gan aled g job » Sad 20 Meh 2009 6:55 pm
Och a gwae mae'r Llewod wedi colli eu gem gyntaf..... Does ond gobeithio y bydd y clochdar ymffrostgar gan Eleri Sion a'i thebyg am Y Llewod ar Radio Cymru a S4c ychydig yn llai amlwg dros y dyddiau nesaf!
Rwan, yn bersonol, dwi am weld y Boks yn curo'r dair gem oherwydd yn anffodus mae yna ormod o'r hen ysbryd ymerodrol Prydeinig ar waith hefo'r Llewod ac angen sbaddu Prydeinod sydd nid ei swcro yn fy marn i. Wedi dweud hynny, mi wn i am Gymry pybyr sydd yn dweud eu bod yn cefnogi'r Llewod y tro hwn oherwydd bod cymaint o fois Cymru yn chwarae iddyn nhw ac mai cefnogi'r bois y mae nhw yn anad un peth arall. Dwi'n gallu parchu a derbyn y safbwynt hwnnw er nad ydi o'n safbwynt y medra'i rannu fy hun. Cytuno i anghytuno felly ar y pwnc hwn.
Ond yn fwy cyffredinol, efallai y byddai'n haws cytuno ar hyn o beth o leiaf: bod y sylw a roddir i'r Llewod ar Radio Cymru a S4C yn hollol ormodol ac eithafol. Bron nad oes modd mynd hanner awr ar Radio Cymru heb ryw son neu'i gilydd am y Llewod, ac mi fyddwn i'n dadlau bod y "coverage" y mae'r Cymro Cymraeg cyffredin sy'n gwrando ar Radio Cymru a S4C yn gorfod ei oddef yn llawer iawn mwy nag y byddai'r Sais cyffredin yn dod ar ei draws wrth ddilyn y cyfryngau yn Lloegr. Gyda'u polisi Llewod-addolgar, mae'r cyfryngau Cymraeg yn gwneud cam mawr a'r miloedd o Gymry sydd un ai'n gwbl wrthwynebus i fodolaeth y Llewod neu'n gwbl ddi-hid am yr holl beth.
Unwaith yn rhagor, mae'n dangos yr angen am Radio Cymru arall- ar donfedd arall- er mwyn cydnabod y ffaith bod gan y gynulleidfa Gymraeg ddiddordebau a blaenoriaethau gwahanol! Tydi pawb ddim yn gwirioni yr un fath chwedl TH!
Aled G Job