Yn cymryd mai darn o ryddiaith (h.y. gwaith creadigol) y byddwch chi'n gorfod ei gyfieithu yn rhan o Lefel A, neu a oes yna fodiwl cyfieithu cyfoes gennych chi erbyn hyn?
Mae'n yrfa sy'n tyfu mor gyflym fel swn i ddim yn synnu petai ysgolion yn cynnig elfen o gyfieithu busnes yn rhan o'u cyrsie Cymraeg.
Beth bynnag, fel wedodd y lleill, os mai darn creadigol fyddi di'n neud (e.e. erthygl, ysgrif, darn o nofel neu stori fer, barddoniaeth...), trosi'r ystyr sy' isie i ti. Darllena'r darn, yna darllena fe 'to, myfyria ryw chydig ar naws ac arddull y darn, gofyn a yw'n y person cynta', yn y presennol neu'r gorffennol neu'r dyfodol, a yw'r arddull yn ffurfiol (felly Cymraeg ffurfiol, nid llafar) neu anffurfiol (paid mynd â hyn yn rhy bell; chwaraea'n saff a phaid ag arbrofi gormod ag acenion a iaith lafar, rhag ofn), beth yw cyd-destun y darn (e.e. iaith hen ffasiwn? cyfeiriadaeth hanesyddol?)...
OND, os mai darn busnes, swyddogol, cofnodion, mi ddylech chi gael geiriadur, achos ma na gymaint o derminoleg newydd yn y byd gwleidyddol/llywodraeth leol/awdurdodau cyhoeddus ayb fel nad yw'n deg disgwyl i chi eu gwybod nhw heb help geiriadur Bruce, neu lyfre terminoleg Canolfan Bedwyr ym Mangor.
Os da chi'n neud e ar gompiwtyr, gallwch chi dwyllo a mynd i wefan sgwrsio welsh-termau-cymraeg.co.uk sy'n wych - a chwilota am air penodol fan'ny. Mae Bruce ei hun yn un o'r cyfranwyr (!) ynghyd â nifer o arbenigwyr iaith erill.
Pob lwc - dim ond cofia ddeall y darn a'r hyn y mae pob brawddeg yn ei olygu cyn dechrau cyfieithu. Mae'n hawdd wedyn.