TIPS GAN Y TOPS - CYFIEIHU

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

TIPS GAN Y TOPS - CYFIEIHU

Postiogan Blewgast » Sad 08 Tach 2003 5:42 pm

Dwi' m yn gwybod faint o'r maes yma sy'n cyfieithu o ddydd i ddydd , ond meddwl oeddan i tybed os oes gin rywun unrhyw dips am cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg. Ma'n rhaid i mi gyfieithu rhyw ddarn yn arholiad lefel A cymraeg ,a mae o bach o boendod!! Felly bydden i'n gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad!! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan Chris Castle » Sul 09 Tach 2003 11:15 am

Gwneud fersiwn Cymraeg yn hytrach na thrio cyfieithu'n llythrennol. Dyna beth dwi'n gwneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Macsen » Sul 09 Tach 2003 1:12 pm

Dwin tueddu i fynd trwyddo'n gyflym a gadael unrhyw eiriau saesneg dw i ddim yn ei gwybod ar ol. Yna, ar y diwedd, dwin mynd drwy'r Bruce am ryw hanner awr yn ffeindio'r geiriau coll i gyd. Mae'n gyflymach na gorfod pigo fyny'r breeze bloc 'na bob ryw dau funud.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Siffrwd Helyg » Sul 09 Tach 2003 9:18 pm

Does dim geiriadur yn yr arholiad yn yr arholiad yn anffodus :?

Uh ooooh!! :ofn:

Mae'n meddwl i o hyd yn mynd yn blanc pan dwi'n cyfieithu - er mod in gwybod y geiriau dwi'n chwilio amdano yn iawn!! (ac mae hyd yn oed yn waeth mewn arholiad! :rolio: )
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan cythralski » Llun 10 Tach 2003 12:29 pm

Trosi sy'n bwysicach. Trosglwyddo'r ysytyr yn y dull mwya effeithiol.
...and you can tell 'Rolling Stone' magazine that my last words were....
Rhithffurf defnyddiwr
cythralski
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 595
Ymunwyd: Llun 24 Chw 2003 4:44 pm
Lleoliad: Ar goll yn y gofod

Postiogan brenin alltud » Llun 10 Tach 2003 4:03 pm

Yn cymryd mai darn o ryddiaith (h.y. gwaith creadigol) y byddwch chi'n gorfod ei gyfieithu yn rhan o Lefel A, neu a oes yna fodiwl cyfieithu cyfoes gennych chi erbyn hyn?

Mae'n yrfa sy'n tyfu mor gyflym fel swn i ddim yn synnu petai ysgolion yn cynnig elfen o gyfieithu busnes yn rhan o'u cyrsie Cymraeg.

Beth bynnag, fel wedodd y lleill, os mai darn creadigol fyddi di'n neud (e.e. erthygl, ysgrif, darn o nofel neu stori fer, barddoniaeth...), trosi'r ystyr sy' isie i ti. Darllena'r darn, yna darllena fe 'to, myfyria ryw chydig ar naws ac arddull y darn, gofyn a yw'n y person cynta', yn y presennol neu'r gorffennol neu'r dyfodol, a yw'r arddull yn ffurfiol (felly Cymraeg ffurfiol, nid llafar) neu anffurfiol (paid mynd â hyn yn rhy bell; chwaraea'n saff a phaid ag arbrofi gormod ag acenion a iaith lafar, rhag ofn), beth yw cyd-destun y darn (e.e. iaith hen ffasiwn? cyfeiriadaeth hanesyddol?)...

OND, os mai darn busnes, swyddogol, cofnodion, mi ddylech chi gael geiriadur, achos ma na gymaint o derminoleg newydd yn y byd gwleidyddol/llywodraeth leol/awdurdodau cyhoeddus ayb fel nad yw'n deg disgwyl i chi eu gwybod nhw heb help geiriadur Bruce, neu lyfre terminoleg Canolfan Bedwyr ym Mangor.
Os da chi'n neud e ar gompiwtyr, gallwch chi dwyllo a mynd i wefan sgwrsio welsh-termau-cymraeg.co.uk sy'n wych - a chwilota am air penodol fan'ny. Mae Bruce ei hun yn un o'r cyfranwyr (!) ynghyd â nifer o arbenigwyr iaith erill.

Pob lwc - dim ond cofia ddeall y darn a'r hyn y mae pob brawddeg yn ei olygu cyn dechrau cyfieithu. Mae'n hawdd wedyn. :winc:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 10 Tach 2003 4:09 pm

brenin alltud a ddywedodd:Os da chi'n neud e ar gompiwtyr, gallwch chi dwyllo a mynd i wefan sgwrsio welsh-termau-cymraeg.co.uk sy'n wych - a chwilota am air penodol fan'ny. Mae Bruce ei hun yn un o'r cyfranwyr (!) ynghyd â nifer o arbenigwyr iaith erill.

Mwahaha! Erioed wedi cyfri' fy hun fel arbenigwr iaith, a fi'n cyfrannu at hynna'n weddol reolaidd! :lol:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan brenin alltud » Llun 10 Tach 2003 5:17 pm

... a ma na lot fawr o rybish disynnwyr arno fe hefyd :lol:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 10 Tach 2003 5:24 pm

eh? Be di'r cyfeiriad yn iawn? Oes posib ccael linc? Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan brenin alltud » Llun 10 Tach 2003 5:52 pm

http://www.jiscmail.ac.uk/lists/welsh-t ... mraeg.html

Swn i'n ti MM, faswn i ddim yn ymuno neu mi dderbyni di ddegau o e-bostie hirfaith yn trafod ryw derminoleg tywyll bob dydd, ond os ti am chwilota am be' fydde'r Gymraeg am ryw air/dihareb/dywediad/terminoleg/acronym ayb, mae'n debygol bod y rhan fwya' o eiriau'r byd Seisnig modern wedi'u gwyntyllu a'u trafod.

Mae cyfraniadau Berwyn Jones, Delyth Prys, Annes Glyn, Magi Lewis, Geraint Lovgreen ( :winc: ) ac un neu ddau eraill yn ddiddorol a dilys iawn, er y gelli fynd ar goll 'da chyfraniadau gorddeifiol a chwydlyd un neu ddau. 'Nabod Tim Saunders unrhyw un?

Ond os tisie treulio awr neu ddwy'n pori drwy'r esboniade a'r trafodaethau, mi ddysgi di lot o werth, ond llawer iawn yn ddiwerth!
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron