Yn y prosbectws Prifysgol Caerdydd Saesneg, mae ffurflen bach ble mae pobl yn gallu ei lenwi ac yn gofyn am amrywiaith mawr o bethe arall gan Caerdydd.
Felly, mis yn ol, fe nes i ofyn am ddau bethe-
1- Prosbectws Prifysgol Caerdydd yn Gymraeg,
2- Taflen Ysgol Gwyddoniaeth Biologol (yn Saesneg)
Dwy wythnos yn ol, derbynais i rwybeth trwy'r post o Gaerdydd, ond dim ond prosbectus Saesneg arall oedd e!!
Felly, nes i lenwi'r ffurflen arall, yn gofyn am yr un dau bethe.
Heddi, derbynais i rywbeth arall o Gaerdydd - brosbectus arall Saesneg, a taflen Ysgol y Gymraeg! Ond dim prosbectws Cymraeg, neu taflen Gwyddoniaeth Biologol- dim beth mod i wedi gofyn am!!
Sut gallen nhw cymysgu gymaint!!
Felly, bydd rhaid i fi lenwi ffurflen yn gofyn amdanan nhw, am y drydedd dro!