Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Sul 21 Meh 2009 7:44 am

Mae angen i chi glirio'ch cwcis, fechgyn.

Wedyn gewch chi weld stori am lofruddiaeth merch pedwar oed. :ing: :ing: :ing:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Duw » Sul 21 Meh 2009 10:26 am

Mae clirio cwcis yn peth ofnadwy i safle ddisgwyl o'i ddefnyddwyr. Er, mewn y rhan fwyaf o borwyr mae modd bwyta cwcis safleodd unigol.

Google Chrome: Sbaner > Options > Under the hood > BOTWM Show cookies > Search: 'golwg' > Dewis y cwcis ac yna 'Remove'

Firefox: Offer > Dewisiadau > TAB Preifatrwydd > BOTWM Dangos cwcis > Chwilio: 'golwg' > Dewis y cwcis ac yna 'Tynnu Cwci'

IE7: Tools > Internet Options > TAB General > BOTWM Settings (o dan adran Browsing History) > BOTWM View Files > Chwilio 'golwg' > Dewis yr eitemau â 'cookie:' o'u blaen.

Opera: Tools > Advanced > Cookies > Search: 'golwg' > Dewis y cwcis > Delete.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan eusebio » Llun 22 Meh 2009 1:16 pm

Ia, dwi'n gwybod sut mae clirio cwcis, dwi just ddim yn deall pam bod rhaid i mi glirio fy cwcis
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Llun 22 Meh 2009 9:44 pm

Hwre! Mae rhywun wedi cywiro'r pennawd "Plentyn tair oed o Geredigion gyda ffliw moch" i "Plentyn tair oed o Geredigion yn diodde' o ffliw moch" (ond wedi gadael "Saethu dafad gyda dryll taser"). :?

Dw i'n meddwl bod Golwg360'n bach yn rhy ffond o gollnodau hefyd - maen nhw ymhob man fel cerrig beddi ehedog ys dywed Bobi Jones (dwi'n meddwl).

Ynglŷn â'r newyddion tramor, byse hi'n braf tyse gan Golwg360 ohebwyr ym mhedwar ban byd ond, gan fod adnoddau'n brin, tybed fyse hi'n well canolbwyntio ar gael storis gwreiddiol dyfnach? Mae'r pytiau tramor yn fy siwtio i ond, mae lot o lefydd y gall pobl droi iddyn nhw am storiau tramor manwl.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Duw » Maw 23 Meh 2009 12:57 am

eusebio a ddywedodd:Ia, dwi'n gwybod sut mae clirio cwcis, dwi just ddim yn deall pam bod rhaid i mi glirio fy cwcis

Sori Eu, roedd hwnna i fod i bawb - jest rhag ofn bo pobl yn dewis dileu'r holl beth (cwcis, cache, hanes ...) - 'stim angen.

//GOLYGU

4 FFAX SEX - ydy'r wefan 'na'n mynd i dyfu lan ne' be'? Gorfod dileu cwcis POB TRO rwyn ymweld â'r blydi peth. Ocei dyna fe. Dyna'r tro ola dwi'n mynd i G360. Twll eu tîne.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Mr Gasyth » Maw 23 Meh 2009 8:44 am

(ond wedi gadael "Saethu dafad gyda dryll taser").


mae'n rhaid fod fy nghymraeg i'n wael, ond be sy'n bod ar hwnne?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Maw 23 Meh 2009 9:27 am

Saethu dafad â dryll wyt ti mewn iaith safonol.

Mae " 'da" yn cael ei ddefnyddio mewn rhai tafodieithoedd - fel "hefo".

"gyda"= "yng nghwmni" neu gyfleu agwedd neu ymateb e.e. "gyda phleser"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Meh 2009 9:35 am

Dyma fi'n gweld heddiw, a gwnes i ddileu y briwsion ddoe!

golwg555.jpg
golwg555.jpg (43.93 KiB) Dangoswyd 5563 o weithiau


Pam nad yw Golwg360 wedi medru datrys hyn ar ol rhyw 5 wythnos? Meddyliwch am y miloedd o Gymry Cymraeg sydd ddim yn deall beth yw briwsion/cookies (ac sydd ddim yn aelodau maes-e!), ac sydd wedi gweld sgrin wen yn unig o'r dechre. A fydd y rhain yn dychwelyd? Anhebygol iawn. Mae'n dechre troi yn ffars.

Dyle nhw wedi tynnu'r wefan yn syth ar ol gweld y shambls, a gwario cwpwl o filoedd i gael gwefan deche wedi ei adeiladu, ac ail-lansio. Does dim pwynt gwario ar y wefan sydd yno ar hyn o bryd, byddai'n wastraff arian. Haws dechre o'r dechre... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Ray Diota » Maw 23 Meh 2009 11:11 am

sian a ddywedodd:Saethu dafad â dryll wyt ti mewn iaith safonol.

Mae " 'da" yn cael ei ddefnyddio mewn rhai tafodieithoedd - fel "hefo".

"gyda"= "yng nghwmni" neu gyfleu agwedd neu ymateb e.e. "gyda phleser"


jiw jiw, sian... gobitho bod min ar y gyllell ti'n defnyddio i hollti'r blewyn 'ma...

dwi'n siwr bo ti'n iawn ond fydden i'n meddwl bo rhan fwya o bobol yn fodlon derbyn bod â/gyda yn gyfystyr bellach??
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Ray Diota » Maw 23 Meh 2009 11:14 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dyma fi'n gweld heddiw, a gwnes i ddileu y briwsion ddoe!

golwg555.jpg


Pam nad yw Golwg360 wedi medru datrys hyn ar ol rhyw 5 wythnos? Meddyliwch am y miloedd o Gymry Cymraeg sydd ddim yn deall beth yw briwsion/cookies (ac sydd ddim yn aelodau maes-e!), ac sydd wedi gweld sgrin wen yn unig o'r dechre. A fydd y rhain yn dychwelyd? Anhebygol iawn. Mae'n dechre troi yn ffars.

Dyle nhw wedi tynnu'r wefan yn syth ar ol gweld y shambls, a gwario cwpwl o filoedd i gael gwefan deche wedi ei adeiladu, ac ail-lansio. Does dim pwynt gwario ar y wefan sydd yno ar hyn o bryd, byddai'n wastraff arian. Haws dechre o'r dechre... :?


dwi'n gweld yr union yr un peth a dwinne di gwagio'r briwsion, gymrodd hi hanner awr i fi 'fyd (diolch am y cyfarwyddyd, Duw!)

ma'r peth yn warth... fyddai ddim yn mynd nol nawr, 'di cal llond bol...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron