LCO's i'r Uighurs?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Amnest Cymru » Iau 09 Gor 2009 11:05 am

Bore ma blogio ni ar sefyllfa yn Xinjiang yn enwedig ar materion polisi iaeth. Dyma'r linc i ddarllen mwy amdani. Os oes unrhyw un arall eisiau trafod hawliau dynol ar y we yn y Gymraeg gadewch i ni wybod.http://blogs.amnesty.org.uk/blogs_entry.asp?eid=3455
Amnest Cymru
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Iau 09 Gor 2009 10:32 am

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 09 Gor 2009 1:24 pm

Dwi di gadael y neges ma ar y blog ond dyma hi fan hyn hefyd:

Tra bod anghyfiawnder i'w weld ar draws y byd a thra bo diwylliannau o bob math yn diflannu, maen naturiol dechrau wrth ein traed. O ganlyniad, prif ffocws ein holl bolisïau ac ymgyrchu yw'r angen i bwysleisio'r amodau hynny a fydd yn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg a chymunedau Cymru. Trwy wneud hynny, gallwn gyfrannu at yr ymgyrch ehangach dros gyfiawnder cymdeithasol, gan fod ymgyrchu o blaid yr iaith hefyd yn golygu ymgyrchu dros yr hawl i reoli ein dyfodol. Ar yr un pryd, pwysleisiwn barodrwydd parhaol Cymdeithas yr Iaith i gyd-weithio gyda mudiadau radical eraill sydd yn rhannu ein gweledigaeth ac yn awyddus i weld newid.

Trwy'r nawdegau ac i mewn i'r ganrif newydd daeth mwy a mwy yng Nghymru i goleddu'r gred dwyllodrus fod dyfodol y Gymraeg bellach yn ddiogel. Yn raddol datblygodd consensws a oedd o'r farn fod protest, er gwaethaf ei gyfraniad eithriadol o effeithiol i fywyd Cymru, bellach yn perthyn i'r gorffennol ac y gellir yn awr hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'r sustem. O bosib y symudiad peryclaf yn y maes yma yw'r ymgais i dynnu'r Gymraeg allan o wleidyddiaeth – i niwtraleiddio'r Gymraeg. Defnyddir y ddadl yma yn aml gan y sefydliad er mwyn cyfiawnhau gwerthoedd afiach. Er engrhaifft yn y saithdegau – ‘cadwch wleidyddiaeth allan o chwaraeon' (fel y gallwn fynd i Dde-Affrica i chwarae rygbi ac i gydnabod y drefn Apartheid). Trwy barhau gyda'n safiad gwrthsefydliadol a gwrth-gyfalafol nod Cymdeithas yr Iaith yw ymladd yn erbyn y pydredd mewnol, gan greu hinsawdd gwleidyddol mwy beirniadol a gwyliadwrus. Mae'r iaith yn colli tir yn gyflym a rhaid i ni weithredu yn fuan. Ni wnaeth ymgyrchoedd y degawdau diwethaf ond sicrhau na fyddai'r Gymraeg yn iaith farw erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif. Yn awr, rhaid i ni ddeffro i frwydr newydd!

Un o nodweddion cenedlaetholdeb Prydeinig erioed oedd dyrchafu achosion tramor tra'n difrïo ymgyrchoedd am gyfiawnder o flaen eu trwynau. Tra oedd arweinwyr Llafur yng Nghymru yn hanner addoli Jawaharlal Nehru yn yr 1950s roedde nhw'n mynd rownd y lle'n galw Gwynfor Evans yn ffasgydd! A dyma ni heddiw yn cael aelod blaenllaw o Amnesty yn difrïo ymgyrchwyr cyfiawnder yng Nghymru ond yn rhoi sylwi i achos tramor. Y mae'r achos tramor yn deilwng iawn o sylw ond pam y safonau dwbl Amnesty?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Josgin » Iau 09 Gor 2009 7:38 pm

At beth yn union wyt ti'n cyfeirio , Rhys , parthed sylwadau gan Amnesty ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 09 Gor 2009 7:41 pm

Josgin a ddywedodd:At beth yn union wyt ti'n cyfeirio , Rhys , parthed sylwadau gan Amnesty ?


Sylwadau isod gan Amnest Cymru... (sy'n cael eU rhedeg yng Nghymru gan gyn SPAD Welsh labour)

Dim LCO yn Xinjiang

Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu, cymryd cam bach yn ol, ac edrych efallau tu hwnt i Gymru fach. Mae’r “Welsh knot” eisioes yn hanes hynafol i ni Cymru Gymraeg ond nid fellu bu bywyd yn Xinjiang heddiw. Pan ymwelodd Rebiya Kadeer a’r Cynulliad yn 2007 esboniodd am y cyfyngiad llym yn erbyn crefydd, diwylliant ag iaeth yr Uighur a sonioedd yn enwedig am y tristwch a thor calon o gorfodi plant i ardaloedd o China i dderbyn eu addysg mewn iaeth a dywylliant estron.Mae athrawon a phlant yn wynebu dirwy am siarad mamiaith yn yr ysgol a mae ymgyrchwyr yn cael eu carcharu am rhannu wybodaeth am datganoli. Yr wythnos yma gwelwyd marwolaeth 140 person, a dros mil o ymgyrchwyr yn cael eu arestio. Braint yw ddadl yr LCO, yn anffodus nid iw fath braint ar gael i bawb yn ein byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan sian » Iau 09 Gor 2009 7:49 pm

Mae hynna'n hollol anhygoel.
Dw i'n cymryd mai barn unigolyn yw hynna yn hytrach nag official party line Amnest.
Oes modd cwyno wrth rywun?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 09 Gor 2009 7:57 pm

sian a ddywedodd:Mae hynna'n hollol anhygoel.
Dw i'n cymryd mai barn unigolyn yw hynna yn hytrach nag official party line Amnest.
Oes modd cwyno wrth rywun?


Wel blogiad yw e ar wefan Amnest, felly efallai y gellid dadlau mai barn unigolyn yw hyn, ond mae'r sawl tan sylw hefyd wedi cofrestru gyda maes-e dan yr enw 'Amnest Cymru' er mwyn hyrwyddo'r blogiad. Mae angen gofyn y cwestiwn a yw hwn yn flogiad swyddogol ar ran Amnest Cymru neu beidio.

Mae Dafydd o swyddfa Cymdeithas yr Iaith yn Aber wedi ffonio i gwyno, ac wedi llunio llythyr. Mi bostiaf y cynnwys yma.

Gallwch adael sylwadau yma - http://blogs.amnesty.org.uk/blogs_entry.asp?eid=3455 - neu ebostio swyddfa Amnest yng Nghymru cymru@amnesty.org.uk neu wales@amnesty.org.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Josgin » Iau 09 Gor 2009 8:17 pm

A oes modd enwi'r 'sosialydd Prydeinig' sy'n gyfrifol am y fath sbeit ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 09 Gor 2009 8:58 pm

wel, does dim prawf, ond... Byddai'n dda cael gwybod gan Amnesti pwy oedd yn gyfrifol am y blogiad.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan sian » Gwe 10 Gor 2009 7:35 am

Wedi anfon hwn at amnest:

Annwyl Gyfaill,
Ro'n i wir yn methu credu fy llygaid ac yn teimlo'n sâl pan welais y blog Cymraeg ar wefan Amnest Rhyngwladol ddoe.
"Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu ..."
Alla i ddim coelio bod rhywun o fudiad sy'n ymladd dros hawliau pobl yn gallu bod mor sarhaus at hawliau'r Gymraeg yng Nghymru.
Yn fy mhrofiad i, y bobl s'n weithgar dros y Gymraeg yn ein cymunedau yw'r bobl sy'n malio am hawliau pobl eraill hefyd ac mae agwedd fel hon yn gwneud drwg mawr i enw da Amnest.
Gwn ei fod yn dweud "Views voiced on these blogs are not necessarily Amnesty International's own" ond mae rhywun â'r enw "Amnest Cymru" ar maes-e wedi dweud "Bore ma blogio ni …" sy'n awgrymu ei fod yn cael sêl bendith y mudiad.

Hyderaf y cymerwch gamau i gywiro'r sefyllfa.


Gobeithio y darllenan nhw neges Rhys - a'i hystyried!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 10 Gor 2009 2:22 pm

Dafydd Morgan Lewis o swyddfa Cymdeithas yr Iaith wedi danfon y llythyr yma at swyddfa Amnesti yng Nghaerdydd a Llundain:

Dafydd Morgan Lewis a ddywedodd:Yn dilyn ein sgwrs ar y ffôn ddoe ynglŷn â chynnwys neges Gymraeg gan 'ymgyrchydd' ar flog Amnesty International UK - http://blogs.amnesty.org.uk/blogs_entry.asp?eid=3455 - credaf ei bod hi'n angenrheidiol i ddanfon llythyr o gŵyn swyddogol atoch ar y mater ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cafodd y geiriau tramgwyddus eu postio nid yn unig ar wefan swyddogol Amnest Rhyngwladol ond fe roddwyd dolen iddynt hefyd ar fforwm drafod boblogaidd yn yr iaith Gymraeg a elwir yn maes-e - viewtopic.php?f=3&t=27634. Y tro hwn defnyddiodd y cyfrannwr yr enw Amnest Cymru sy'n codi'r cwestiwn os cafodd y blog ei ysgrifennu gan aelod o'ch staff yng Nghymru?

Dyma sy'n cael ei ddweud ar y blog:

“Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu, cymryd cam bach yn ol, ac edrych efallau tu hwnt i Gymru fach. Mae’r “Welsh knot” eisioes yn hanes hynafol i ni Cymru Gymraeg ond nid fellu bu bywyd yn Xinjiang heddiw. Pan ymwelodd Rebiya Kadeer a’r Cynulliad yn 2007 esboniodd am y cyfyngiad llym yn erbyn crefydd, diwylliant ag iaeth yr Uighur a sonioedd yn enwedig am y tristwch a thor calon o gorfodi plant i ardaloedd o China i dderbyn eu addysg mewn iaeth a dywylliant estron.Mae athrawon a phlant yn wynebu dirwy am siarad mamiaith yn yr ysgol a mae ymgyrchwyr yn cael eu carcharu am rhannu wybodaeth am datganoli. Yr wythnos yma gwelwyd marwolaeth 140 person, a dros mil o ymgyrchwyr yn cael eu arestio. Braint yw ddadl yr LCO, yn anffodus nid iw fath braint ar gael i bawb yn ein byd.”

Byddai ar rhywun angen gwers hir yn hanes Cymru i lawn werthfawrogi'r gyfeiriadaeth yn y cofnod uchod. Mae yna hefyd gyfeiriad at broses ddeddfwriaethol ynglŷn â'r iaith Gymraeg sydd yn digwydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r senedd yn Llundain ar hyn o bryd.

Hoffwn egluro fod ein mudiad, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau ieithyddol yng Nghymru ers hanner canrif. Mae hyn wedi golygu ymgyrchu dros ffurflenni dwyieithog, arwyddion ffyrdd dwyieithog, addysg Gymraeg, sianel deledu Gymraeg, a hawliau ieithyddol sylfaenol i Gymry Cymraeg fel eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion cyfartal yma yng Nghymru.

Fe fu erioed agwedd rhyngwladol ar ein gwaith, ac yr ydym wedi cydweithio gyda'r Cwrdiaid yn Nhwrci nad yw eu sefyllfa mor annhebyg a hynny i un yr Uighur ddisgrifir uchod gan iddynt gael eu gormesu a'u cosbi am siarad eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain. Yr ydym hefyd yn ddiweddar wedi bod yn codi arian i helpu'r trueiniaid yn Gaza.

Tra ein bod yn croesawu'r ffaith fod Amnesti wedi gosod cofnod Cymraeg ar eu blog, mae'n anffodus fod y cofnod hwnnw wedi ei ysgrifennu mewn ffordd mor gas. Cafodd hefyd ei ysgrifennu mewn ffordd sydd mor groes i ysbryd Amnesti ei hun.

Mae'n fater o bryder pellach i ni ei bod hi'n bosibl i'r cofnod gael ei ysgrifennu gan rhywun sy'n gyflogedig gan Amnesti. Os yw hynny'n wir rhaid gofyn y cwestiwn os oes gan y person hwnnw gyn lleied o ddealltwriaeth a chydymdeimlad gyda'r lleiafrif ieithyddol yng Nghymru a ydyw mewn gwirionedd yn gymwys i weithio i chi fel mudiad? Rhaid dweud nad yw'r cofnod uchod yn adlewyrchu yn dda iawn arnoch ac fe allai wneud drwg mawr i'ch enw da yma yng Nghymru ac ar y gwaith rhagorol yr ydych yn ei wneud.

Efallai y dylid trefnu cyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Amnesti Rhyngwladol er mwyn trafod rhai o'r materion hyn ymhellach.

Yr eiddoch yn gywir

Dafydd Morgan Lewis
Swyddog Gweinyddol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron