Darllenydd PDF yn Gymraeg

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Darllenydd PDF yn Gymraeg

Postiogan Rhoslyn Prys » Mer 01 Gor 2009 8:45 pm

Hei, 'llwytho i fyny' yw'r gorau :D
Mae'n disgrifio'n union beth sydd ar y tin ac yn caniatáu amrywiadau rheolaidd. Mae'r gweddill yn colli gafael ar ystyr y cysyniad gwreiddiol. Fel da ni'n gwybod mae pwyllgorau yn tueddi i greu camelod - a crowdsourcing mewn perygl o greu camel gydag o leiaf tri lwmp!

:ing:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: Darllenydd PDF yn Gymraeg

Postiogan Duw » Mer 01 Gor 2009 9:18 pm

Mae uchod yn codi pwynt pwysig. Gwnes i ddechre cyfieithu WordPress, dim ond i ffeindio bod cyfieithiad eisoes gan Rhoslyn. Allan o gwrteisi, gwnes atal ar y gwaith, er roeddwn rhyw 60% trwyddo. Mae dyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau bod cyfieithiadau'n cael eu nodi'n glir:

Os ydy person yn dechrau ar waith cyfieithu, bod gwefan y pecyn hwnnw'n dangos yr awdur, neu o leiaf bod son amdano ar safleoedd fel maes-e/facebook/meddal.com (ffri plyg Rhos!). Fel arall, gall sawl person weithio ar yr un pecyn.

Os ydy person am gywiro neu gynnig gwelliannau, dylai'r person hwnnw fod digon cwrtais â chysylltu â'r cyfieithydd gwreiddiol cyn cychwyn.

Ger llaw: lanlwytho/uwchlywtho/fynylwytho/llwytho i fyny - 'lanlwytho' i mi oherwydd dwi'n die hard hwntw, ond eto, mae angen meddwl am eiriau slic yn hytrach na chetyn brawddeg. Mae faint o le sydd i osod testun yn gallu effeithio ar ba air/geiriau a all eu defnyddio (yn anffodus). Mae'r 14 nod o 'llwytho i fyny' yn gallu achosi golwg rhai pecynnau i fynd yn ffradach. Realiti yw hwn, nid beirniadaeth ar y term.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Darllenydd PDF yn Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Mer 01 Gor 2009 9:48 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Uwchlwytho fydda i o hyd yn defnyddio erbyn hyn, ac mae'n cael ei ddefnyddio yn helaeth. Lanlwytho (de) fynylwytho (gogledd). Dwi'n credu, o'r hyn a gofiaf, penderfynodd y mwyafrif o'r criw wnaeth gyfieithu facebook mai uwchlwytho oedd yr opsiwn orau.


Do, gwnaethon, Hedd. Felly, dydy i ddim yn gweld pam wnaeth Rhosyn fynd bant o'i ben/phen efo fi, oherwydd fy mod i'n meddwl fy mod i wedi egluro'n ymestynnol!

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Diolch Glenn a Rhoslyn am y gwaith cyfieithu.


Croeso :D
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Darllenydd PDF yn Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Mer 01 Gor 2009 9:51 pm

Rhoslyn Prys a ddywedodd:Hei, 'llwytho i fyny' yw'r gorau :D
Mae'n disgrifio'n union beth sydd ar y tin ac yn caniatáu amrywiadau rheolaidd. Mae'r gweddill yn colli gafael ar ystyr y cysyniad gwreiddiol. Fel da ni'n gwybod mae pwyllgorau yn tueddi i greu camelod - a crowdsourcing mewn perygl o greu camel gydag o leiaf tri lwmp!

:ing:


Wel, Rhoslyn, mae hyn yn dibynnu ar bwy dy fod yn gofyn - dwi wedi dangos hyn mewn post blaenorol; mae pawb ar Facebook yn defnyddio "uwchlwytho," ac eraill ar led safleoedd eraill yn defnyddio geiriau eraill.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Darllenydd PDF yn Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Mer 01 Gor 2009 9:58 pm

Felly, Rhoslyn, yn ôl i'r pwynt. Gobeithio dy fod yn gweld yn awr yr oedd fy ychwanegiadau'n iawn, ac mae rhywun wedi'i "gywiro" yn bellach. A hoffet ti imi anfon y ddogfen "strings.txt" atat ti, oherwydd bod hyn (fy fersiwn i) yn lot agosa at beth dan ni isio nag y fersiwn sydd yn bodoli'n barod.

Ô.N., Bydd angen arnat ei hagor efo notepad2, neu ni fydd ysgrifeniadau Tsieineaidd/Rwsian (ayyb) yn gweithio.

Glenn
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Darllenydd PDF yn Gymraeg

Postiogan sian » Mer 01 Gor 2009 10:15 pm

Dw i'n derbyn bod 'na rai termau newydd y mae'n anodd cael cytundeb ynglŷn â nhw am wahanol resymau. Mae Welsh-Termau-Cymraeg yn gallu bod yn lle da am drafodaeth.

Dw i'n derbyn hefyd ei bod yn dda bod pobl gyffredin yn teimlo'u bod nhw'n gallu cyfrannu trwy gyfieithu gwahanol gymwysiadau.

Ond dw i yn meddwl bod angen parchu arbenigwyr yn y maes. Mae Rhoslyn a'i griw yn deall am beth maen nhw'n sôn ac mae eu Cymraeg nhw'n gadarn.

Dydi'r ffaith bod term yn cael ei ddefnyddio ar Facebook ddim yn golygu ei fod yn gywir - mae Cymraeg Facebook debyg i gamel â saith lwmp yn aml - rhai ohonyn nhw mewn llefydd rhyfedd iawn :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Darllenydd PDF yn Gymraeg

Postiogan Duw » Iau 02 Gor 2009 11:24 am

Dwi'n cytuno i radde Sian, er mae cymaint o feddalwedd mas 'na, stim gobaith i 'arbenigwyr' gyfieithu pob un ohonynt. Bydde'n rhaid ffocysu ar lawn dyrned o becynnau'n unig os taw dim ond 'arbenigwyr' (self-appointed??) sy'n cael cyfrannu.

Mae'n rhaid dweud fy mod wedi dod ar draws llawer o dermau hurt, wedi'u cynnig gan 'arbenigwyr'. Stim byd 'swish' am lawer ohonynt, dim ond cetyn brawddeg yn disgrifio gair syml. Mae angen mewnbwn pobl greadigol hefyd, nid yn unig arbenigwyr iaith a thechnoleg (nid i ddweud bod y rhain heb y gallu i fod yn greadigol!). Wedi'r cyfan, y cyhoedd, ni'r plebs sy'n mynd i ddefnyddio'r pecynnau - er dadl arall am gysondeb 'sbo.

Dechreuais ar brosiect 'cysoni' cwpwl o fisoedd yn ol: http://www.cyfieithu.wetwork.org.uk/index.php.

Prototeip ar gyfer rhyw syniad a gafodd defnyddiwr ar faes-e. Nid yw'r safle wedi'i orffen - sawl agwedd heb gychwyn - collais ddiddordeb (wedi danto), er hoffwn unrhyw adborth neu gall rhywun ddefnyddio'r syniadau yna - dwi ddim yn gweld bydd amser gennyg i'w ddatblygu'n bellach. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nôl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron