Dwi di bod wrthi'n trio bwcio band traddodiadol i'r priodas cw, ac, wrth i chwilio, ddes ar draws y "chwibanogl" ar wefan crasdant. Dwi'n hoffi'r sain/swn(?!) ond dwi ddim yn gwybod beth yw chwibanogl, a does modd i mi ofyn am un mewn band os na allaf esbonio Hefyd, ella ai allan a prynnu un er mwyn dysgu chwarae'r Deryn Pur arni! Ond beth yw e?
Wedi bod yn gwglo am llun o un, ond dim lwc...unrhywun yn fama yn gwybod beth yw e?