Cymedrolwr: gronw
Josgin a ddywedodd:At beth yn union wyt ti'n cyfeirio , Rhys , parthed sylwadau gan Amnesty ?
Dim LCO yn Xinjiang
Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu, cymryd cam bach yn ol, ac edrych efallau tu hwnt i Gymru fach. Mae’r “Welsh knot” eisioes yn hanes hynafol i ni Cymru Gymraeg ond nid fellu bu bywyd yn Xinjiang heddiw. Pan ymwelodd Rebiya Kadeer a’r Cynulliad yn 2007 esboniodd am y cyfyngiad llym yn erbyn crefydd, diwylliant ag iaeth yr Uighur a sonioedd yn enwedig am y tristwch a thor calon o gorfodi plant i ardaloedd o China i dderbyn eu addysg mewn iaeth a dywylliant estron.Mae athrawon a phlant yn wynebu dirwy am siarad mamiaith yn yr ysgol a mae ymgyrchwyr yn cael eu carcharu am rhannu wybodaeth am datganoli. Yr wythnos yma gwelwyd marwolaeth 140 person, a dros mil o ymgyrchwyr yn cael eu arestio. Braint yw ddadl yr LCO, yn anffodus nid iw fath braint ar gael i bawb yn ein byd.
sian a ddywedodd:Mae hynna'n hollol anhygoel.
Dw i'n cymryd mai barn unigolyn yw hynna yn hytrach nag official party line Amnest.
Oes modd cwyno wrth rywun?
Dafydd Morgan Lewis a ddywedodd:Yn dilyn ein sgwrs ar y ffôn ddoe ynglŷn â chynnwys neges Gymraeg gan 'ymgyrchydd' ar flog Amnesty International UK - http://blogs.amnesty.org.uk/blogs_entry.asp?eid=3455 - credaf ei bod hi'n angenrheidiol i ddanfon llythyr o gŵyn swyddogol atoch ar y mater ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cafodd y geiriau tramgwyddus eu postio nid yn unig ar wefan swyddogol Amnest Rhyngwladol ond fe roddwyd dolen iddynt hefyd ar fforwm drafod boblogaidd yn yr iaith Gymraeg a elwir yn maes-e - viewtopic.php?f=3&t=27634. Y tro hwn defnyddiodd y cyfrannwr yr enw Amnest Cymru sy'n codi'r cwestiwn os cafodd y blog ei ysgrifennu gan aelod o'ch staff yng Nghymru?
Dyma sy'n cael ei ddweud ar y blog:
“Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu, cymryd cam bach yn ol, ac edrych efallau tu hwnt i Gymru fach. Mae’r “Welsh knot” eisioes yn hanes hynafol i ni Cymru Gymraeg ond nid fellu bu bywyd yn Xinjiang heddiw. Pan ymwelodd Rebiya Kadeer a’r Cynulliad yn 2007 esboniodd am y cyfyngiad llym yn erbyn crefydd, diwylliant ag iaeth yr Uighur a sonioedd yn enwedig am y tristwch a thor calon o gorfodi plant i ardaloedd o China i dderbyn eu addysg mewn iaeth a dywylliant estron.Mae athrawon a phlant yn wynebu dirwy am siarad mamiaith yn yr ysgol a mae ymgyrchwyr yn cael eu carcharu am rhannu wybodaeth am datganoli. Yr wythnos yma gwelwyd marwolaeth 140 person, a dros mil o ymgyrchwyr yn cael eu arestio. Braint yw ddadl yr LCO, yn anffodus nid iw fath braint ar gael i bawb yn ein byd.”
Byddai ar rhywun angen gwers hir yn hanes Cymru i lawn werthfawrogi'r gyfeiriadaeth yn y cofnod uchod. Mae yna hefyd gyfeiriad at broses ddeddfwriaethol ynglŷn â'r iaith Gymraeg sydd yn digwydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r senedd yn Llundain ar hyn o bryd.
Hoffwn egluro fod ein mudiad, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau ieithyddol yng Nghymru ers hanner canrif. Mae hyn wedi golygu ymgyrchu dros ffurflenni dwyieithog, arwyddion ffyrdd dwyieithog, addysg Gymraeg, sianel deledu Gymraeg, a hawliau ieithyddol sylfaenol i Gymry Cymraeg fel eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion cyfartal yma yng Nghymru.
Fe fu erioed agwedd rhyngwladol ar ein gwaith, ac yr ydym wedi cydweithio gyda'r Cwrdiaid yn Nhwrci nad yw eu sefyllfa mor annhebyg a hynny i un yr Uighur ddisgrifir uchod gan iddynt gael eu gormesu a'u cosbi am siarad eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain. Yr ydym hefyd yn ddiweddar wedi bod yn codi arian i helpu'r trueiniaid yn Gaza.
Tra ein bod yn croesawu'r ffaith fod Amnesti wedi gosod cofnod Cymraeg ar eu blog, mae'n anffodus fod y cofnod hwnnw wedi ei ysgrifennu mewn ffordd mor gas. Cafodd hefyd ei ysgrifennu mewn ffordd sydd mor groes i ysbryd Amnesti ei hun.
Mae'n fater o bryder pellach i ni ei bod hi'n bosibl i'r cofnod gael ei ysgrifennu gan rhywun sy'n gyflogedig gan Amnesti. Os yw hynny'n wir rhaid gofyn y cwestiwn os oes gan y person hwnnw gyn lleied o ddealltwriaeth a chydymdeimlad gyda'r lleiafrif ieithyddol yng Nghymru a ydyw mewn gwirionedd yn gymwys i weithio i chi fel mudiad? Rhaid dweud nad yw'r cofnod uchod yn adlewyrchu yn dda iawn arnoch ac fe allai wneud drwg mawr i'ch enw da yma yng Nghymru ac ar y gwaith rhagorol yr ydych yn ei wneud.
Efallai y dylid trefnu cyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Amnesti Rhyngwladol er mwyn trafod rhai o'r materion hyn ymhellach.
Yr eiddoch yn gywir
Dafydd Morgan Lewis
Swyddog Gweinyddol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai