beth, alla i ddim cytuno mwy. Er nad oes fawr ddim mwy o wybodaeth cyhoeddus yn y llyfr na sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus, mae'r awdur digon didwyll hwn yn defnyddio'r hyn sy'n wybodus yn effeithiol iawn wrth ddod i'r casgliad hyn, ac yn gosod y ddadl yn gyson drwy'r tudalennau, wrth ddod i gasgliad pendant, trylwyr, arbenigol ac argyhoeddiadol iawn - a hynny am y tro cyntaf yn llenyddiaeth Gymreig.

Ac o ran hynny, dyma un maes efallai, lle mae golwg newyddiadurol yn fwy gwerthfawr nag un ysgolhaig.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan ElinorSian82 » Mer 31 Rhag 2008 6:11 pm

Wedi darllen "y dyn handi". Am llyfr llawn o gach. Does actually dim byd yn digwydd ynddo. Sori i bwy bynnag sy'n licio fo. Doedd dim iws gwastraffu coeden yn ei gynhyrchu. Crawia all the way. Falle v bach rhy obssesed da'r llyfr ma!! x
ElinorSian82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Maw 04 Hyd 2005 9:45 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron