Mae angen i chi glirio'ch cwcis, fechgyn.
Wedyn gewch chi weld stori am lofruddiaeth merch pedwar oed.
Cymedrolwr: gronw
eusebio a ddywedodd:Ia, dwi'n gwybod sut mae clirio cwcis, dwi just ddim yn deall pam bod rhaid i mi glirio fy cwcis
(ond wedi gadael "Saethu dafad gyda dryll taser").
sian a ddywedodd:Saethu dafad â dryll wyt ti mewn iaith safonol.
Mae " 'da" yn cael ei ddefnyddio mewn rhai tafodieithoedd - fel "hefo".
"gyda"= "yng nghwmni" neu gyfleu agwedd neu ymateb e.e. "gyda phleser"
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dyma fi'n gweld heddiw, a gwnes i ddileu y briwsion ddoe!
Pam nad yw Golwg360 wedi medru datrys hyn ar ol rhyw 5 wythnos? Meddyliwch am y miloedd o Gymry Cymraeg sydd ddim yn deall beth yw briwsion/cookies (ac sydd ddim yn aelodau maes-e!), ac sydd wedi gweld sgrin wen yn unig o'r dechre. A fydd y rhain yn dychwelyd? Anhebygol iawn. Mae'n dechre troi yn ffars.
Dyle nhw wedi tynnu'r wefan yn syth ar ol gweld y shambls, a gwario cwpwl o filoedd i gael gwefan deche wedi ei adeiladu, ac ail-lansio. Does dim pwynt gwario ar y wefan sydd yno ar hyn o bryd, byddai'n wastraff arian. Haws dechre o'r dechre...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai