Partizan 8-0 Rhyl yn y diwedd. 12-0 dros y ddwy gêm!
Y peth yw, galle Rhyl fod wedi chwarae'r ddwy gêm fel San Marino, 11 dyn tu ôl i'r bêl, a falle colli o hanner y sgor, ond wnaeth Rhyl chwarae yn ymosodol iawn, a cafwyd sawl cyfle da iawn i sgorio. Mae'n od dweud hyn, ond er colli o 8-0, fe wnaeth Rhyl chwarae'n weddol...
Roedd Dad a'r brawd bach mas yn Serbia yn cefnogi, gyda rhyw 30 o gefnogwyr eraill y Rhyl (Ann Jones AC yn eu plith mwy na thebyg!). Roedd gan fy mrawd faner anferth Cymru (un o'r baneri go iawn wedi gwnio, nid un o'r rhai plastig 'na). Rhedodd rhywun heibio a dwyn y faner. Welodd criw o gefnogwyr Partizan hyn, a daeth un ohonynt lan at Ioan, tynnu ei grys Partizan i ffwrdd a'i roi i Ioan fel anrheg gan fod rhywun wedi dwyn ei faner. Chwarae teg.