Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan dafydd » Gwe 19 Meh 2009 1:27 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Y pethau bach fel hyn sy'n gwylltio fi

Mae rheina wedi trwsio nawr, ond pam ddylai y ddylai darllenwyr wneud y gwaith is-olygu yn hytrach na Golwg eu hunain? Yn bersonol dwi'n meddwl nad oes ganddyn nhw ddigon o staff i wneud job deche ohoni. Mewn sefyllfa fel yna (a heb ofyn am fwy o arian) mi fydde chi'n disgwyl iddyn nhw dorri lawr ar y gwaith a chanolbwyntio ar y meysydd pwysica (oes wir pwynt i'r erthyglau 'rhyngwladol' sy'n cael eu cyfieithu o PA neu Reuters?). Os nad ydyn nhw'n gwneud rhywbeth yn gloi mi fyddan nhw'n fwy o destun jôc na mae nhw yn barod. Roedd y Grauniad yn cael beirniadaeth am gamsillafu ond o leia mae'r cynnwys yn werth ei ddarllen!
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Kez » Gwe 19 Meh 2009 1:48 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Y pethau bach fel hyn sy'n gwylltio fi :ing:


Hei Hogyn, be’ nath iti wylltio yn yr erthygl ‘na?

Ife bod Davies Davies yn hawlio arian off cwmni halwyr Burrow Heath odd hi? Winna'n’n lico ‘na, cofia – co ti’r teip o ddwli plentynnaidd sy’n apelio ato i a diolch i Golwg360 am godi gwên heddi.

Fi’n cofio gweld episôd o Friends unwith ac ath Joey a Rachel i weld Ross yn darlithio ar baleontoleg. Dyma Ross yn dychra sôn am homo erectus a Joey a Rachel yn dychra snigran. Mae Joey wedyn yn edrych ar Rachel wrth ei ochor e a gofyn:

Homo sy’n neud iti wythrin ontefe? – a hitha’n atab:

‘Na – erectus! - a’r ddou o’ nhw’n dychra pisho wyrthin ‘to.’

Dal ati Golwg360 – fi’n dychra twymo tshag ato ti :winc:

(Gobitho taw hwnna ti'n cyfeirio ato fe Hogyn, ne' fel arall fi jwst yn dangos pwy mor blentynnaidd a ffol odwi :wps: )
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 19 Meh 2009 2:14 pm

Mi wnes wenu'n slei i fi'n hun am y cwmni halwyr :) . Dwi'n cofio'n coleg mewn darlith chwerthin ar ddarlithydd yn uchel wrth iddo grybwyll swydd o'r enw'r haliwr ceffylau.

Er mae'n dweud lot bod 'na stori am David Davies yn camddefnyddio'r system treuliau a dwi'n gwylltio ar iaith yr erthygl :?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Ray Diota » Gwe 19 Meh 2009 2:33 pm

dafydd a ddywedodd: (oes wir pwynt i'r erthyglau 'rhyngwladol' sy'n cael eu cyfieithu o PA neu Reuters?).


oes yn fy marn i... fel sy wedi cael ei grybwyll yn barod nath gwefan y beeb symud i ffwrdd o'r straeon 'ma ar ol gweld mae'r straeon cymreig a chymraeg oedd yn cal y nifer fwyaf o hits - ond dyw hynna ddim yn golygu nad oes angen y straeon 'ma. Dwi'n bersonol yn gweld adrannau prydeinig a rhyngwladol yn llenwi gap mawr o ran cael fy newyddion yn Gymraeg.

Dwi'n meddwl bod hi'n deg rhoi cyfnod 'mis mel' iddyn nhw cyn dechre diawlio'u dewisiade golygyddol - dwi'n deall taw tim o 4 newyddiadurwr yden nhw a gymrith hi sbel iddyn nhw ddeall shwt ma gweithio'n effeithiol, ma'n shwr. Dwi'n bersonol yn gobitho na fyddan nhw'n dewis hepgor y stwff rhyngwladol...

Dwi fel ton gron ond ma'r adran 'sylwadau' yn bathetig. O ran prinder cynnwys ac o ran arddull. Lle ma'r dadansoddi, lle ma'r farn arbenigol, lle ma'r colofnau ysgafn? Ar hyn o bryd, ma mwy o stwff 'creadigol' Cymraeg yn Y Tir, papur Undeb Amaethwyr Cymru, na sy ar y wefan 'ma.

Fydden i stret ar y ffon i bobl diddorol, blaenllaw a llai blaenllaw, yn gofyn am golofne misol ne rwbeth felly - beth am gal colofn wythnosol dan un gwleidydd o bob plaid - fydde rheiny'n neud e am ddim er mwyn y cyhoeddusrwydd fysen ni'n meddwl. Beth am golofn o'r Cynulliad - y manylion bach nad yden i am gal gwbod...

O ychwanegu at y cynnwys, ddefnyddia'i chwareon fel enghraifft, be ma rhywun fel John Hartson, yn meddwl am y ffaith bod Martinez wedi gadel Abertawe - un galwad ffon ne ddwy? Pam ddim trio cal gafel ar Owain Tudur Jones i ofyn a yw e'n siomedig i orfod gadel Abertawe? Pam bod e di gadel? Fydde galwad ffon 10 munud yn gneud y stori dipyn blasusach na un y bbc...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Gwe 19 Meh 2009 4:54 pm

Dwi'n cytuno efo Ray. Rhan angenrheidiol o greu milieu Gymraeg i ysgogi a chynnal pobol wrth ddefnyddio'r iaith yw cael bob math o bethau yn Gymraeg - os ydi hynny'n golygu cyfieithu stwff i ddechrau, yna dyna sydd raid wneud. Heb hynny, mae'r iaith yn crebachu ond i'w defnyddio wrth drafod pethau Cymreig, sydd braidd yn boring.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Kez » Gwe 19 Meh 2009 5:21 pm

Ategaf fy llais at eiriau Ray a Dafydd. Imi - cael newyddion rhyngwladol trwy lygad y Cymro oedd un o'r prif resymau ifi gefnogi sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Cheson ni mo'r papur - ond rwyf yn gobeithio y bydd Golwg360, ryw ben rhyw ddydd, yn rhoi parchus sylw i newyddion rhyngwladol a gwireddu amcanion Y Byd trwy beidio ag anwybyddu'r byd y tu fas i Gymru fel y buasai ambell un yn hoffi. Wedi'r cwbwl, nid atodiad neu hysbyseb i'r cylchgrawn Golwg yw'r wefan 'ma i fod - ne' falla bo fi wedi camddeall :?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Duw » Gwe 19 Meh 2009 8:36 pm

Cytuno - rhaid cael eitemau rhyngwladol. Mae'r byd yn lle bach iawn. Diddorol yw gweld yr hyn mae myfyrwyr ysgol yn edrych arnynt - nid 'mae Mr. Jones Pwllheli wedi codi ffens newydd'.

Ger llaw, beth yw haliwr? Ydyw e'n rwd?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Kez » Sad 20 Meh 2009 12:26 am

Duw a ddywedodd: Ger llaw, beth yw haliwr? Ydyw e'n rwd?


Fel w inna'n ei diall hi, odd halio yn golygu symud, hwpo ne dynnu'r ceffyl ne'r poni mlan o dan ddaear yn y pylla glo ers getyn fel bo nhw'n tynnu'r tryc llawn glo. Mae ceffyl yn gallu bod yn anifail stwbwrn, felly dou gam ymlan yw hi ac un cam yn ol.

Winna'n siwr taw plant Rhydfelen ddechreuws iwso'r gair 'ma i olygu cal wanc wrth feddwl am yr hen lowyr yn pwsho, wpo, sgwto a thynnu'r ceffyl. Gwelson nhw'r ceffyl fel adlewyrchiad o'r wili ne'r biji- bo a diall bo rhaid tynnu hwnna er mwyn dod hefyd 'twel - ac odd' wrth hwnna, dath yr ystyr 'slang' sydd i halio nawr

Sdim syndod bod cymaint o bobol artistig wedi cal eu haddysg yn yr ysgol honno, oes e?

Wrth reswm, odd haliwr 'sgetyn yn golygu'r person odd yn stryffaglu gida'r blydi ceffyl yn y pylla glo, ond erbyn hyn ma' haliwr yn golygu wancar yn unol am y rhesymau a nodais uchod.

Gobitho bod hwnna'n atab dy gwestiwn di Duw - a phaid a bod yn shei os ti'm yn diall ystyr gira erill. Fi'n diall popith fi yn - ac ifi wastod yn folon helpu pobol o Frynaman :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Ray Diota » Sad 20 Meh 2009 6:04 pm

jyst y gair 'criced' ydwi'n gallu gweld heddi :rolio:

http://www.golwg360.com/UI/Users/HomeView.aspx

ffaaaacin heeeel. gwarth.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan eusebio » Sad 20 Meh 2009 11:07 pm

yep, a fi :(
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron