Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Kez » Sad 04 Gor 2009 11:55 am

Beth yw'r gair Cymraeg ma pobol yn iwso am keyboard?

Ma Windows 'da fi yn Gymraeg ac man nhw'n iwso bysellfwrdd.

Ifi'n cal problema gida bysellfwrdd fi ac mewn atab i 'nghwestiwn i ar edefyn arall, ma Dafydd yn gwed allweddell ac a gwed y gwir, ma lot gwell 'da fi hwnna.

Fi'n cal trafferth gwed y gair bysellfwrdd; own i'n treial gwed wrth ffrind fi Rob nithwr bthdi'r problema own i'n gal dag e ond dechreuws y gair bysellfwrdd ddod mas fel bsfffl... ac fi newitas i iaith yn gloi a gwed keyboard, ac fi own i'n sobor pwrni!

Dyw hi ddim yn air da odi ddi - bysellfwrdd. Byswn i'n gallu gwed bysellford yn rhwyddach. Dyw'r combination - llfw - ddim yn naturiol i'r Gymraeg odi ddi.

Dyw allweddell ddim yn wych ond ma'n slipo off y tafod bach yn rhwyddach - ond dim lot fawr ar ol basnid o fodca. Fi'n credu dyla pobol sy'n cyfieithiu''r terma hyn feddwl am bwy mor rwydd bysa hi i bobol eu gweud nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan sian » Sad 04 Gor 2009 12:19 pm

Y syniad sy 'da fi yw mai ar fysellfwrdd ti'n teipio ac mai ar allweddell ti'n gwneud miwsig.

Mae'r Briws yn cytuno am y bysellfwrdd ond am "keyboard (of piano &c)" mae'n dweud "nodau (pl), bysedd (pl), cyweirfwrdd (cyweirfyrddau), bysell(-au), allweddell(-au), trawsfwrdd (trawsfyrddau), llawfwrdd (llawfyrddau), seinglawr (seingloriau)" - dw i'n cymryd mai'r rhan o'r piano lle mae'r "nodau, allweddau, bysedd" yw hwnnw.

Beth am yr offeryn? Am "keyboard instrument" mae'n dweud "offeryn llawfwrdd, offeryn clawr"

Dw i bron yn siwr bod "allweddell" yn cael ei dderbyn ond bod tuedd i'w alw'n "allweddellau" (lluosog).
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Kez » Sad 04 Gor 2009 12:56 pm

Y broblem fel w i'n ei gweld hi yw bod bron neb yn mynd i ddefynyddio geiriau fel bysellfwrdd ar lafar a'r opsiwn nesa yw defynddio'r Sysnag a gwed keyboard. Beth sy'n bod ar rywbeth syml fel gweud y bwrdd teipo. Ma gan y Gymraeg gryfder i greu geiriau cyfansawdd ond rhaid bo nhw'n tripo off y tafod ne ryn ni'n creu gagendor arall rhwnt yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Dafydd ab Iago » Sad 04 Gor 2009 3:31 pm

Kez a ddywedodd:Y broblem fel w i'n ei gweld hi yw bod bron neb yn mynd i ddefynyddio geiriau fel bysellfwrdd ar lafar a'r opsiwn nesa yw defynddio'r Sysnag a gwed keyboard. Beth sy'n bod ar rywbeth syml fel gweud y bwrdd teipo. Ma gan y Gymraeg gryfder i greu geiriau cyfansawdd ond rhaid bo nhw'n tripo off y tafod ne ryn ni'n creu gagendor arall rhwnt yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig.


Dwi'n defnyddio Ubuntu (math o Linux) a mae'r cyfrifiadur yn dweud "bysellfwrdd". A beth ydy keyboard shortcuts? Llwybrau byr y bysellfwrdd.

Mae'r un broblem yn bodoli gyda geiriau fel aerdymheru am airconditioning neu loncian am jogging.

Fel dysgwr dwi jyst yn derbyn beth dwi'n ei weld.

Beth dych chi'n dweud am tchips/sglodion?
Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ab Iago
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 22 Meh 2006 3:38 pm
Lleoliad: Brwsel

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Duw » Sad 04 Gor 2009 3:57 pm

Mae hwn yn cyffwrdd â'r broblem a godwyd mewn edefyn arall yn ddiweddar, h.y 'stim cronfa neu eirfa penodol i'w gael. Mae sawl un fan hyn fan draw, ond problemau cysoni sy'n codi ym mhobman.

Allweddell
Bysellfwrdd
Bysellydd

Dwi wedi clywed sawl person yn defnyddio pob un o'r uchod.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Azariah » Sad 04 Gor 2009 4:18 pm

Duw a ddywedodd:Mae hwn yn cyffwrdd â'r broblem a godwyd mewn edefyn arall yn ddiweddar, h.y 'stim cronfa neu eirfa penodol i'w gael. Mae sawl un fan hyn fan draw, ond problemau cysoni sy'n codi ym mhobman.

Allweddell
Bysellfwrddhttp://www.maes-e.com/hysbys ... swyddigwag
Bysellydd

Dwi wedi clywed sawl person yn defnyddio pob un o'r uchod.


Allweddell rwy wedi bod yn ei arfer ond os am dermau wedi eu safoni mae'r Termiadur yn cynnig:

bysellfwrdd ( cyfrifiadur )
allweddell ( offeryn cerddorol )
Azariah
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 7:13 pm

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Duw » Sad 04 Gor 2009 5:16 pm

Cytuno - bysellfwrdd yw'r un byddwn yn defnyddio fel arfer hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Kez » Sad 04 Gor 2009 5:33 pm

Ti'n athro Duw a ti'n diall dy stwff, felly fi naf dderbyn dy gyngor a bysellfwrdd amdani - er bo fe'n gont o air i weud yn gywir mewn sgwrs tafarn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Duw » Sad 04 Gor 2009 9:06 pm

Cytuno â thithe 'ed Kez - gair ffiaidd, er dwi ddim yn gwybod beth i'w ddefnyddio yn ei le. Mae'n dda mewn rhai ffyrdd, er teimlo ei fod yn air trwm, anystwyth.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan sian » Sad 04 Gor 2009 9:24 pm

Kez a ddywedodd:Y broblem fel w i'n ei gweld hi yw bod bron neb yn mynd i ddefynyddio geiriau fel bysellfwrdd ar lafar a'r opsiwn nesa yw defynddio'r Sysnag a gwed keyboard. Beth sy'n bod ar rywbeth syml fel gweud y bwrdd teipo. Ma gan y Gymraeg gryfder i greu geiriau cyfansawdd ond rhaid bo nhw'n tripo off y tafod ne ryn ni'n creu gagendor arall rhwnt yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig.


Mae yn anodd gwbod pa eiriau sy'n mynd i gydio a pha rai sy ddim.
Mae 'na rai sy'n amlwg yn non-starters - fel "ysgytlaeth" :D
Mae "cyfrifiadur" wedi cydio'n o lew - er nad yw e'n tripo off y tafod

Dw i wedi bod yn defnyddio "smwythod" am "smoothies" - am fod y gair yn debyg i'r Saesneg ac yn golygu run peth - meddwl falle bod 'dag e well siawns na rhywbeth fel "trwyth ffrwyth" neu "llymaid llyfn". Be chi'n feddwl?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron