Mae angen Arweinydd egnîol sydd â chymhwyster Lefel 3 mewn Gofal ac Addysg Plant, i arwain Cylch Meithrin newydd Dechrau’n Deg Niwbwrch, ynghyd a Chynorthwyydd Meithrin sydd a lefel 2 (yn ddymunol).
Bydd y cylch yma yn ddarpariaeth newydd ar gyfer Dechrau’n Deg yn ardal Niwbwrch, Ynys Môn a agorir ym Medi 2009 ar gyfer plant 2 oed.
Arweinydd: £8.50 yr awr, Cynorthwyydd: £6.50 yr awr
Byddwch yn gweithio 15awr yr wythnos. Bydd y cylch ar agor 43 wythnos o’r flwyddyn.
Mae angen i’r staff fod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.
Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf 2009
Am fanylion llawn edrychwch ar http://www.mym.co.uk – swyddi gwag neu ffoniwch 01970 639639