gan Rhys Llwyd » Iau 09 Gor 2009 1:24 pm
Dwi di gadael y neges ma ar y blog ond dyma hi fan hyn hefyd:
Tra bod anghyfiawnder i'w weld ar draws y byd a thra bo diwylliannau o bob math yn diflannu, maen naturiol dechrau wrth ein traed. O ganlyniad, prif ffocws ein holl bolisïau ac ymgyrchu yw'r angen i bwysleisio'r amodau hynny a fydd yn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg a chymunedau Cymru. Trwy wneud hynny, gallwn gyfrannu at yr ymgyrch ehangach dros gyfiawnder cymdeithasol, gan fod ymgyrchu o blaid yr iaith hefyd yn golygu ymgyrchu dros yr hawl i reoli ein dyfodol. Ar yr un pryd, pwysleisiwn barodrwydd parhaol Cymdeithas yr Iaith i gyd-weithio gyda mudiadau radical eraill sydd yn rhannu ein gweledigaeth ac yn awyddus i weld newid.
Trwy'r nawdegau ac i mewn i'r ganrif newydd daeth mwy a mwy yng Nghymru i goleddu'r gred dwyllodrus fod dyfodol y Gymraeg bellach yn ddiogel. Yn raddol datblygodd consensws a oedd o'r farn fod protest, er gwaethaf ei gyfraniad eithriadol o effeithiol i fywyd Cymru, bellach yn perthyn i'r gorffennol ac y gellir yn awr hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'r sustem. O bosib y symudiad peryclaf yn y maes yma yw'r ymgais i dynnu'r Gymraeg allan o wleidyddiaeth – i niwtraleiddio'r Gymraeg. Defnyddir y ddadl yma yn aml gan y sefydliad er mwyn cyfiawnhau gwerthoedd afiach. Er engrhaifft yn y saithdegau – ‘cadwch wleidyddiaeth allan o chwaraeon' (fel y gallwn fynd i Dde-Affrica i chwarae rygbi ac i gydnabod y drefn Apartheid). Trwy barhau gyda'n safiad gwrthsefydliadol a gwrth-gyfalafol nod Cymdeithas yr Iaith yw ymladd yn erbyn y pydredd mewnol, gan greu hinsawdd gwleidyddol mwy beirniadol a gwyliadwrus. Mae'r iaith yn colli tir yn gyflym a rhaid i ni weithredu yn fuan. Ni wnaeth ymgyrchoedd y degawdau diwethaf ond sicrhau na fyddai'r Gymraeg yn iaith farw erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif. Yn awr, rhaid i ni ddeffro i frwydr newydd!
Un o nodweddion cenedlaetholdeb Prydeinig erioed oedd dyrchafu achosion tramor tra'n difrïo ymgyrchoedd am gyfiawnder o flaen eu trwynau. Tra oedd arweinwyr Llafur yng Nghymru yn hanner addoli Jawaharlal Nehru yn yr 1950s roedde nhw'n mynd rownd y lle'n galw Gwynfor Evans yn ffasgydd! A dyma ni heddiw yn cael aelod blaenllaw o Amnesty yn difrïo ymgyrchwyr cyfiawnder yng Nghymru ond yn rhoi sylwi i achos tramor. Y mae'r achos tramor yn deilwng iawn o sylw ond pam y safonau dwbl Amnesty?