O'n i heb feddwl am hyn o'r blaen, nes i ddysgwr pwyntio fo allan imi, ond pam ydyn ni'n deud Ynys Môn ac Ynys Manaw yn hytrach na Fôn a Fanaw? Yn enwedig gan mai 'Sir Fôn' yw hi, nid Sir Môn
Ymddieuriade, fy esgus i yw mod i'n dod o Drenewydd
Cymedrolwr: Gwen
Hedd Gwynfor a ddywedodd: Mwy na thebyg nad oes rheswm amlwg, mae hyn yn digwydd gyda enwau sydd wedi bodoli ers hydoedd e.e. pam Tyddewi? Mae Tŷ yn wrywaidd. Ond mae'n bosib iawn (hyd yn oed tebygol! ) mod i'n siarad nonsens fan hyn.
Kez a ddywedodd:Hedd Gwynfor a ddywedodd: Ti'n gallu gweud Sir Dyfed, Sir Powys ac ati ond ma'r atab i dy gwestiwn yn gymhleth odiaeth; ma'n well dibynnu ar y glust ac arferion llafar heb gwestiynnu'r peth gormod ne' ei di i bicil.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 52 gwestai