Prysor a ddywedodd:
mae'r awdur yn mynd i ffwrdd ar danjent am bennod cyfan, yn disgrifio ei amser yn newyddiadura ym Mrwsel, yna'n dychwelyd i flynyddoedd diweddara ymgyrch Meibion Glyndwr, flynyddoedd yn ddiweddarach!
cytuno. od iawn i'r awdur son am fynd i Beriw hefyd a chrybwyll cytundeb i ddod a Rhyfel Y Malfinas i ben cyn bomio'r Belgrano - dim oll i'w wneud efo'r 'Rhyfel' yng Nghymru.
ond gesh i flas garw ar weddill y llyfr - diddorol cael cadarnhad o agwedd ddihid y Western Mail at achos cenedlaetholwyr, a hefyd fod Harold Wilson wedi ystyried gohirio'r Coroni oherwydd bygythiad MAC. (ella fod rhein yn betha amlwg iawn i bobol sy'n dalld y dalldings - ond newydd i fi. Profi ella fod angan mwy o lyfra ar y pwnc hynod hynod ddiddorol yma?
o ni'n gael o'n rhyfadd fod yr awdur yn cyfeirio at Feibion Glyndwr fel MAC3 - swnio rhy debyg i'r rasal ella, ond Meibion Glyndwr ydi Meibion Glyndwr ia ddim, nid MAC?
o ni'n gael o'n fwy darllenadwy na llyfr Alwyn Gruffudd - oedd yn darllen fwy fel cofnod tan y darn aresdio Bryn Fon, lle ma drama yn dod iddi.